
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Dinas a Sir Caerdydd) 2014 a daw i rym ar 10 Tachwedd 2014.
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau; a
(b) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau traffig sy’n symud.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2014
YR ATODLEN
Erthygl 2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i’r cyfan o ddinas a sir Caerdydd ac eithrio—
(a) traffordd yr M4 a’i ffyrdd ymuno ac ymadael a’r gerbytfordd gylchdroi (yr A4054) o amgylch Cyffordd 32;
(b) cefnffordd yr A470 gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol sy’n gyfagos i gerbytffordd gylchdroi’r A4054, o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sydd oddeutu 240 o fetrau i’r gogledd o gylchfan Ynys Bridge y B4262 hyd at gerbytffordd gylchdroi Cyffordd 32 yr M4 drwy’r ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol;
(c) yr A48(M) o’r ffin ag ardal weinyddol Dinas Casnewydd hyd at y ffyrdd ymuno ac ymadael wrth Gyffordd Llaneirwg; a
(d) yr A4232 o Gyffordd 33 yr M4, gan gynnwys ei cherbytffordd gylchredol, hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchdroi’r A48 wrth Groes Cwrlwys drwy’r ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol.
