
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014, deuant i rym ar 6 Tachwedd 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn lle’r diffiniad sy’n dechrau gyda’r geiriau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”)” rhodder y diffiniad a ganlyn—“
 mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”), “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) a “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;”; a
(b) yn lle’r diffiniad o “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) rhodder—“
 ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, Erthygl 14 o Reoliad 882/2004 i’r graddau y mae’n gymwys i reolaethau swyddogol i wirio cydymffurfedd ag agweddau ar gyfraith bwyd anifeiliaid neu gyfraith bwyd nad ydynt wedi eu cwmpasu gan Gyfarwyddeb 97/78/EC, Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004, Rheoliad 669/2009, Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 704/2014 sy’n diwygio Rheoliad 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforio egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin.”
(3) Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) ar ôl y paragraff olaf, mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin.”
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2014