
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ionawr 2015.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â physgod byw yng Nghymru.
(4) Mae rheoliad 17 yn gymwys mewn perthynas â physgod byw ac wyau byw o bysgod yng Nghymru.
(5) Mae rheoliad 18 yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cadw” (“keeping”), mewn perthynas â physgod, yw bod â physgod, bod yn berchen arnynt neu eu rheoli mewn dyfroedd mewndirol;
 mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys ôl-gerbyd;
 ystyr “y Corff” (“the Body”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
 ystyr “dyfroedd mewndirol” (“inland waters”) yw unrhyw ddŵr o fath a bennir yn adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 ac eithrio nad yw’n cynnwys pyllau gardd sy’n llai na 0.4 hectar o faint, nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer pysgota, nad oes ganddynt gysylltiadau i ddyfroedd eraill ac sydd wedi eu lleoli o fewn cwrtil eiddo preswyl;
 ystyr “mangre” (“premises”), ac eithrio yn rheoliad 3, yw—
(a) unrhyw dir, ynys artiffisial, gosodiad neu adeilad morol,
(b) unrhyw gerbyd, neu
(c) unrhyw lestr;
 mae “llestr” (“vessel”) yn cynnwys unrhyw long neu gwch neu lestr arall a ddefnyddir ar gyfer mordwyo, ac unrhyw hofrenfad, llong ymsuddol neu fad arnofiol arall, ond nid yw’n cynnwys unrhyw beth sy’n gorwedd yn barhaol ar wely’r môr, neu sydd wedi ei atodi’n barhaol iddo;
 ystyr “pysgod” (“fish”) yw pysgod neu silod pysgod ac mae’n cynnwys molysgiaid a chramenogion;
 ystyr “trwydded” (“permit”) yw trwydded a roddir neu sydd i’w rhoi o dan reoliad 6(l).
3 
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gweithgareddau sy’n digwydd—
(a) ar fangre busnes cynhyrchu dyframaethol a awdurdodir o dan reoliad 6 o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Cymru a Lloegr) 2009; neu
(b) yn ystod y broses o gludo rhwng—
(i) mangreoedd unrhyw fusnes o’r fath; neu
(ii) mangre un busnes o’r fath a mangre busnes arall o’r fath.
RHAN 2
4 
Mae person sydd, ac eithrio o dan delerau trwydded a roddir o dan reoliad 6 y mae’r person hwnnw’n ei dal, ac yn unol â hi—
(a) yn cyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirol,
(b) a chanddo yn ei feddiant bysgod at ddiben cyflwyno unrhyw un neu ragor o’r pysgod hynny i ddyfroedd mewndirol, neu
(c) yn achosi neu’n galluogi unrhyw berson arall i gyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirolyn cyflawni trosedd.
5 

(1) Mae person sy’n cadw mewn dyfroedd mewndirol, ac eithrio o dan drwydded a roddir o dan reoliad 6 ac yn unol â hi, unrhyw bysgod o fath y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, yn cyflawni trosedd.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw bysgod sy’n perthyn i urdd dacsonomaidd a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen ac nad yw’n perthyn i rywogaeth a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen.
(3) Mewn perthynas ag ardal warchodedig, mae’r rheoliad hwn hefyd yn gymwys i bysgod o unrhyw rywogaeth a fyddai fel arall yn absennol o’r ardal honno.
(4) Ym mharagraff (3) ystyr “ardal warchodedig” (“protected area”) yw—
(i) safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, fel y’i diffinnir gan adran 52(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981;
(ii) safle Ewropeaidd neu safle morol Ewropeaidd fel y’u diffinnir gan reoliad 8 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010;
(iii) gwlyptir a ddynodir o dan baragraff 1 o erthygl 2 o Gonfensiwn Ramsar, fel y’i diffinnir gan adran 37A(4) a (5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 .
RHAN 3
6 

