
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 4 Chwefror 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
 mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;
 ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y ddwy wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999, ac wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy’n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol;
 ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig; ac
 ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw’r ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at ddiben asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o’r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2013, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
(3) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys yn hectar cymwys yn 2012 (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1), yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2013, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw.
3 
Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2012 wedi ei ddirymu.
Alun Davies
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
15 Ionawr 2014
YR ATODLEN
Erthygl 2


Colofn 1Y DefnyddFfermio Colofn 2Yr unedgynhyrchu Colofn 3Incwmblynyddol net o’runedgynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro buwch 530 
Buchod bridio cig eidion: ar dir mewn ardal lai ffafriol buwch -82 
ar dir arall buwch -39 
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen 40 
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 102 
Mamogiaid: ar dir mewn ardal lai ffafriol mamog -17 
ar dir arall mamog -4 
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 4.70 
Moch: hychod a banwesod torrog hwch neu fanwes 220 
moch porc y pen 7.50 
moch torri y pen 10.40 
moch bacwn y pen 13.10 
Dofednod: ieir dodwy aderyn 3.20 
brwyliaid aderyn 0.50 
cywennod ar ddodwy aderyn 0.30 
Tyrcwn Nadolig aderyn 4.70 
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 127 
Ffa hectar 290 
Rêp had olew hectar 242 
Pys sych hectar 100 
Tatws: cynnar cyntaf hectar 1700 
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 3610 
Betys siwgr hectar 750 
Gwenith hectar 400 
3.  Cnydau garddwriaethol awyr agored  a ffrwythau
Ffrwythau’r berllan hectar 3100 
Ffrwythau meddal hectar 9780 
4. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2012, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009 tir dan anfantais ddifrifol hectar 82.01 
tir dan anfantais hectar 112.91 
pob tir arall hectar 82.07 

