
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Tachwedd 2014.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
2 
Yr ystod y mae’n rhaid i swm a bennir o dan adran 13(1)(a) o’r Ddeddf ddod oddi mewn iddi yw rhwng £50 a £150, yn gynwysedig.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
9 Hydref 2014