
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 28 Ebrill 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Atodlen 2” (“Schedule 2”) yw Atodlen 2 i Orchymyn 1995;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; ac
 ystyr “Gorchymyn 1995” (“the 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.
2 
At ddibenion paragraffau (2A)(a) a (3C)(a) o adran 108 o’r Ddeddf (digolledu pan gaiff gorchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol ei dynnu’n ôl), caiff datblygiad o’r disgrifiad canlynol ei ragnodi—
(a) datblygiad a ganiateir gan Ran 1 o Atodlen 2 (datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd);
(b) datblygiad a ganiateir gan Ddosbarthiadau A ac E o Ran 8 o Atodlen 2 (estyn neu addasu adeilad diwydiannol neu warws a chodi neu adeiladu storfa sbwriel neu feiciau o fewn cwrtil adeilad diwydiannol neu warws);
(c) datblygiad a ganiateir gan Ran 32 o Atodlen 2 (ysgolion, colegau, prifysgolion ac ysbytai);
(d) datblygiad a ganiateir gan Ran 40 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu domestig);
(e) datblygiad a ganiateir gan Ran 41 o Atodlen 2 (swyddfeydd);
(f) datblygiad a ganiateir gan Ran 42 o Atodlen 2 (siopau, sefydliadau gwasanaethau ariannol neu broffesiynol); ac
(g) datblygiad a ganiateir gan Ran 43 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig).
3 
At ddibenion adran 108(3C)(b) o’r Ddeddf, y dull rhagnodedig ar gyfer tynnu’n ôl ganiatâd cynllunio yw drwy gyfarwyddyd yn unol ag erthyglau 4, 5 a (fel y bo’n briodol) 6 o Orchymyn 1995.
4 
At ddibenion adran 108(3C)(c) o’r Ddeddf—
(a) y dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r tynnu’n ôl yw’r dull a ddisgrifir yn erthyglau 5 a (fel y bo’n briodol) 6 o Ddeddf 1995; a
(b) y cyfnod rhagnodedig yw 24 mis.
5 
At ddibenion adran 108(3D)(c) o’r Ddeddf —
(a) y dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad o ddirymu, diwygio neu gyfarwyddiadau yw’r dull a ddisgrifir ym mharagraffau (7) ac (8) o erthygl 27 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012; a
(b) y cyfnod rhagnodedig yw 24 mis.
6 
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dynnu’n ôl o ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 2(d) pan fo, cyn 18 Mehefin 2012—
(a) hysbysiad o’r cyfarwyddyd yn tynnu’n ôl y caniatâd cynllunio hwnnw wedi cael ei roi yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 1995; neu
(b) y cyfarwyddyd yn un y mae erthygl 6 o Orchymyn 1995 (hysbysiad a chadarnhad o gyfarwyddiadau erthygl 4(2)) yn gymwys iddo a bod y cyfarwyddyd wedi dod i rym.
7 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2012 wedi eu dirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
11 March 2014