
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 yn unol â rheoliadau 3 i 12.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn lle paragraff (c) o’r diffiniad o “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”) rhodder—“
(c) yn yr Alban, gwasanaeth gofal iechyd annibynnol neu ysbyty seiciatrig preifat fel y’u diffinnir gan adran 10F(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 ;”;
(b) yn y diffiniad o “rhent” (“rent”), yn lle “rheoliad 12” rhodder “rheoliad 12B”.
4 
Yn rheoliad 8 (aelwydydd)—
(a) ym mharagraff 2(a), ar ôl “letya” mewnosoder “neu ei leoli”;
(b) ym mharagraff (5)—
(i) hepgorer “a” ar ôl is-baragraff (o); a
(ii) ar ôl is-baragraff (o), mewnosoder—“
(oa) Deddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011; a”.
5 
Yn rheoliad 28 (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—
(a) yn lle paragraff (5)(e) rhodder—“
(e) yn berson y rhoddwyd iddo, neu’r ystyrir y rhoddwyd iddo, ganiatâd y tu allan i’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971, pan fo’r caniatâd hwnnw yn—
(i) caniatâd disgresiynol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi,
(ii) caniatâd i aros o dan y consesiwn Amddifadedd Trais Domestig, neu
(iii) caniatâd yr ystyrir y’i rhoddwyd yn rhinwedd rheoliad 3 o Reoliadau Personau a Ddadleolwyd (Diogelu Dros Dro) 2005;”;
(b) hepgorer paragraff (5)(h);
(c) hepgorer paragraff (5)(i);
(d) ar ôl paragraff (5)(j) mewnosoder—“
(k) yn berson a drinnir fel gweithiwr at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau AEE yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ymaelodaeth Croatia (Mewnfudo ac Awdurdodi Gweithwyr) 2013 (hawl preswylio Croatiad sy’n “wladolyn gwladwriaeth ymaelodol yn ddarostyngedig i awdurdodi gweithwyr”).”
6 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£10.95” rhodder “£11.30”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.65” rhodder “£3.75”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£186.00” rhodder “£188.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£186.00”, “£322.00” a “£7.25” rhodder “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” yn eu trefn;
(v) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£322.00”, “£401.00” a “£9.15” rhodder “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” yn eu trefn;
(vi) yn is-baragraff (7)(d)(i) yn lle “rheoliad 24(6)” rhodder “rheoliad 26(6)”;
(b) ym mharagraff 10(1)(v)(iii) (ystyr “incwm”: pensiynwyr), yn y testun Cymraeg, yn lle “ar ôl talu rhent” rhodder “am dalu rhent”;
(c) ym mharagraff 11(3)(b)(iii) (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr), yn y testun Cymraeg, yn lle “ganiatáu” rhodder “alluogi”;
(d) ym mharagraff 14(1)(b) (cyfrifo enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr), yn y testun Cymraeg, yn lle “dros ba bynnag gyfnod” rhodder “dros ba bynnag gyfnod arall”;
(e) ym mharagraff 19(14)(c) (trin costau gofal plant: pensiynwyr), yn lle “o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994” rhodder “o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994”;
(f) ym mharagraff 24(4)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), yn lle “baragraff 23(3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff 23(4)” rhodder “baragraff 23(2)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff 23(3)”.
7 
Yn Atodlen 2 (Symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£145.40” a “£163.50” rhodder “£148.35” a “£165.15” yn eu trefn;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£222.05” a “£244.95” rhodder “£226.50” a “£247.20” yn eu trefn;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£222.05” a “£76.65” rhodder “£226.50” a “£78.15” yn eu trefn;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£244.95” ac “£81.45” rhodder “£247.20” ac “£82.05” yn eu trefn;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2 (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£65.62” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£66.33”;
(c) yn yr ail golofn o’r Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£59.50” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£61.10” ac yn lle “£119.00” rhodder “£122.20”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£23.45” rhodder “£24.08”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£57.89” rhodder “£59.50”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£33.30” rhodder “£34.20”.
