
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefn Adolygu) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Ebrill 2015.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr adolygwr” (“the reviewer”) yw—
(a) pan nad yw’r penderfyniad gwreiddiol yn cael ei wneud o dan adran 80(5), yr awdurdod;
(b) pan fo’r penderfyniad gwreiddiol yn cael ei wneud o dan adran 80(5) (penderfyniad ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni)—
(i) yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir, pan fo’r adolygiad yn cael ei wneud gan yr awdurdodau hynny; neu
(ii) y person a benodwyd i gynnal yr adolygiad yn unol â rheoliad 4, pan fo’r achos yn dod o fewn y rheoliad hwnnw;
 ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw—
(a) yr awdurdod tai lleol a wnaeth y penderfyniad y gofynnwyd am adolygiad ohono o dan adran 85, neu
(b) yr awdurdod sy’n hysbysu os gwnaed y penderfyniad hwnnw o dan adran 80(5) (penderfyniad ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall wedi eu bodloni);
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc;
 ystyr “y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau” (“the Decisions on Referrals Order”) yw Gorchymyn Digartrefedd (Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau) 1998.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
2 

(1) Rhaid gofyn i’r awdurdod am adolygiad o dan adran 85.
(2) Ac eithrio pan fo achos yn dod o fewn rheoliad 4, rhaid i’r awdurdod y gofynnwyd iddo am adolygiad o dan adran 85 o fewn pum niwrnod gwaith o gael cais—
(a) gwahodd y ceisydd, a phan fo’n berthnasol, gynrychiolydd y ceisydd, i wneud sylwadau ar lafar neu’n ysgrifenedig neu ar lafar ac yn ysgrifenedig; a
(b) os nad ydyw eisoes wedi gwneud hynny, hysbysu’r ceisydd am y weithdrefn i’w dilyn mewn cysylltiad â’r adolygiad.
(3) Pan fo achos yn dod o fewn rheoliad 4, rhaid i’r person a benodwyd yn unol â’r rheoliad hwnnw o fewn pum niwrnod gwaith o gael ei benodi—
(a) gwahodd y ceisydd, a phan fo’n berthnasol, gynrychiolydd y ceisydd, i wneud sylwadau ar lafar neu’n ysgrifenedig neu ar lafar ac yn ysgrifenedig; a
(b) hysbysu’r ceisydd am y weithdrefn i’w dilyn mewn cysylltiad â’r adolygiad.
3 
Pan fo penderfyniad yr awdurdod ynghylch adolygiad o benderfyniad gwreiddiol a wnaed gan swyddog o’r awdurdod hefyd i’w wneud gan swyddog, rhaid i’r swyddog hwnnw fod yn rhywun nad oedd wedi ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol.
4 

(1) Pan gafodd y penderfyniad gwreiddiol o dan adran 80(5) (pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni) ei wneud o dan y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau, mae adolygiad o’r penderfyniad hwnnw (yn ddarostyngedig i baragraff (2)) i’w gynnal gan berson a benodwyd gan yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir.
(2) Os nad yw person yn cael ei benodi yn unol â pharagraff (1) o fewn pum niwrnod gwaith o’r diwrnod y gwneir cais am adolygiad, yna mae’r adolygiad i’w gynnal gan—
(a) person o’r panel a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 3 o’r Atodlen i’r Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau (“y panel”); a
(b) person a benodwyd yn unol â pharagraff (3).
(3) Rhaid i’r awdurdod sy’n hysbysu, o fewn pum niwrnod gwaith o ddiwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (2), ofyn i gadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru neu enwebai’r cadeirydd (“y swyddog priodol”) benodi person o’r panel a rhaid i’r swyddog priodol wneud hynny o fewn saith niwrnod i’r cais.
(4) Rhaid i’r awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir, o fewn pum niwrnod gwaith o benodi’r person a benodwyd (“y person penodedig”), ddarparu rhesymau i’r person penodedig am y penderfyniad gwreiddiol a’r wybodaeth a’r dystiolaeth sy’n sail i’r penderfyniad hwnnw.
(5) Rhaid i’r person penodedig—
(a) anfon unrhyw sylwadau a wnaed o dan reoliad 2 i’r awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir; a
(b) gwahodd yr awdurdodau hynny i ymateb i’r sylwadau hynny.
(6) Ni chaiff y person penodedig fod yr un person â’r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.
5 

(1) Rhaid i’r adolygwr, yn ddarostyngedig i gydymffurfio â darpariaethau rheoliad 6, ystyried—
(a) unrhyw sylwadau a wneir o dan reoliad 2, ac mewn achos sy’n dod o fewn rheoliad 4, unrhyw ymatebion iddynt; a
(b) unrhyw sylwadau a wneir o dan baragraff (2).
(2) Os yw’r adolygwr yn ystyried bod diffyg neu anghysondeb yn y penderfyniad gwreiddiol, neu yn y ffordd y cafodd ei wneud, ond er hynny’n bwriadu gwneud penderfyniad sy’n groes i fuddiannau’r ceisydd ar un neu ragor o faterion, rhaid i’r adolygwr hysbysu’r ceisydd—
(a) bod yr adolygwr yn bwriadu gwneud hynny a’r rhesymau pam; a
(b) y caiff y ceisydd, neu rywun sy’n gweithredu ar ran y ceisydd, wneud sylwadau i’r adolygwr ar lafar neu’n ysgrifenedig neu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
6 

(1) Y cyfnod y mae’n rhaid rhoi hysbysiad o benderfyniad yn dilyn adolygiad o dan adran 85 i’r ceisydd o dan adran 85(3) yw—
(a) wyth wythnos o’r diwrnod y gwneir cais am adolygiad, ac eithrio pan fo’r penderfyniad gwreiddiol yn dod o fewn is-baragraffau (b) ac (c);
(b) deng wythnos o’r diwrnod y gwneir cais am adolygiad, pan fo’r penderfyniad gwreiddiol yn dod o fewn adran 80(5) a’r adolygiad yn cael ei wneud gan berson a benodir gan yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir;
(c) deuddeng wythnos o’r diwrnod y gwneir y cais am adolygiad mewn achos sy’n dod o fewn rheoliad 4.
(2) Caiff y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) fod y cyfryw gyfnod hwy ag y caiff y ceisydd a’r adolygwr gytuno arno yn ysgrifenedig.
(3) Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(c), rhaid i’r person penodedig hysbysu’r awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir am y penderfyniad yn dilyn yr adolygiad, a’r rhesymau amdano, yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o un wythnos ar ddeg o’r diwrnod y gwneir y cais am yr adolygiad, neu o fewn cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod hwnnw sydd wythnos yn llai na’r hyn y cytunwyd arno yn unol â pharagraff (2).
7 
Mae’r Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau yn cael effaith at ddibenion y Rheoliadau hyn fel petai wedi ei wneud o dan y pwerau a roddir gan adran 80(5)(b) a (6)(b), ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwnnw at Ddeddf Tai 1996 i’w dehongli fel petaent yn cyfeirio at ddarpariaethau cyfatebol Deddf Tai (Cymru) 2014.
8 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau a ganlyn drwy hyn wedi eu dirymu o ran Cymru—
(a) Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu a Diwygio) 1996;
(b) Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) 1997;
(c) Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) (Rhif 2) 1997;
(d) Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) 1999.
(2) Mae’r Rheoliadau a ddirymir gan baragraff (1) yn parhau mewn grym mewn unrhyw achos pan fo cais am adolygiad o dan adran 202 o Ddeddf Tai 1996 yn cael ei wneud cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2015