(1) Wrth gael cais am drwydded sy’n awdurdodi cyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff y Corff roi’r gyfryw drwydded.
(2) Y gweithgareddau y mae paragraff (1) yn cyfeirio atynt yw—
(a) cadw pysgod o fath y mae rheoliad 5 yn gymwys iddynt mewn dyfroedd mewndirol;
(b) cyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirol.
(3) Caniateir rhoi trwydded yn ddarostyngedig i’r amodau hynny sy’n briodol ym marn y Corff.
(4) Yn benodol, caniateir gosod amodau—
(a) i gyfyngu ar nifer y pysgod a gyflwynir i unrhyw ddyfroedd mewndirol, neu a gedwir ynddynt;
(b) i leihau’r risg o bysgod yn dianc o unrhyw ddyfroedd mewndirol;
(c) i sicrhau nad yw cadw neu symud pysgod yn niweidiol i’r amgylchedd neu i unrhyw bysgodfa mewn dyfroedd sy’n gysylltiedig â’i gilydd (gan gynnwys dyfroedd sy’n gysylltiedig drwy orlifdir);
(d) mewn perthynas â chadw cofnodion ar gyfer unrhyw weithgaredd a awdurdodir gan y drwydded, a dal gafael arnynt;
(e) mewn perthynas â gwaredu pysgod;
(f) sy’n nodi’r amgylchiadau pan fo’n rhaid i ddeiliad trwydded hysbysu’r Corff; ac
(g) sy’n cyfyngu ar yr amser y mae’r drwydded yn ddilys, fel bod cadw pysgod penodedig mewn dyfroedd mewndirol wedi ei ganiatáu dros dro yn unig.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “symud pysgod” (“movement of fish”) yw symud ymaith bysgod o ddyfroedd mewndirol neu gyflwyno pysgod iddynt.
RHAN 4
7 

(1) Caiff y Corff, drwy hysbysiad a gyflwynir i ddeiliad trwydded, atal dros dro neu ddirymu’r drwydded—
(a) os caiff unrhyw amod ei thorri, neu
(b) os yw amodau amgylcheddol y dyfroedd mewndirol y mae’r drwydded yn ymwneud â hwy wedi newid ers y dyddiad y rhoddwyd y drwydded, i’r graddau y mae’r Corff yn ystyried bod atal y drwydded dros dro neu ei dirymu yn angenrheidiol.
(2) Caiff y Corff, drwy roi hysbysiad i ddeiliad y drwydded, amrywio’r drwydded os yw’r Corff o’r farn bod angen ei diwygio.
(3) Caiff y Corff atal dros dro, amrywio neu ddirymu trwydded ar gais deiliad y drwydded honno.
8 

(1) Os caiff pysgod eu cyflwyno i ddyfroedd mewndirol neu eu cadw’n groes i’r Rheoliadau hyn, caiff y Corff gyflwyno hysbysiad i ddeiliad y drwydded, neu os nad oes trwydded, berchennog neu feddiannydd y dyfroedd hynny, yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded neu’r perchennog neu’r meddiannydd (yn ôl fel y digwydd)—
(a) symud ymaith a gwaredu’r pysgod—
(i) mewn modd a bennir yn yr hysbysiad, a
(ii) ar draul deiliad y drwydded neu’r perchennog neu’r meddiannydd; a
(b) cymryd camau i sicrhau bod y sefyllfa yn cael ei hadfer, i’r graddau y mae hynny’n bosibl, i’r hyn a fuasai pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu torri.
(2) Os na chydymffurfir â hysbysiad o dan baragraff (1), caiff y Corff drefnu—
(a) i bysgod gael eu symud ymaith a’u gwaredu; a
(b) cymryd camau i sicrhau bod y sefyllfa yn cael ei hadfer, i’r graddau y mae hynny’n bosibl, i’r hyn a fuasai pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu torri.
(3) Caiff y Corff symud ymaith a gwaredu pysgod heb gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1)—
(a) mewn argyfwng; neu
(b) os na ellir darganfod deiliad y drwydded neu’r perchennog neu’r meddiannydd.
(4) Pan fo’r Corff yn gweithredu o dan baragraff (2) neu (3)(a), caiff wneud hynny ar draul deiliad y drwydded neu berchennog neu feddiannydd y dyfroedd mewndirol a chaiff y Corff adennill unrhyw swm sydd i’w ad-dalu fel dyled sifil.
(5) Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff (1) heb esgus rhesymol yn drosedd.
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a (3), mae hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 7(1) neu (2) neu reoliad 8(1) yn cael effaith 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.
(2) Pan fo hysbysiad yn pennu cyfnod, mae’r hysbysiad yn cael effaith pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben.
(3) Pan fo apêl o dan reoliad 10 yn cael ei ddwyn, nid yw’r hysbysiad yn cael effaith hyd nes bod yr apêl wedi ei benderfynu neu ei dynnu yn ôl, oni bai bod y person penodedig sy’n penderfynu’r apêl yn cyfarwyddo hynny.
10 