8 
Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 21—
(i) yn is-baragraff (1)(e) yn lle “.” rhodder “;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (1)(e) mewnosoder—“
(f) ar ffurf cymorth achlysurol, gan gynnwys ôl-ddyledion a thaliadau yn lle cymorth achlysurol.”;
(iii) ar ddiwedd is-baragraff (2)(n) hepgorer “neu”;
(iv) yn is-baragraff (2)(o) yn lle “.” rhodder “;”;
(v) ar ôl is-baragraff (2)(o) mewnosoder—“
(p) taliadau o’r gronfa gymdeithasol o dan Ran 8 o DCBNC; neu;
(q) credyd cynhwysol.”;
(b) ym mharagraff 22—
(i) yn is-baragraff (2)(e) yn lle “,” rhodder “;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (2)(e) mewnosoder—“
(f) paragraff 18 o Atodlen 10 i Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;
(c) Ar ôl paragraff 32 mewnosoder—“
33. 
Unrhyw daliad a wneir gan y Trysorlys i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan Reoliadau Taliadau ar Sail Oed 2013 (Equitable Life) fel derbynnydd blwydd-dal Equitable Life cymwys.”
9 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “10.95” rhodder “£11.30”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.65” rhodder “£3.75”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£186.00” rhodder “£188.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£186.00”, “£322.00” a “£7.25” rhodder “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” yn eu trefn;
(v) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£322.00”, “£401.00” a “£9.15” rhodder “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” yn eu trefn;
(vi) yn is-baragraff (7)(d)(i) yn lle “rheoliad 24(6)” rhodder “rheoliad 26(6)”;
(b) ym mharagraff 25(4)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), yn lle “is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (5) o baragraff 24” rhodder “is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (4) o baragraff 24”.
10 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£71.70” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£72.40” ac yn lle “£56.80” rhodder “£57.35”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£71.70” rhodder “£72.40”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£112.55” rhodder “£113.70”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3 (lwfansau personol), yn lle “£65.62” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£66.33”;
(c) ym mharagraff 10(2) (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd), yn lle “is-baragraff (1)(a)(vi)” rhodder “is-baragraff (1)(a)(vii)”;
(d) yn yr ail golofn o’r Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£31.00” a “£44.20” rhodder “£31.85” a “£45.40” yn eu trefn;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£59.50” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£61.10” ac yn lle “£119.00” rhodder “£122.20”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£57.89” rhodder “£59.50”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£33.30” rhodder “£34.20”;
(v) yn is-baragraff (5) yn lle “£23.45”, “£15.15” a “£21.75” rhodder “£24.08”, “£15.55” a “£22.35” yn eu trefn;
(e) ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£28.45” rhodder “£28.75”;
(f) ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£34.80” rhodder “£35.75”.
11 
Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ar ôl paragraff 2 mewnosoder—“
(2A) Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd mewn cynllun a ragnodir yn rheoliad 3 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith (Cynlluniau i Gynorthwyo Personau i Gael Cyflogaeth) 2013 ond am 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau gyda dyddiad derbyn y taliad.”;
(b) ym mharagraff 12—
(i) yn is-baragraff (1)(f) yn lle “,” rhodder “;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (1)(f) mewnosoder—“
(g) credyd cynhwysol,”;
(c) ar ôl paragraff 62 mewnosoder—“
63. 
Unrhyw daliad a wneir gan y Trysorlys i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan Reoliadau Taliadau ar Sail Oed 2013 (Equitable Life) fel derbynnydd blwydd-dal Equitable Life cymwys.”
12 
Yn Atodlen 11 (myfyrwyr)—
(a) ym mharagraff 9 (trin benthyciadau myfyriwr)—
(i) yn is-baragraff (2)(b) hepgorer “, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae i “chwarter” yr ystyr a roddir i “quarter” at ddibenion Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005”;
(ii) ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—“
(6) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno sydd —
(a) yn dechrau ar 1 Ionawr ac yn diweddu ar 31 Mawrth;
(b) yn dechrau ar 1 Ebrill ac yn diweddu ar 30 Mehefin;
(c) yn dechrau ar 1 Gorffennaf ac yn diweddu ar 31 Awst; neu
(d) yn dechrau ar 1 Medi ac yn diweddu ar 31 Rhagfyr.”;
(b) ym mharagraff 10 (trin benthyciadau ffioedd), yn lle “Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1988” rhodder “Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998”.
13 
Diwygir y cynllun a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 yn unol â rheoliadau 14 i 32.
