
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014, a deuant i rym ar 10 Mawrth 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 49(2) (atebolrwydd i dalu ffi a hepgor ffioedd)—
(a) dileer yr atalnod llawn ar ddiwedd is-baragraff (d); a
(b) ar ôl is-baragraff (d), mewnosoder—“; neu
(dd) credyd cynhwysol.”
(3) Ym mharagraff 13 o’r Atodlen—
(a) yn is-baragraff (2)(a)(iv) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu’r credyd cynhwysol”; a
(b) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu gredyd cynhwysol”.
(4) Ym mharagraff 19 o’r Atodlen—
(a) yn is-baragraff (2)(a)(iv) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu’r credyd cynhwysol”; a
(b) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu gredyd cynhwysol”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2014