
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 27 Hydref 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “asesiadau athrawon” (“teacher assessments”) yw asesiadau o ddisgyblion a gynhelir gan athrawon at ddiben penderfynu ar lefel y cyrhaeddiad y maent wedi ei chyrraedd yn unol â darpariaeth asesu a wneir gan neu o dan orchmynion a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c) o Ddeddf Addysg 2002;ystyr “blaenoriaethau cenedlaethol” (“national priorities”) yw—
(a) codi safonau addysg mewn perthynas â llythrennedd a rhifedd; a
(b) lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol;
 ystyr “blaenoriaethau gwella’r ysgol” (“school improvement priorities”) yw’r meysydd hynny o ran safon yr addysg yn yr ysgol a nodir gan y corff llywodraethu fel y rhai â’r angen mwyaf am welliant;
 ystyr “blwyddyn ysgol gyfredol” (“current school year”) yw’r flwyddyn ysgol gyntaf y mae’r cynllun i gael effaith ar ei chyfer;
 ystyr “canlyniadau cyrhaeddiad” (“attainment results”) yw canlyniadau asesiadau disgyblion a gynhelir gan athrawon at ddiben penderfynu ar lefel y cyrhaeddiad y maent wedi ei chyrraedd yn unol â darpariaeth asesu a wneir gan neu o dan orchmynion a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c) o Ddeddf Addysg 2002;
 ystyr “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualifications”) yw cymwysterau o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;
 ystyr “cynllun datblygu ysgol” (“school development plan”) yw cynllun a lunnir gan gorff llywodraethu yn unol â’r Rheoliadau hyn;
 ystyr “deilliannau disgwyliedig” (“expected outcomes”) yw’r canlyniadau buddiol i berfformiad addysgol disgyblion yn yr ysgol o ganlyniad i gyflawni targedau gwella’r ysgol;
 ystyr “gwybodaeth ysgol gymharol” (“school comparative information”) yw crynodeb o berfformiad ysgol mewn asesiadau athrawon, cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd a chyfraddau absenoldeb disgyblion o gymharu ag ysgolion eraill ac a ddarperir i’r corff llywodraethu gan Weinidogion Cymru;
 ystyr “staff yr ysgol” (“school staff”) yw’r personau hynny sydd wedi eu cyflogi, neu wedi eu cymryd ymlaen fel arall o dan gontractau cyflogaeth, i weithio yn yr ysgol;
 ystyr “targedau gwella’r ysgol” (“school improvement targets”) yw’r targedau hynny a osodir gan y corff llywodraethu mewn perthynas â gwella perfformiad yr ysgol mewn cysylltiad â blaenoriaethau gwella’r ysgol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau at—
(a) corff llywodraethu yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir;
(b) pennaeth yn gyfeiriadau at bennaeth ysgol a gynhelir.
3 

(1) Rhaid i’r corff llywodraethu lunio cynllun datblygu ysgol yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Nid yw dyletswydd y corff llywodraethu i gael cynllun datblygu ysgol yn rhagfarnu effaith egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau priodol cyrff llywodraethu a phenaethiaid a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Diwygio) (Cymru) 2000 .
4 
Rhaid i gynllun datblygu’r ysgol (neu gynllun diwygiedig) gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn yr Atodlen.
5 

(1) Rhaid i’r corff llywodraethu benderfynu ar amseriad cyfnod cynllun datblygu’r ysgol.
(2) Hyd y cyfnod cynllun datblygu ysgol cyntaf fydd tair blynedd a rhaid iddo ddechrau erbyn 1 Medi 2015 fan bellaf.
(3) Hyd y cyfnodau cynllun datblygu ysgol dilynol fydd tair blynedd ac unwaith y bydd cyfnodau cynllun datblygu’r ysgol wedi dechrau rhaid iddynt fod yn barhaus.
6 

