
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) (Dirymu) 2014 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2015.
2 

(1) Mae Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 wedi eu dirymu.
(2) Mae erthygl 4 o Orchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012 wedi ei dirymu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
11 Rhagfyr 2014