
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 a deuant i rym ar 1 Hydref 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion gerbron tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ceisiadau mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.
(3) Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a wneir ar neu ar ôl 1 Hydref 2014.
2 
Mae Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012 wedi eu diwygio yn unol â’r Atodlen.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
17 Medi 2014
YR ATODLEN
Rheoliad 2
1 
Yn rheoliad 2—
(a) hepgorer y diffiniad o “Deddf 1983”;
(b) yn y man priodol mewnosoder “ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;”;
(c) yn y diffiniad o “cais”—
(i) ar ddiwedd paragraff (b), hepgorer “neu”;
(ii) ym mharagraff (c), yn lle “Deddf 1983” rhodder “Deddf 2013”;
(iii) ar ddiwedd paragraff (c), yn lle “,” rhodder “; neu”; a
(iv) ar ôl paragraff (c), mewnosoder—“
(ch) y Rheoliadau Rheolau Safle,”;
(d) yn y diffiniad o “person â buddiant”—
(i) ym mharagraff (ch), yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ran 4 o Ddeddf 2013, neu Atodlen 2 i’r Ddeddf honno”;
(ii) ym mharagraff (d), yn lle “o dan baragraffau 8 neu 9 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraffau 9 i 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”;
(iii) ym mharagraff (dd), yn lle “o dan baragraff 6A(2)(a) neu 6A(2)(b) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraffau 41(1)(a) neu 41(1)(b) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”; a
(iv) ar ôl paragraff (e), mewnosoder—“
(f) mewn perthynas â chais o dan Ran 2 o Ddeddf 2013, pan fo’n gymwys, perchennog y safle neu reolwr y safle, os nad yw’r person hwnnw’n barti i’r cais;”;
(e) yn y diffiniad o “cartref symudol” yn lle “adran 5(1) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 60 o Ddeddf 2013”;
(f) yn y diffiniad o “meddiannydd” yn lle pob cyfeiriad at “Deddf 1983” rhodder “Deddf 2013”, ac yn lle pob cyfeiriad at “Ddeddf 1983” rhodder “Ddeddf 2013”;
(g) yn y diffiniad o “llain” yn lle “ym Mhennod 1 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “yn adran 55 o Ddeddf 2013”;
(h) yn y diffiniad o “mangre” yn lle pob cyfeiriad at “Ddeddf 1983” rhodder “Ddeddf 2013”;
(i) yn y diffiniad o “safle a ddiogelir” yn lle “adran 5(1) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 2(2) o Ddeddf 2013”;
(j) yn y diffiniad o “cymdeithas preswylwyr gymwys” yn lle “Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “adran 61 o Ddeddf 2013”;
(k) yn y diffiniad o “perchennog safle” yn lle “adran 5(1) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 62 o Ddeddf 2013”; ac
(l) yn y man priodol mewnosoder “ystyr “y Rheoliadau Rheolau Safle” (“the Site Rules Regulations”) yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014”.
2 
Yn rheoliad 4(1), yn lle “neu Ddeddf 1983”, rhodder “, Deddf 2013, neu’r Rheoliadau Rheolau Safle”.
3 
Yn rheoliad 5—
(a) yn y pennawd, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”; a
(b) ym mharagraffau (1) a (2), yn lle pob cyfeiriad at “Ddeddf 1983” rhodder “Ddeddf 2013”.
4 
Yn rheoliad 7—
(a) yn y pennawd, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”; a
(b) ym mharagraff (1), yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”.
5 
Hepgorer rheoliad 11.
6 
Yn rheoliad 12—
(a) yn y pennawd, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”;
(b) ym mharagraff (1), yn lle “o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2, neu baragraff 6(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”;
(c) ym mharagraff (3)(a), yn lle “o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2, neu baragraff 6(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”;
(d) ym mharagraff (3)(b), yn lle “paragraff 5A(4) o Bennod 2, neu baragraff 6(2) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “paragraff 7(3) o Bennod 2, neu baragraff 40(3) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”; ac
(e) ym mharagraff (6)(c), yn lle “o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2, neu baragraff 6(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”.
7 
Yn rheoliad 14(1)(b), yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”.
