
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 8) 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw’r ardal ddaearyddol honno yng Nghymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani.
2 

(1) Daw darpariaethau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a bennir ym mharagraff (2) i rym ar 28 Chwefror 2014 mewn perthynas â’r ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn—
(a) Ynys Môn;
(b) Conwy;
(c) Sir Ddinbych;
(d) Gwynedd.
(2) Y darpariaethau yw—
(a) adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd);
(b) adran 58(1), (3)-(5), (6)(a), (7)-(9) ac (11)-(14) (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd);
(c) adran 59(1) a (3) (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd);
(d) adran 60(2) (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd);
(e) adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(f) adran 62(1) (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(g) adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd);
(h) adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
18 Chwefror 2014