
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986;
 ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997; ac
 ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007.
3 
Yn rheoliad 13(2)(q) o Reoliadau 1986, yn lle “29 April 2013” rhodder “1 April 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 March 2015”.
4 
Yn rheoliad 8(3)(q) o Reoliadau 1997, yn lle “29 April 2013” rhodder “1 April 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 March 2015”.
5 
Yn rheoliad 5(1)(aa) o Reoliadau 2007 yn lle “29 Ebrill 2013” rhodder “1 Ebrill 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog lechyd a Gwasanethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2014