
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2014.
2 

(1) Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a) ar ôl y diffiniad o “mangre” mewnosoder—“
 ystyr “milfeddyg cymeradwy” (“approved veterinary inspector”) yw milfeddyg a gymeradwyir yn unol ag erthygl 2A;”; a
(b) yn lle’r diffiniad o “prawf perthnasol” rhodder—“
 ystyr “prawf perthnasol” (“relevant test”) yw—
(a) prawf croen; neu
(b) unrhyw brawf diagnostig arall ar gyfer twbercwlosis a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru;”.
(3) Ar ôl erthygl 2 mewnosoder—“
2A. 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo milfeddyg—
(a) pan fo’r milfeddyg wedi ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, a
(b) pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod y milfeddyg yn addas i gyflawni swyddogaethau a roddir i filfeddyg cymeradwy gan y Gorchymyn hwn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ddirymu’r gymeradwyaeth honno, gan roi rhesymau am y dirymiad.”
(4) Yn erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis)—
(a) ym mharagraff (2) ar ôl y geiriau “ofynion rhesymol arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”;
(b) yn is-baragraff (a) o baragraff (2) ar ôl y gair “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”;
(c) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae’r gofynion ar y ceidwad ym mharagraff (3A) yn gymwys—
(a) pan fo prawf perthnasol wedi ei gynnal ar anifail buchol;
(b) pan fo arolygydd neu filfeddyg cymeradwy wedi darllen canlyniad y prawf hwnnw ac wedi mynegi’r canlyniad hwnnw i’r ceidwad; ac
(c) pan fo’r arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy wedi ei fodloni bod darlleniad y prawf yn datgelu bod yr anifail buchol naill ai’n adweithydd, neu’n adweithydd amhendant.
(3A) Y gofynion yw—
(a) na symudir anifail buchol ar y fangre neu o’r fangre lle cedwir yr adweithydd neu’r adweithydd amhendant ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd;
(b) sicrhau bod pob adweithydd ac adweithydd amhendant wedi ei ynysu oddi wrth anifeiliaid eraill;
(c) caniatáu i bob adweithydd gael ei farcio gan y person a ddarllenodd y prawf perthnasol neu gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru;
(ch) peidio â rhoi unrhyw laeth gan fuwch odro sy’n adweithydd mewn tanc llaeth swmp; a
(d) pan fo’r adweithydd yn preswylio mewn mangre gyda buches odro, hysbysu pob prynwr masnachol sy’n prynu llaeth o’r fuches honno bod y fuches odro wedi colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis.
(3B) Caiff arolygydd, drwy hysbysiad, ddiwygio neu ddatgymhwyso y gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (3A)(a) neu (b) ar unrhyw adeg.”; a
(d) ar ôl paragraff (7) mewnosoder—“
(8) Rhaid i’r arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy sy’n darllen canlyniad prawf perthnasol sy’n datgelu adweithydd neu adweithydd amhendant adrodd ar y canlyniad prawf hwnnw i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol resymol.
(9) Yn yr erthygl hon—
 ystyr “adweithydd amhendant” (“inconclusive reactor”) yw anifail buchol sy’n datgelu darlleniad nad yw’n negyddol pan gaiff ei brofi ar gyfer twbercwlosis, ond ni chaiff ei ystyried yn adweithydd; ac
 ystyr “colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis” (“loss of tuberculosis-free status”) yw nad yw’r fuches bellach yn bodloni’r amodau a osodir yn Atodiad A.I, paragraffau 1 a 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy’n effeithio ar fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu’r mochyn.”
(5) Yn erthygl 13 (profion cyn symud)—
(a) ym mharagraff (1)(b) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”; a
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Pan nad yw darlleniad y prawf ym mharagraff (1)(b) yn datgelu canlyniad negyddol ar gyfer twbercwlosis mae’r gofynion yn erthygl 12(3A) yn gymwys.”
(6) Ym mharagraff (1) o erthygl 14 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”.