(1) Caiff ceisydd am roi trwydded apelio yn erbyn—
(a) gwrthod ei rhoi, neu
(b) gosod unrhyw amod.
(2) Caiff deiliad trwydded neu berchennog neu feddiannydd dyfroedd mewndirol y cyflwynwyd hysbysiad iddynt o dan reoliad 7(1) neu (2) neu reoliad 8(1), apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.
(3) Rhaid i’r apelydd gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl i’r Corff o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn.
(4) Wrth gael hysbysiad am apêl, rhaid i’r Corff benodi person annibynnol i benderfynu’r apêl.
(5) Mae’r apêl ar ffurf sylwadau ysgrifenedig gan y Corff a’r apelydd, ac mae’n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau amser a bennir gan y person annibynnol.
(6) Y person annibynnol sy’n penderfynu pa un ai i ganiatáu’r apêl (a chaiff gyfarwyddo’r Corff i roi trwydded neu i amrywio unrhyw amod).
11 

(1) Caiff swyddog o’r Corff, drwy ddangos awdurdodiad wedi ei ddilysu os yw’n angenrheidiol, fynd i mewn i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl fel tŷ annedd preifat) ar unrhyw amser rhesymol—
(a) pan fo gan y swyddog reswm i amau bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei gyflawni, neu ar fin cael ei gyflawni; neu
(b) at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan reoliad 7(1)(b) neu reoliad 8(3), neu i ymchwilio i weld pa un a yw unrhyw un neu ragor o’r pwerau hynny yn arferadwy.
(2) Caniateir i’r personau hynny y mae’r swyddog yn barnu eu bod yn angenrheidiol fynd gyda’r swyddog a chaniateir iddo ddefnyddio unrhyw gerbydau, llestrau neu gyfarpar y mae’r swyddog yn barnu eu bod yn angenrheidiol.
(3) Ni chaiff swyddog fynd i mewn i unrhyw fangre (neu unrhyw ran o fangre) sy’n dŷ annedd preifat ond os yw ynad heddwch wedi dyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog i wneud hynny.
(4) Os yw ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi ei fodloni fod seiliau rhesymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a ddisgrifir ym mharagraff (1), ac naill ai—
(a) bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu y disgwylir iddo gael ei wrthod, ac (yn y naill achos neu’r llall) fod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,
(b) y byddai gofyn am gael mynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i mewn,
(c) bod yr achos yn achos brys, neu
(d) bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad roi awdurdodiad, drwy warant a lofnodwyd, i’r swyddog fynd i mewn i’r fangre, â grym rhesymol os bydd angen hynny.
(5) Mae gwarant o dan y rheoliad hwn yn ddilys am un mis.
(6) Rhaid i swyddog sy’n mynd i mewn i fangre nad yw wedi ei meddiannu, ei gadael wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn.
12 

