
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2014, a deuant i rym ar 10 Mawrth 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae testun Saesneg Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 8(1) (waiver and reduction of fees)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (e) dileer “or”;
(b) dileer yr atalnod llawn ar ddiwedd is-baragraff (f); ac
(c) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“; or
(g) universal credit.”
(3) Mae testun Cymraeg Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff (4).
(4) Yn rheoliad 8(1) (hepgor a lleihau ffioedd)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (ch) dileer “neu”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (d)(ii) rhodder hanner colon yn lle’r atalnod llawn; ac
(c) ar ôl is-baragraff (d)(ii) mewnosoder—“
(dd) lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm sy’n daladwy o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007; neu
(e) credyd cynhwysol.”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2014