
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2014 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
1 Ebrill 2015 yw’r diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 (Ardrethu Annomestig: Prisio) i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y diwrnod y mae’n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog sydd i’w llunio ar gyfer Cymru ar 1 Ebrill 2017.
3 
Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2007 wedi ei ddirymu.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
5 Tachwedd 2014