14 
Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—
(a) yn lle paragraff (c) o’r diffiniad o “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”) rhodder—“
(c) yn yr Alban, gwasanaeth gofal iechyd annibynnol neu ysbyty seiciatrig preifat fel y’u diffinnir gan adran 10F(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;”;
(b) yn y diffiniad o “rhent” (“rent”), yn lle “rheoliad 12” rhodder “rheoliad 12B”.
15 
Ym mharagraff 8 (aelwydydd)—
(a) yn is-baragraff (2)(a) ar ôl “letya” mewnosoder “neu ei leoli”;
(b) yn is-baragraff (5)—
(i) hepgorer “a” ar ôl paragraff (o); a
(ii) ar ôl paragraff (o) mewnosoder—
(iii) “
(oa) Deddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011; a”.
16 
Ym mharagraff 19 (dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—
(a) Yn lle is-baragraff (5)(e) rhodder—“
(e) yn berson y rhoddwyd iddo, neu’r ystyrir y rhoddwyd iddo, ganiatâd y tu allan i’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971, pan fo’r caniatâd hwnnw yn—
(i) caniatâd disgresiynol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi,
(ii) caniatâd i aros o dan y consesiwn Amddifadedd Trais Domestig, neu
(iii) caniatâd yr ystyrir y’i rhoddwyd yn rhinwedd rheoliad 3 o Reoliadau Personau a Ddadleolwyd (Diogelu Dros Dro) 2005;”;
(b) hepgorer is-baragraff (5)(h);
(c) hepgorer is-baragraff (5)(i);
(d) ar ôl is-baragraff (5)(j) mewnosoder—“
(k) yn berson a drinnir fel gweithiwr at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau AEE yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ymaelodaeth Croatia (Mewnfudo ac Awdurdodi Gweithwyr) 2013 (hawl preswylio Croatiad sy’n wladolyn gwladwriaeth ymaelodol yn ddarostyngedig i awdurdodi gweithwyr).”
17 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£10.95” rhodder “£11.30”;
(b) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.65” rhodder “£3.75”;
(c) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£186.00” rhodder “£188.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£186.00”, “£322.00” a “£7.25” rhodder “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” yn eu trefn;
(e) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£322.00”, “£401.00” a “£9.15” rhodder “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” yn eu trefn.
18 
Ym mharagraff 55(14)(c) (trin costau gofal plant), yn lle “o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994” rhodder “o Ddeddf Llywodraeth Leol etc (Yr Alban) 1994”.
19 
Ym mharagraff 59(4)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), yn lle “is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (5) o baragraff 58” rhodder “is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (4) o baragraff 58”.
20 
Ym mharagraff 64(4)(e) (cyfalaf tybiannol), yn lle “ym mharagraff 49(1)(a)” rhodder “ym mharagraff 49(a)”.
21 
Ym mharagraff 65(10)(b) (rheol lleihau cyfalaf tybiannol: pensiynwyr), yn lle “is-baragraff (5)(b)” rhodder “is-baragraff (5)(c)”.
22 
Ym mharagraff 70(1) (dehongli), yn is-baragraff (b) o’r diffiniad o “full-time course of study” (“cwrs astudio llawn amser”), yn y testun Saesneg, yn lle “Education Act 2012” rhodder “Education Act 2002”.
23 
Ym mharagraff 78 (trin benthyciadau myfyrwyr)—
(a) yn is-baragraff (2)(b) hepgorer “, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae i “chwarter” yr ystyr a roddir i “quarter” at ddibenion Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005”;
(b) ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—“
(6) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno sydd—
(a) yn dechrau ar 1 Ionawr ac yn diweddu ar 31 Mawrth;
(b) yn dechrau ar 1 Ebrill ac yn diweddu ar 30 Mehefin;
(c) yn dechrau ar 1 Gorffennaf ac yn diweddu ar 31 Awst; neu
(d) yn dechrau ar 1 Medi ac yn diweddu ar 31 Rhagfyr.”.
24 
Ym mharagraff 79 (trin benthyciadau ffioedd), yn lle “Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1988” rhodder “Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998”.
25 
Ym mharagraff 97(1) (y berthynas rhwng gostyngiad estynedig a hawlogaeth i ostyngiad yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D), yn y testun Cymraeg, yn lle “ym mharagraff 93(1)(b)” rhodder “ym mharagraff 93(1)(b) (gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)”.