8 
Yn rheoliad 21—
(a) ym mharagraff (5), yn lle “o dan baragraffau 4, 5, 5A neu 10 o Bennod 2, neu baragraffau 4, 5, 6 neu 8 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraffau 5, 6, 7 neu 14 o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39, 40 neu 44 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”; a
(b) ym mharagraff (7), hepgorer “neu reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol)”.
9 
Yn rheoliad 22(5), hepgorer “neu reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol)”.
10 
Yn rheoliad 35, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Mewn perthynas â chais i’r tribiwnlys o dan Ddeddf 2013 neu’r Rheoliadau Rheolau Safle, ni chaiff y swm y caniateir gorchymyn i barti mewn achos ei dalu yn yr achos, drwy benderfyniad a wneir o dan baragraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004, fod yn fwy na £10,000.”
11 
Yn rheoliad 40(5), yn lle “Deddf 1983” rhodder “Deddf 2013”.
12 
Yn rheoliad 45—
(a) ym mharagraff (1) yn lle “£150” rhodder “£155”; a
(b) ym mharagraff (2) yn lle “£150” rhodder “£155”.
13 
Yn rheoliad 46, yn lle “£150” rhodder “£155”.
14 
Yn rheoliad 47—
(a) yn y pennawd, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”;
(b) hepgorer paragraff (1);
(c) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(1A) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 49(2), mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan reoliad 10 (hawl i apelio i dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad y perchennog) a rheoliad 17 (hawl i apelio i dribiwnlys ynghylch adneuad) o’r Rheoliadau Rheolau Safle.”;
(d) ym mharagraff (2), yn lle “Deddf 1983” rhodder “Deddf 2013”;
(e) yn lle paragraff (2)(a) i (d), rhodder—“
(a) adran 7(4)(b) (trwydded safle: gwrthod dyroddi);
(b) adran 12(2) (amodau trwydded safle: apêl);
(c) adran 14(1) (amrywio amodau trwydded safle: apêl);
(ch) adran 17(2) (hysbysiad cydymffurfio: apêl);
(d) adran 21(9) (camau brys: apêl);
(dd) adran 22(7) (hawlio treuliau: apêl);
(e) adran 28(2) (cais gan awdurdod lleol am ddirymu trwydded safle);
(f) adran 29(6)(b) (person addas a phriodol);
(ff) adran 30(5) (rheolwr interim);
(g) adran 33(4) (gorchymyn ad-dalu);
(ng) adran 49(5) (datganiad ysgrifenedig);
(h) adran 50(2) neu (3) (telerau ymhlyg/datganedig mewn cytundeb safle);
(i) adran 54 (awdurdodaeth tribiwnlys neu’r llys);
(j) paragraffau 5, 6 neu 7 o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39 neu 40(1) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 (terfynu);
(l) paragraffau 10 neu 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 (gwerthu neu roi cartref symudol);
(ll) paragraffau 14 o Bennod 2, neu 44 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 (ail-leoli cartref symudol); ac
(m) paragraff 42(8) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 2 (aseinio cytundeb).”;
(f) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a) yn lle “£150” rhodder “£155”;
(ii) yn is-baragraff (b) yn lle “£200” rhodder “£205”;
(iii) yn is-baragraff (c) yn lle “£400” rhodder “£410”; a
(iv) yn is-baragraff (ch) yn lle “£500” rhodder “£515”;
(g) ym mharagraff (4)(a), yn lle “o Ddeddf 1983” rhodder “o Ddeddf 2013”; ac
(h) ym mharagraff (5), yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”.
