
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Diwygiadau Canlyniadol) 2014 a daw i rym ar 1 Ebrill 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn adran 145B(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) audit their accounts for a financial year. ”
3 

(1) Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 68(1), yn lle “Auditor General for Wales” rhodder “Wales Audit Office”.
(3) Yn unol â hynny, mae pennawd adran 68 yn newid i “Transfer of property etc to Wales Audit Office”.
(4) Yn Atodlen 3, yn lle “Auditor General for Wales” ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “Wales Audit Office”.
Jane Hutt
Y Gweinidog Cyllid, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2014