
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Ebrill 2015.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr” (“list of specified categories of applicants”) yw’r categori neu’r categorïau o geiswyr y mae awdurdod tai lleol wedi penderfynu rhoi sylw i ba un a yw ceiswyr wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio mewn cysylltiad â hwy;
 ystyr “rhoi sylw i fwriadoldeb” (“have regard to intentionality”) yw rhoi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio at ddibenion adrannau 68 a 75.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
RHAN 1
2 
Mae’r canlynol yn gategorïau o geiswyr at ddiben adran 78 (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb)—
(a) menyw feichiog neu berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef;
(b) person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
(c) person—
(i) sy’n hyglwyf o ganlyniad i reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu
(ii) y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
(d) person—
(i) sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu
(ii) y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
(e) person—
(i) sy’n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig, neu
(ii) y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio’r sawl sy’n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
(f) person—
(i) sy’n 16 neu’n 17 oed pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, neu
(ii) y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
(g) person—
(i) sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, sy’n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu
(ii) y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
(h) person—
(i) sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu
(ii) y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
(i) person—
(i) sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu
(ii) y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
(j) person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy’n hyglwyf o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol—
(i) bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000,
(ii) bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan orchymyn llys, neu
(iii) bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012,
neu berson y mae person o’r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef.
RHAN 2
3 

(1) Rhaid i awdurdod tai lleol sy’n penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’i benderfyniad.
(2) Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig bennu—
(a) y rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr, a
(b) y rheswm neu’r rhesymau dros roi sylw i’r categori neu gategorïau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr.
(3) Rhaid darparu hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru dim llai na 14 o ddiwrnodau cyn gweithredu’r penderfyniad i roi sylw i fwriadoldeb.
4 

(1) Rhaid i awdurdod tai lleol sy’n penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb gyhoeddi hysbysiad o’i benderfyniad—
(a) ar wefan yr awdurdod (os oes ganddo un), a
(b) drwy osod copi o’r hysbysiad yn y swyddfeydd lle y daw ceisiadau am gymorth ynghylch digartrefedd i law,
dim llai na 14 o ddiwrnodau cyn gweithredu’r penderfyniad i roi sylw i fwriadoldeb.
5 

(1) Rhaid i awdurdod tai lleol gymryd camau rhesymol i roi gwybod i’r canlynol am ei benderfyniad o dan reoliad 4(1)—
(a) ceiswyr a’u cynghorwyr; a
(b) y fath awdurdodau cyhoeddus neu awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol neu bersonau eraill y mae’n eu hystyried yn briodol.
(2) Rhaid i awdurdod tai lleol sicrhau bod copi o’r hysbysiad o’i benderfyniad ar gael, yn ddi-dâl, i geiswyr y bydd y penderfyniad yn effeithio arnynt.
6 
Ni chaiff awdurdod tai lleol sydd wedi penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb ddiwygio’r rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr fwy na dwywaith mewn cyfnod o 12 mis. Mae rheoliadau 3, 4 a 5 yn gymwys i benderfyniad i ddiwygio rhestr fel y maent yn gymwys i’r penderfyniad gwreiddiol.
RHAN 3
7 

(1) Ni chaiff awdurdod tai lleol sy’n penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb yn unol ag adran 78 roi sylw i fwriadoldeb mewn perthynas â cheisydd presennol.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “ceisydd presennol” (“existing applicant”) yw ceisydd y mae’r ddyletswydd yn adran 62(1) yn ddyledus iddo ar yr adeg pan fo penderfyniad i roi sylw i fwriadoldeb yn cael ei wneud.
8 

(1) Ni chaiff awdurdod tai lleol sy’n rhoi sylw i fwriadoldeb roi sylw i fwriadoldeb mewn perthynas â cheisydd presennol—
(a) os yw’r awdurdod wedi tynnu un neu ragor o gategorïau o’i restr o gategorïau penodedig o geiswyr ac oni bai am hynny y byddai’r ceisydd presennol wedi dod o fewn y rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr, neu
(b) os yw’r awdurdod wedi cynnwys un neu ragor o gategorïau yn ei restr o gategorïau penodedig o geiswyr ac o ganlyniad i hynny mae’r ceisydd hwnnw yn dod o fewn y rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “ceisydd presennol” (“existing applicant”) yw ceisydd—
(a) sydd wedi ei ddisgrifio ym mharagraff (1)(a) neu (b), a
(b) y mae’r ddyletswydd yn adran 62(1) yn ddyledus iddo ar yr adeg pan fo newid yn cael ei wneud i’r rhestr o gategorïau penodedig o geiswyr.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2015