(1) Caiff swyddog sy’n mynd i mewn i fangre o dan reoliad 11—
(a) atal a chadw unrhyw gerbyd neu lestr;
(b) archwilio’r fangre, ac unrhyw rwyd, trap, peirianwaith, cyfarpar neu bysgod yn y fangre;
(c) cymryd samplau (gan gynnwys samplau o bysgod) o unrhyw beth yn y fangre;
(d) ymafael yn unrhyw bysgod, rhwyd, trap, peirianwaith neu gyfarpar arall yn y fangre i’r graddau y mae’n angenrheidiol at y dibenion a ddisgrifir yn rheoliad 11(1);
(e) cyflawni unrhyw chwiliadau, ymchwiliadau, archwiliadau neu brofion;
(f) ymafael mewn samplau o bysgod a’u lladd mewn modd trugarog at ddibenion tystiolaethol;
(g) cael mynediad i unrhyw ddogfen neu gofnod (ym mha bynnag ffurf y’u cedwir), y mae’n eu hystyried yn berthnasol i’r dibenion a ddisgrifir yn rheoliad 11(1), eu harchwilio, eu copïo neu ymafael ynddynt; ac
(h) cael gafael ar, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chofnod o fath y cyfeirir ato yn is-baragraff (g).
(2) At ddiben paragraff (1)(h), caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu’n ymwneud fel arall â’u gweithrediad—
(a) roi cynhorthwy o’r fath a all fod yn rhesymol ofynnol; a
(b) pan fo cofnod yn cael ei gadw ar gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol i’r cofnod fod ar gael mewn ffurf y gellir ei gymryd ymaith.
(3) Os nad yw’r cofnod yn cael ei gynhyrchu yn y ffurf sy’n ofynnol gan baragraff (2)(b), caiff y swyddog ymafael yn y cyfrifiadur neu’r ddyfais storio electronig.
(4) Pan fo gan swyddog reswm i amau bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu enw a chyfeiriad y person.
(5) Pan fo swyddog wedi mynd i mewn i unrhyw fangre, ac nad yw’n rhesymol ymarferol i benderfynu ar y pryd pa un a yw unrhyw ddogfen neu ffeil electronig, pysgod, rhwyd, trap, peirianwaith neu gyfarpar arall yn y fangre honno yn berthnasol i’r dibenion a ddisgrifir yn rheoliad 11(1), caiff yr arolygydd ymafael ynddynt er mwyn penderfynu pa un a yw’n berthnasol ai peidio.
(6) Caniateir i unrhyw bysgod yr ymafaelir ynddynt gael eu gwaredu mewn modd sy’n briodol ym marn y swyddog awdurdodedig.
13 
Bydd unrhyw berson—
(a) sy’n rhwystro swyddog yn fwriadol rhag arfer ei bwerau o dan y Rhan hon,
(b) heb reswm rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw swyddog sy’n arfer ei bwerau o dan y Rhan hon, unrhyw gynhorthwy neu wybodaeth y gall fod yn rhesymol ofynnol i’r swyddog eu cael o dan y Rheoliadau hyn,
(c) sy’n rhoi unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol i unrhyw swyddog sy’n arfer ei bwerau o dan y Rhan hon, neu
(d) sy’n methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw swyddog sy’n arfer ei bwerau o dan y Rhan hon,yn cyflawni trosedd.
14 

(1) Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 4 (cyflwyno pysgod), rheoliad 5 (cadw pysgod), rheoliad 8(5) (methu â chydymffurfio â hysbysiad) neu reoliad 13 (rhwystro) yn atebol—
(a) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na £50,000, neu
(b) ar gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Os yw adran 85(2) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 mewn grym ar y diwrnod y gwnaed y Rheoliadau hyn, mae paragraff (1)(a) yn gymwys mewn perthynas â chollfarn gan lys yng Nghymru gan hepgor y geiriau “nad yw’n fwy na £50,000”.
15 
Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac y profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,mae’r person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o drosedd.
16 

(1) Caniateir dwyn achos o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei fod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2) At ddibenion y cyfryw achosion—
(a) mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau i gael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas yn gorff corfforaethol;
(b) mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas wrth eu collfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(4) Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y person hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd honno ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o’r gymdeithas, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o’r gymdeithas, mae’r swyddog hwnnw (yn ogystal â’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(6) Ym mharagraff (4), mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni gweithredu fel partner.
(7) Ym mharagraff (5), ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog o’r gymdeithas neu aelod o’i gorff llywodraethu, neu berson sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o’r fath.
RHAN 5
17 
Mae trwydded o dan adran 1 o Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980 sy’n awdurdodi person i gadw neu ryddhau pysgod byw, neu wyau byw o bysgod, sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, i’w hystyried fel trwydded o dan y Rheoliadau hyn sy’n awdurdodi cadw pysgod neu gyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirol.
18 
Mae adran 30 o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 wedi ei diddymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2014
YR ATODLEN
Rheoliad 5(2)
RHAN 1