15 
Yn yr Atodlen—
(a) yn y pennawd uwchben paragraff 50, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”;
(b) ym mharagraff 50—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “adran 1(6) o Ddeddf 1983 (hawl i gael datganiad ysgrifenedig)” rhodder “adran 49(5) o Ddeddf 2013 (hawl i gael datganiad ysgrifenedig).”; a
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “adran 1(2) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 49(1) o Ddeddf 2013”;
(c) ym mharagraff 51—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “adran 2(2) o Ddeddf 1983 (telerau a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig)” rhodder “adran 50(2) o Ddeddf 2013 (telerau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yn ymhlyg)”; a
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “Rhan 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”;
(d) ym mharagraff 52—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “adran 2(3)(a) o Ddeddf 1983 (amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb)” rhodder “adran 50(3)(a) o Ddeddf 2013 (amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb)”;
(ii) yn is-baragraff (2)(b)(i), yn lle “adran 1(6) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 49(5) o Ddeddf 2013”; a
(iii) yn is-baragraff (2)(b)(ii), yn lle “adran 1(6) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 49(5) o Ddeddf 2013”;
(e) ym mharagraff 53—
(i) yn y pennawd, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”; a
(ii) yn is-baragraff (1), yn lle “adran 4 o Ddeddf 1983 (penderfynu unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan Ddeddf 1983 neu o dan gytundeb y mae’r Ddeddf honno’n gymwys iddo)” rhodder “adran 54 o Ddeddf 2013 (penderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan Ran 4 o Ddeddf 2013 neu gytundeb y mae’r Rhan honno’n gymwys iddo)”;
(f) ym mharagraff 54—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2, neu baragraff 6(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (penderfyniad gan dribiwnlys ynghylch effaith niweidiol cartref symudol)” rhodder “o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (penderfyniad gan dribiwnlys ynghylch effaith andwyol cartref symudol)”; a
(ii) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2, neu baragraff 6(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 7(1) o Bennod 2, neu baragraff 40(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;
(g) ym mharagraff 55—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2)(b) o Bennod 2, neu baragraffau 4, 5 neu 6(1)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (terfynu gan berchennog y safle)” rhodder “o dan baragraffau 5, 6 neu 7(1)(b) o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39 neu 40(1)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (terfynu gan berchennog y safle)”;
(ii) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2) o Bennod 2, neu baragraffau 4, 5 neu 6(1)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraffau 5, 6 neu 7(1) o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39 neu 40(1)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;
(iii) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “o dan baragraff 4 o Bennod 2, neu baragraff 4 o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 5 o Bennod 2, neu baragraff 38 o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”; a
(iv) yn is-baragraff (2)(d), yn lle “o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2, neu baragraff 6(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 7(1) o Bennod 2, neu baragraff 40(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;
(h) ym mharagraff 56—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 8(1E) (gwerthu cartref symudol) neu 9(2) (rhoi cartref symudol) o Bennod 2 a pharagraff 6B(7) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraff 10(3) (gwerthu cartref symudol) neu baragraff 13(3) (rhoi cartref symudol) o Bennod 2 a pharagraff 42(8) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”;
(ii) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2, neu baragraff 6B(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 10(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 42(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;
(iii) ar ddiwedd is-baragraff (2)(a), mewnosoder “a”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “; ac” rhodder “.”; a
(v) hepgorer is-baragraff (2)(c);
(i) ym mharagraff 57—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 10(1) o Bennod 2, neu baragraff 8(1) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol)” rhodder “o dan baragraff 14(1) o Bennod 2, neu baragraff 44(1) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (adleoli cartref symudol)”; a
(ii) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “o dan baragraff 10(1) o Bennod 2, neu baragraff 8(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 14(1) o Bennod 2, neu baragraff 44(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;
(j) ym mharagraff 58—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 10(2) o Bennod 2, neu baragraff 8(2) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol)” rhodder “o dan baragraff 14(3) o Bennod 2, neu baragraff 44(3) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (adleoli cartref symudol)”; a
(ii) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “o dan baragraff 10(2) o Bennod 2, neu baragraff 8(2) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 14(3) o Bennod 2, neu baragraff 44(3) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;
(k) ym mharagraff 59—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraffau 16(b), 17(4) ac 17(8) o Bennod 2, neu baragraffau 14(b), 15(4) neu 15(8) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain)” rhodder “o dan baragraffau 17(1)(b), 17(6) ac 17(11) o Bennod 2, a pharagraffau 47(1)(b), 47(5) a 47(9) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (y ffi llain)”; a
(ii) yn lle is-baragraff (2), rhodder—“
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) yr hysbysiad a gyflwynwyd i’r meddiannydd gan berchennog y safle o dan baragraff 17(3) neu (8)(b) o Bennod 2, neu 47(3) neu (7)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno (pa un a’i cyflwynwyd erbyn yr amser sy’n ofynnol o dan y paragraff hwnnw ai peidio); a
(b) unrhyw ddogfen a gyflwynwyd ynghyd â’r cyfryw hysbysiad yn unol â pharagraff 23 o Bennod 2 o Ran 1 o’r Atodlen honno.”;
(l) ym mharagraff 60—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 18(1)(a)(iii) o Bennod 2, neu baragraff 16(1)(a)(iii) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain)” rhodder “o dan baragraff 18(1)(a)(iii) o Bennod 2, neu baragraff 48(1)(a)(iii) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (y ffi llain)”; a
(ii) yn is-baragraff (2)(ch), yn lle “o dan baragraff 22(e) ac (f) o Bennod 2, neu baragraff 20(f) ac (g) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 22(1)(e) ac (f) o Bennod 2, neu baragraff 52(1)(f) ac (g) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;
(m) hepgorer paragraff 61; ac
(n) ar ôl paragraff 61, mewnosoder—“
62. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 7(4)(b) o Ddeddf 2013 (dyroddi trwydded safle).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o’r hysbysiad o’r penderfyniad i wrthod dyroddi trwydded safle a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, a ddyroddwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 7(4)(a) o Ddeddf 2013;
(b) unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol a roddwyd mewn perthynas â’r safle; ac
(c) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.
63. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adrannau 12(2) neu 14(1) o Ddeddf 2013 (amodau neu amrywio trwyddedau safle).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o’r drwydded safle ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrthi;
(b) copi o’r Safonau Enghreifftiol a ddyroddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru; ac
(c) unrhyw ddogfen berthnasol arall sy’n pennu’r rheswm dros osod neu amrywio amod ar drwydded safle.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.
64. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 17(2) o Ddeddf 2013 (hysbysiad cydymffurfio).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o’r drwydded safle ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrthi;
(b) copi o’r hysbysiad cydymffurfio; ac
(c) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.
65. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 21(9) o Ddeddf 2013 (camau brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) unrhyw hysbysiadau a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol i berchennog y tir o dan adran 21(3) neu (8) o Ddeddf 2013; a
(b) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.
66. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 22(7) o Ddeddf 2013 (hawlio treuliau).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o’r hawliad am dreuliau a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol i berchennog y tir o dan adran 22(6) o Ddeddf 2013;
(b) prawf o gollfarn am drosedd o dan adran 18(1), os yw’n briodol;
(c) copi o unrhyw hysbysiadau perthnasol a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol i berchennog y tir o dan adrannau 17(1), 20(2), 21(3) neu (8) o Ddeddf 2013; a
(d) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.
67. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 28(2) o Ddeddf 2013 (cais am ddirymu trwydded safle).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) unrhyw dystiolaeth o dan adran 29(3) neu (4) y rhoddwyd sylw iddi gan yr awdurdod lleol;
(b) os yw’n gymwys, yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 29(6)(a); ac
(c) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.
68. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 29(6)(b) o Ddeddf 2013 (apêl yn erbyn penderfyniad nad yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 29(6)(a);
(b) unrhyw ddogfennau sy’n cynnwys tystiolaeth o dan adran 29(3) a (4); ac
(c) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.
69. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 30(5) o Ddeddf 2013 (penodi rheolwr interim).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) unrhyw ohebiaeth berthnasol a roddodd neu a gafodd y ceisydd mewn cysylltiad â phenodi rheolwr interim; a
(b) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.
70. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 33(4) o Ddeddf 2013 (cais am orchymyn ad-dalu pan fo safle heb ei drwyddedu).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) unrhyw dystiolaeth ynglŷn â’r materion a grybwyllir yn adran 33(6);
(b) unrhyw dystiolaeth ynglŷn â’r materion a grybwyllir yn adran 33(9); ac
(c) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle neu reolwr y safle, yn ôl fel y digwydd.
71. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau Rheolau Safle (hawl i apelio i dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad y perchennog).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) yr hysbysiad o gynnig a ddyroddwyd o dan reoliad 8;
(b) y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a ddyroddwyd o dan reoliad 9; ac
(c) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.
72. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan reoliad 17 o’r Rheoliadau Rheolau Safle (hawl i apelio i dribiwnlys ynghylch adneuad).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a ddyroddwyd o dan reoliad 9; a
(b) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.”