(1) Rhaid i’r corff llywodraethu fonitro ac adolygu’r cynnydd a wneir gan yr ysgol yn ystod pob blwyddyn ysgol yn erbyn cynllun datblygu’r ysgol.
(2) Rhaid i’r corff llywodraethu ddiwygio cynllun datblygu’r ysgol—
(a) o leiaf yn flynyddol a beth bynnag erbyn y dyddiad y cafodd cynllun datblygu’r ysgol ei lunio neu ei ddiwygio ddiwethaf fan bellaf; a
(b) yn dilyn arolygiad gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn unol ag adran 28 o Ddeddf Addysg 2005.
7 
Rhaid i’r corff llywodraethu gyhoeddi cynllun datblygu’r ysgol drwy roi copïau o’r cynllun i bob aelod—
(a) o’r corff llywodraethu; a
(b) o staff yr ysgol.
8 
Wrth lunio ei gynllun datblygu ysgol rhaid i’r corff llywodraethu roi sylw—
(a) i unrhyw wybodaeth ysgol gymharol; a
(b) i ganlyniadau cyrhaeddiad disgyblion yn yr ysgol.
9 
Wrth lunio neu ddiwygio cynllun datblygu ysgol rhaid i’r corff llywodraethu ymgynghori â’r canlynol—
(a) pennaeth yr ysgol (os nad yw’r person hwnnw yn aelod o’r corff llywodraethu);
(b) disgyblion cofrestredig yn yr ysgol;
(c) rhieni’r disgyblion cofrestredig;
(d) staff yr ysgol; ac
(e) unrhyw bersonau eraill y mae’r corff llywodraethu yn eu hystyried yn briodol.
10 
Yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 ar ôl paragraff 15 mewnosoder—“
16. 
Mae Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 yn gymwys o ran unedau fel y maent yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir.”
11 
Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (2) o reoliad 5 yn lle “7 ac 11” rhodder “7, 11 a 19”; a
(b) yn Atodlen 2 ar ôl paragraff 18 mewnosoder—“
19. 
Crynodeb o gynllun datblygu’r ysgol a luniwyd gan y corff llywodraethu yn unol â Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014.”
12 
Mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3(1) yn lle’r diffiniad o “Cynllun Gwella’r Ysgol” rhodder—“
 ystyr “Cynllun Datblygu’r Ysgol” (“School Development Plan”) yw cynllun a lunnir gan y corff llywodraethu yn unol â Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014;”; a
(b) yn rheoliad 12(1)(ch), 26(1)(ch) a 39(1)(ch) yn lle “yng Nghynllun Gwella’r Ysgol” rhodder “yng Nghynllun Datblygu’r Ysgol”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Hydref 2014
YR ATODLEN
Rheoliad 4
1 

(1) Blaenoriaethau gwella’r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol.
(2) Blaenoriaethau gwella’r ysgol ar gyfer y ddwy flynedd ysgol yn union ar ôl y flwyddyn ysgol gyfredol.
(3) Wrth osod blaenoriaethau gwella’r ysgol rhaid i’r corff llywodraethu ystyried y blaenoriaethau cenedlaethol.
2 
Datganiad byr yn nodi targedau gwella’r ysgol a deilliannau disgwyliedig a strategaeth y corff llywodraethu i gyflawni’r targedau hynny.
3 
Manylion am strategaeth y corff llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol o ran sut y bydd yn hyrwyddo datblygiad proffesiynol staff yr ysgol er mwyn cyflawni targedau gwella’r ysgol.
4 
Manylion am sut y bydd y corff llywodraethu yn ceisio cyflawni targedau gwella’r ysgol ar gyfer y flwyddyn gyfredol drwy weithio gyda—
(a) disgyblion yn yr ysgol a’u teuluoedd; a
(b) pobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal y mae’r ysgol wedi ei lleoli ynddi.
5 
Manylion am sut y bydd y corff llywodaethu yn gwneud y defnydd gorau—
(a) o staff presennol yr ysgol ac adnoddau presennol yr ysgol (gan gynnwys ei hadnoddau ariannol) er mwyn cyflawni targedau gwella’r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol; a
(b) o staff yr ysgol ac adnoddau’r ysgol (gan gynnwys adnoddau ariannol) y mae’r corff llywodraethu yn rhag-weld y byddant ar gael iddo er mwyn cyflawni targedau gwella’r ysgol ar gyfer y ddwy flynedd ysgol nesaf yn union ar ôl y flwyddyn ysgol gyfredol.
6 
Datganiad byr yn nodi’r graddau y cafodd targedau gwella’r ysgol eu cyflawni ar gyfer y flwyddyn ysgol flaenorol gan ddechrau gyda blwyddyn ysgol 2015 i 2016 a phan na chawsant eu cyflawni’n llawn esboniad byr yn nodi’r rhesymau dros y methiant hwnnw.