
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Diddymu) 2014 a daw i rym ar 15 Ebrill 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Gorchymyn 2009” (“the 2009 Order”) yw Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009
3 

(1) Mae Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn 2009, wedi ei ddiddymu; a
(2) mae Gorchymyn 2009 drwy hyn wedi ei ddirymu.
Edwina Hart
un o Weinidogion Cymru
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
12 Mawrth 2014