
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2014 i rym o ran Cymru ar 21 Hydref 2014—
(a) adran 94 (sail newydd ar gyfer troseddau difrifol neu dorri gwaharddiadau etc) ac Atodlen 3 (Atodlen i gael ei mewnosod fel Atodlen 2A i Ddeddf Tai 1985);
(b) adran 95 (gofynion hysbysu ar gyfer sail newydd);
(c) adran 96 (gofynion adolygu ar gyfer sail newydd);
(d) adran 97 (sail newydd gyfatebol a gofynion hysbysu ar gyfer tenantiaethau sicr);
(e) adran 100(2) a (3) (cyfyngiadau pan fo achosion meddiannu newydd yn mynd rhagddynt etc);
(f) adran 181(1) (diwygiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir ym mharagraff (g) isod; a
(g) yn Atodlen 11 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i) paragraff 2;
(ii) paragraff 7;
(iii) paragraff 8;
(iv) paragraff 9;
(v) paragraff 10;
(vi) paragraff 13;
(vii) paragraff 14;
(viii) paragraff 15(4)(a) ac (c);
(ix) paragraff 16;
(x) paragraff 18; a
(xi) paragraff 19.
3 
Mewn perthynas â dwyn adrannau 94 a 97 (sail absoliwt ar gyfer meddiannu) i rym yng Nghymru, ni fodlonir amod 5 yn adran 84A(7) o Ddeddf Tai 1985 ac amod 5 yn Sail 7A o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 ond pan gaiff y drosedd o dan—
(a) adran 80(4) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (torri hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol), neu
(b) adran 82(8) o’r Ddeddf honno (torri gorchymyn llys i atal niwsans statudol ac ati),ei chyflawni gan y tenant, neu berson sy’n preswylio yn y tŷ annedd neu’n ymweld ag ef, ar 20 Hydref 2014, neu wedi hynny.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
20 Hydref 2014