
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2
2 

(1) Mae Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 27 (dehongli), yn y diffiniad o “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”), yn lle “Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012” rhodder “Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013”.
(3) Yn rheoliad 29 (terfynau amser)—
(a) ym mharagraff (2) yn lle “Pan” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A), pan”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Pan fodlonir yr amod a grybwyllir yn adran 16(7)(c) a bod yr apêl gan y person a dramgwyddir yn ymwneud â phenderfyniad awdurdod bilio i ddyfarnu gostyngiad o dan ei gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, gwrthodir yr apêl oni bai bod yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 16(4) wedi ei gyflwyno i’r awdurdod bilio yn unol â pharagraff 8(2) o Atodlen 12 i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 neu baragraff 8(2) o Atodlen 1 o’r cynllun a ragnodir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013, yn ôl y digwydd.”
RHAN 3
3 
Yn y rhan hon o’r Rheoliadau—
 ystyr “cynllun 2013” (“2013 scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
 ystyr “Rheoliadau 2010” (“2010 Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010;
 ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012; ac
 ystyr “Tribiwnlys Prisio” (“Valuation Tribunal”) yw Tribiwnlys Prisio Cymru a sefydlwyd o dan reoliad 4 o Reoliadau 2010.
4 
Nid yw’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 2010 gan reoliad 2 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw apelau a wneir i’r Tribiwnlys Prisio mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir o dan ddarpariaethau cynllun 2013.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2014