
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2014, a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “anhwylder meddyliol yr un ystyr ag a roddir i “mental disorder” yn adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
2 

(1) Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (8).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “bathodyn person anabl” yn lle “ar y ffurf a ragnodir gan reoliad 11” rhodder “ar ffurf a bennir neu a gymeradwyir yn unol ag adran 21(1A) o Ddeddf 1970”.
(3) Yn rheoliad 4 (disgrifiadau o bersonau anabl)—
(a) yn lle paragraff (2)(ch2) rhodder—“
(ch2) wedi cael budd-dal cyfandaliad o dan erthygl 15(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2011 (“Gorchymyn 2011”)—
(i) o fewn lefelau tariff 1 i 8 yn gynwysedig fel y nodir yn Rhan 1, Atodlen 3 i Orchymyn 2011 ac wedi ei ardystio gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd ag anabledd parhaol a sylweddol sy’n achosi anallu i gerdded neu anhawster cerdded sylweddol iawn; neu
(ii) ar lefel tariff 6 yn Nhabl 3 (Anhwylder Meddyliol) o Ran 1, Atodlen 3 i Orchymyn 2011.”;
(b) ar ôl paragraff (2)(dd) mewnosoder—“
(dd2) o ganlyniad i anhwylder meddyliol, yn methu â dilyn llwybr taith gyfarwydd heb gymorth person arall; ”.
(4) Yn rheoliad 8 (seiliau dros wrthod rhoi bathodyn), ym mharagraff (2)(d), yn lle “sydd wedi’i roi gan awdurdod rhoi arall” rhodder “a roddwyd o dan adran 21 o Ddeddf 1970 neu fathodyn a gydnabyddir o fewn ystyr adran 21A o’r Ddeddf honno”.
(5) Yn rheoliad 9 (dychwelyd bathodyn i’r awdurdod rhoi)—
(a) ym mharagraff (1)(dd), dileer “neu fod bathodyn dilys arall yn cael ei roi i’r deiliad gan awdurdod rhoi arall”;
(b) ar ôl paragraff (1)(dd), mewnosoder—“; neu
(e) bod bathodyn dilys arall yn cael ei roi i’r deiliad o dan adran 21 o Ddeddf 1970 neu fathodyn a gydnabyddir o fewn ystyr adran 21A o’r Ddeddf honno.”;
(c) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(1A) Yn achos bathodyn y mae adran 21(4D)(b)(iii) o Ddeddf 1970 yn gymwys iddo a gedwir gan gwnstabl neu swyddog gorfodi yn unol â’r adran honno, rhaid i’r bathodyn gael ei ddychwelyd cyn gynted ag y bo’n ymarferol resymol—
(a) i’r awdurdod rhoi; a
(b) ar ôl ei ddychwelyd i’r awdurdod rhoi, gan yr awdurdod rhoi i’r deiliad, ar yr amod nad oes gan yr awdurdod rhoi seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad i’r deiliad yn unol â pharagraff (2).”
(6) Yn y pennawd i Ran III, yn lle “Ffurf Bathodynnau a’u Harddangos” rhodder “Arddangos Bathodynnau”.
(7) Hepgorer rheoliad 11 (ffurf bathodyn).
(8) Hepgorer yr Atodlen.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2014