
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn a Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Rhagfyr 2014.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru.
(4) Yn y Gorchymyn hwn mae i “rhanbarth glannau Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh inshore region” gan adran 322(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
2 
12 Rhagfyr 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009—
(a) adrannau 116 i 128 (dynodi parthau cadwraeth morol; dyletswyddau sy’n ymwneud â rhwydwaith cadwraeth a dyletswyddau awdurdodau cyhoeddus);
(b) adrannau 134 i 148 (gorchmynion ar gyfer gwarchod parthau cadwraeth morol yng Nghymru; gwrandawiadau; troseddau; cosbau ariannol penodedig; darpariaethau amrywiol ac atodol; a safleoedd cadwraeth eraill) ac Atodlenni 10 (darpariaethau pellach ynghylch cosbau ariannol penodedig o dan adran 142), 11 (diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol), 12 (darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol) a 13 (ffiniau morol safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gwarchodfeydd natur cenedlaethol); ac
(c) Rhan 3 (gwarchod natur) o Atodlen 22 (diddymiadau) ac adran 321 (diddymiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno.
3 
Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Is-ddeddfau ar gyfer Gwarchodfeydd Natur Morol) 1986 wedi eu dirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2014