
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (3A)”;
(b) ar ôl paragraff (3), mewnosoder y paragraff canlynol—“
(3A) Bydd person sy’n euog o dramgwydd o dan baragraff 1A neu 1B o Atodlen 6 yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.”
(3) Yn Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl)—
(a) ar ôl paragraff 1, mewnosoder y paragraffau canlynol—“
1A. 
Bydd unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i baragraff 7A yn cyflawni tramgwydd.
1B. 
Bydd unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i baragraff 7B yn cyflawni tramgwydd.”;
(b) ar ôl paragraff 7, mewnosoder y paragraffau canlynol—“
7A. 
Ac eithrio mewn achosion y mae paragraff 7B yn gymwys iddynt, rhaid i’r cynhwysydd y gwerthir unrhyw laeth crai ynddo fod wedi ei farcio neu ei labelu â’r geiriau “This milk has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health. The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.”.
7B. 
Yn achos unrhyw laeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu ac a werthir mewn sefydliad arlwyo, rhaid i’r geiriau “Milk supplied in this establishment has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health. The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.” ymddangos ar—
(a) label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd y gwerthir y llaeth hwnnw ynddo, neu
(b) ar docyn neu hysbysiad, y gall darpar brynwr ei weld yn rhwydd, yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw.
7C. 
Yn ychwanegol at y testun Saesneg y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraff 7A, caiff y marc neu’r label gynnwys y testun Cymraeg “Nid yw’r llaeth hwn wedi ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn neu’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.”.
7D. 
Yn ychwanegol at y testun Saesneg y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraff 7B, caiff y label, tocyn neu hysbysiad gynnwys y testun Cymraeg “Nid yw’r llaeth a ddarperir yn y sefydliad hwn wedi ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn neu’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.”.
7E. 
Nid oes dim yn yr Atodlen hon yn atal y canlynol rhag cael eu marcio neu eu labelu, fel y bo’n briodol, â thestun sy’n cyfateb i’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraffau 7A a 7B mewn unrhyw iaith ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg—
(a) y cynhwysydd y gwerthir llaeth crai ynddo;
(b) yn achos llaeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu ac a werthir mewn sefydliad arlwyo—
(i) label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd y gwerthir y llaeth hwnnw ynddo,
(ii) tocyn neu hysbysiad y gall darpar brynwr ei weld yn rhwydd yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw.”;
(c) ym mharagraff 8, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 mae “labelu” (“labelling”), mewn perthynas â bwyd, yn cynnwys unrhyw eiriau, manylion, nod masnach, enw brand, deunydd darluniadol neu symbol sy’n ymwneud â’r bwyd ac yn ymddangos ar ddeunydd pacio’r bwyd neu ar unrhyw ddogfen, hysbysiad, label, cylch neu goler a gyflwynir gyda’r bwyd;”;“
 ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, cantîn, clwb, tafarndy, ysgol, ysbyty neu sefydliad cyffelyb (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle paratoir bwyd, yng nghwrs busnes, i’w gyflenwi i’r defnyddiwr olaf, a’r bwyd yn barod i’w fwyta heb ei baratoi ymhellach;”;“
 ystyr “wedi ei ragbecynnu” (“prepacked”), mewn perthynas â bwyd, yw wedi ei roi mewn deunydd pacio cyn ei gynnig ar werth, fel nad oes modd i’r bwyd, boed wedi ei orchuddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn unig, gael ei newid heb agor neu newid y deunydd pacio, ac fel bod y bwyd yn barod ar gyfer ei werthu i’r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.”
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Tachwedd 2014