26 
Yn lle’r pennawd ar gyfer paragraff 103 “Gostyngiadau estynedig: symudwyr i mewn i ardal awdurdod: personau nad ydynt yn bensiynwyr” rhodder “Gostyngiadau estynedig: symudwyr i mewn i ardal awdurdod: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr”.
27 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£145.40” a “£163.50” rhodder “£148.35” a “£165.15” yn eu trefn;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£222.05” a “£244.95” rhodder “£226.50” a “£247.20” yn eu trefn;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£222.05” a “£76.65” rhodder “£226.50” a “£78.15” yn eu trefn;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£244.95” ac “£81.45” rhodder “£247.20” ac “£82.05” yn eu trefn;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2 (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£65.62” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£66.33”;
(c) yn yr ail golofn o’r Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£59.50” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£61.10” ac yn lle “£119.00” rhodder “£122.20”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£23.45” rhodder “£24.08”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£57.89” rhodder “£59.50”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£33.30” rhodder “£34.20”.
28 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£71.70” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£72.40” ac yn lle “£56.80” rhodder “£57.35”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£71.70” rhodder “£72.40”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£112.55” rhodder “£113.70”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3 (lwfansau personol), yn lle “£65.62” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£66.33”;
(c) ym mharagraff 10(2) (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd), yn lle “is-baragraff (1)(a)(vi)” rhodder “is-baragraff (1)(a)(vii)”;
(d) yn yr ail golofn o’r Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£31.00” a “£44.20” rhodder “£31.85” a “£45.40” yn eu trefn;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£59.50” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£61.10” ac yn lle “£119.00” rhodder “£122.20”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£57.89” rhodder “£59.50”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£33.30” rhodder “£34.20”;
(v) yn is-baragraff (5) yn lle “£23.45”, “£15.15” a “£21.75” rhodder “£24.08”, “£15.55” a “£22.35” yn eu trefn;
(e) ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£28.45” rhodder “£28.75”;
(f) ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£34.80” rhodder “£35.75”.
29 
Ym mharagraff 9(1) o Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn lle “paragraffau 4, 6, 7 a 9” rhodder “paragraffau 4, 5, 6 a 7”.
30 
Yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 32(e), yn y testun Saesneg, yn lle “section 18” rhodder “section 18(2)(c)”;
(b) ym mharagraff 40 yn lle “paragraff 78(3)” rhodder “paragraff 80(3)”.
31 
Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 21—
(i) yn is-baragraff (1)(e) yn lle “.” rhodder “;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (1)(e) mewnosoder—“
(f) ar ffurf cymorth achlysurol, gan gynnwys ôl-ddyledion a thaliadau yn lle cymorth achlysurol.”;
(iii) ar ddiwedd is-baragraff (2)(n) hepgorer “neu”;
(iv) yn is-baragraff (2)(o) yn lle “.” rhodder “;”;
(v) ar ôl is-baragraff (2)(o) mewnosoder—“
(p) taliadau o’r gronfa gymdeithasol o dan Ran 8 o DCBNC; neu;
(q) credyd cynhwysol.”;
(b) ym mharagraff 22—
(i) yn is-baragraff (2)(d) yn lle “,” rhodder “;”;
(ii) yn is-baragraff (2)(e) yn lle “,” rhodder “;”;
(iii) ar ôl is-baragraff (2)(e) mewnosoder—“
(f) paragraff 18 o Atodlen 10 i Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;
(c) Ar ôl paragraff 32 mewnosoder—“
33. 
Unrhyw daliad a wneir gan y Trysorlys i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan Reoliadau Taliadau ar Sail Oed 2013 (Equitable Life) fel derbynnydd blwydd-dal Equitable Life cymwys.”
32 
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) Ar ôl paragraff 2 mewnosoder—“
(2A) Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd mewn cynllun a ragnodir yn rheoliad 3 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith (Cynlluniau i Gynorthwyo Personau i Gael Cyflogaeth) 2013 ond am 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau gyda dyddiad derbyn y taliad.”;
(b) ym mharagraff 12—
(i) yn is-baragraff (1)(f) yn lle “,” rhodder “;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (1)(f) mewnosoder—“
(g) credyd cynhwysol,”;
(c) ar ôl paragraff 62 mewnosoder—“
63. 
Unrhyw daliad a wneir gan y Trysorlys i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan Reoliadau Taliadau ar Sail Oed 2013 (Equitable Life) fel derbynnydd blwydd-dal Equitable Life cymwys.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2014