Urdd Dacsonomaidd Enw cyffredin
Acipenseriformes Styrsiwn, Pysgod Sbodol
Amiiformes Morgwn
Anguilliformes Llysywod
Atheriniformes Pysgod Ystlys Arian
Batrachoidiformes Môr-lyffaint
Beloniformes Môr-nodwydd, Pysgodyn hedegog
Ceratodontiformes Pysgod ysgyfeiniog
Characiformes Tetrâu, Characiniaid, Pensafwyr
Clupeiformes Penwaig, Brwyniaid, Gwangod
Cypriniformes Carp, Gwrachod, Pilcod
Cyprinodontiformes Pysgod abwyd
Esociformes Penhwyaid
Gasterosteiformes Crethyll
Gonorynchiformes Kneriidae
Gymnotiformes Llafnbysg
Lepidosireniformes Pysgod ysgyfeiniog De Americanaidd ac Affricanaidd
Lepisosteiformes Môr-nodwyddau neu Gornbigau
Myliobatiformes Morgathod duon
Osmeriformes Brwyniaid Conwy
Osteoglossiformes Arapaimaod
Perciformes Draenogiaid, Glöynnod y môr, Ciclidau, Tiwnaod
Percopsiformes Draenogiaid brithion, Pysgod ogof
Petromyzontiformes Llysywod pendoll
Pleuronectiformes Lledod mwd a Lledod chwithig
Polypteriformes Cyrsbysg
Salmoniformes Eogiaid, Brithyllod, Powaniaid
Scorpaeniformes Pysgod dreiniog, Sgorpioniaid
Siluriformes Morfleiddiaid
Synbranchiformes Llysywod pigog
Syngnathiformes Pibellau môr, Morfeirch
Tetraodontiformes Chwyddbysgod
RHAN 2

Urdd Dacsonomaidd Rhywogaeth
Enw cyffredin Enw’r rhywogaeth
Anguilliformes Llysywod Ewropeaidd Anguilla anguilla
Clupeiformes Herlynod Alosa alosa
Gwangod Alosa fallax
Cypriniformes Barfogiaid Barbus barbus
Gorwyniaid Alburnus alburnus
Merfogiaid Abramis brama
Merfogiaid gwynion Blicca bjoerkna
Tybiau’r dail Leuciscus cephalus
Carp Cyprinus carpio
Byrbysgod Carassius carassius
Dars Leuciscus leuciscus
Pysgod aur Carassius auratus
Llyfrothod dŵr croyw Gobio gobio
Orffod Leuciscus idus
Gwrachod pigog Cobitis taenia
Gwrachod barfog Barbatula barbatula
Pilcod Ewropeaidd Phoxinus phoxinus
Rhufelliaid Rutilus rutilus
Pysgod rhuddion Scardinius erythro- phthalmus
Sgretenod Tinca tinca
Esociformes Penhwyaid Esox lucius
Gasterosteiformes Crethyll tri phigyn Gasterosteus aculeatus
Crethyll naw pigyn Pungitius pungitius
Osmeriformes Brwyniaid Conwy Osmerus eperlanus
Perciformes Draenogiaid dŵr croyw Ewrasiaidd Perca fluviatilis
Crychion Gymnocephalus cernuus
Petromyzonti-formes Llysywod pendoll y môr Petromyzon marinus
Llysywod pendoll y nant Lampetra planeri
Llysywod pendoll yr afon Lampetra fluviatilis
Salmoniformes Brithyllod neu siwin Salmo trutta
Brithyllod seithliw, ac eithrio’r brithyllod arian esgynnol Oncorhynchus mykiss
Eogiaid Salmo salar
Canghennau gleision Thymallus thymallus
Torgochiaid afon yr Arctig Salvelinus alpinus
Fendeisiaid Coregonus albula
Powaniaid neu Wyniaid Llyn Tegid Coregonus lavaretus
Scorpaeniformes Pennau lletwad Cottus gobio


