
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchenogion) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan ymgymerwr y mae ei ardal yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2015.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y diwrnod cychwyn” (“the commencement day”) yw’r dyddiad y mae’r ddyletswydd yn gymwys o ganlyniad i erthygl 2 o Orchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014;
 ystyr “y ddyletswydd” (“the duty”) yw’r ddyletswydd a osodir yn rhinwedd adran 144C(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
3 

(1) Mae’r wybodaeth sydd i gael ei rhoi gan y perchennog i’r ymgymerwr am y meddianwyr fel a ganlyn—
(a) eu henwau llawn;
(b) eu dyddiadau geni (pan fo’r wybodaeth honno wedi ei darparu i’r perchennog);
(c) y dyddiad neu’r dyddiadau y dechreuodd y meddianwyr feddiannu’r fangre (os yw’r dyddiad hwnnw ar ôl y dyddiad cychwyn).
(2) Nid yw’r wybodaeth sydd i’w rhoi o dan baragraff (1) yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy’n meddiannu’r fangre.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed.
4 
Cyn i berchennog ddarparu gwybodaeth i ymgymerwr, rhaid iddo hysbysu’r meddiannydd y bydd yr wybodaeth honno yn cael ei darparu.
5 

(1) Mae perchennog yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd os nad yw’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) yn cael ei rhoi o fewn 21 o ddiwrnodau i—
(a) y diwrnod cychwyn;
(b) y dyddiad y mae meddiannydd yn dechrau meddiannu’r fangre.
(2) Mae methiant perchennog yn dod i ben pan fydd yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) yn cael ei rhoi i’r ymgymerwr (ni waeth a roddir yr wybodaeth gan y perchennog neu gan rywun arall).
6 
Rhaid i’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) gael ei darparu i ymgymerwr drwy’r post, dros y ffôn, dros e-bost neu drwy’r Porthol Cyfeiriadau Landlordiaid a Thenantiaid yn www.landlordtap.com.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2014