
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£12.70” rhodder “£13.00”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “£41.10” rhodder “£42.00”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “£177.00” rhodder “£180.90”;
(d) ym mharagraff (4), yn lle “£177.00” rhodder “£180.90”; ac
(e) ym mharagraff (5), yn lle “£12.70” rhodder “£13.00”.
3 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2013 wedi eu dirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2014