(7) Yn erthygl 21 (marcio anifeiliaid buchol)—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan arolygydd neu filfeddyg cymeradwy rhaid i’r ceidwad farcio unrhyw anifail buchol yn y modd sy’n ofynnol gan yr arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy.”; a
(b) ym mharagraff (2) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu’r milfeddyg cymeradwy”.
3 

(1) Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a) ar ôl y diffiniad o “mangre” mewnosoder—“
 ystyr “milfeddyg cymeradwy” (“approved veterinary surgeon”) yw milfeddyg a gymeradwyir yn unol ag erthygl 2A;”; a
(b) yn lle’r diffiniad o “prawf perthnasol” rhodder—“
 ystyr “prawf perthnasol” (“relevant test”) yw—
(a) prawf croen; neu
(b) unrhyw brawf diagnostig arall ar gyfer twbercwlosis a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru;”.
(3) Ar ôl erthygl 2 mewnosoder—“
2A. 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo milfeddyg—
(a) pan fo’r milfeddyg wedi ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, a
(b) pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod y milfeddyg yn addas i gyflawni swyddogaethau a roddir i filfeddyg cymeradwy gan y Gorchymyn hwn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ddirymu’r gymeradwyaeth honno, gan roi rhesymau am y dirymiad.”
(4) Yn erthygl 9 (profi ar gyfer twbercwlosis)—
(a) ym mharagraff (2) ar ôl y geiriau “ofynion rhesymol arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”;
(b) yn is-baragraff (a) o baragraff (2) ar ôl y gair “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”;
(c) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae’r gofynion ar y ceidwad ym mharagraff (3A) yn gymwys—
(a) pan fo prawf perthnasol wedi ei gynnal ar anifail nad yw’n anifail buchol;
(b) pan fo arolygydd neu filfeddyg cymeradwy wedi darllen canlyniad y prawf hwnnw ac wedi mynegi’r canlyniad hwnnw i’r ceidwad; ac
(c) pan fo’r arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy wedi ei fodloni bod darlleniad y prawf yn datgelu bod yr anifail nad yw’n anifail buchol naill ai’n adweithydd, neu’n adweithydd amhendant.
(3A) Y gofynion yw—
(a) na symudir anifail nad yw’n anifail buchol ar y fangre neu o’r fangre lle cedwir yr adweithydd neu’r adweithydd amhendant ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd;
(b) sicrhau bod pob adweithydd ac adweithydd amhendant wedi ei ynysu oddi wrth anifeiliaid eraill;
(c) caniatáu i bob adweithydd gael ei farcio gan y person a ddarllenodd y prawf perthnasol neu gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru;
(ch) peidio â rhoi unrhyw laeth gan adweithydd mewn tanc llaeth swmp; a
(d) pan fo’r adweithydd yn preswylio mewn mangre gyda buches odro, hysbysu pob prynwr masnachol sy’n prynu llaeth o’r fuches honno bod adweithydd wedi ei ddarganfod yn y fangre.
(3B) Caiff arolygydd, drwy hysbysiad, ddiwygio neu ddatgymhwyso y gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (3A)(a) neu (b) ar unrhyw adeg.”; a
(d) ar ôl paragraff (7) mewnosoder—“
(8) Rhaid i’r arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy sy’n darllen canlyniad prawf perthnasol sy’n datgelu adweithydd neu adweithydd amhendant adrodd ar y canlyniad prawf hwnnw i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol resymol.
(9) Yn yr erthygl hon ystyr “adweithydd amhendant” (“inconclusive reactor”) yw anifail nad yw’n anifail buchol sy’n datgelu darlleniad nad yw’n negyddol pan gaiff ei brofi ar gyfer twbercwlosis, ond na chaiff ei ystyried yn adweithydd.”
(5) Ym mharagraff (1) o erthygl 10 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”.
(6) Yn erthygl 16 (marcio a symud anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol)—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan arolygydd neu filfeddyg cymeradwy rhaid i’r ceidwad farcio unrhyw anifail nad yw’n anifail buchol yn y modd sy’n ofynnol gan yr arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy”;
(b) ym mharagraff (2) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”; ac
(c) ym mharagraff (4) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2014