
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2014.
2 
Mae’r darpariaethau a ganlyn ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn dod i rym ar 28 Chwefror 2014—
(a) adran 4 (mynychu cyfarfodydd o bell); a
(b) is-adran (5) o adran 155 (peidio â gwneud taliadau).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2014