
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym yw 1 Tachwedd 2014—
(a) adran 170 (Gwasanaeth mabwysiadu: trefniadau ar y cyd);
(b) adran 179 (Ymchwilio i gwynion am ofal cymdeithasol a gofal lliniarol a drefnir neu a ariennir yn breifat); ac
(c) adran 180 (Gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer cwynion am ofal lliniarol a drefnir neu a ariennir yn breifat).
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2014