
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Medi 2014.
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) dilëer y diffiniad o “cnydau âr” (“arable crops”);
(b) yn y diffiniad o “dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro” (“provisional payment region classification”), ar ôl “parsel cyfeirio” pan fo’n ymddangos am y tro cyntaf mewnosoder “, neu ardal o dir o fewn parsel cyfeirio,”;
(c) ar ôl y diffiniad o “dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro” (“provisional payment region classification”) mewnosoder—“
 ystyr “llystyfiant ucheldirol lled-naturiol” (“semi-natural upland vegetation”) yw’r rhywogaethau hynny a restrir yn yr Atodlen;”.
(3) Yn rheoliad 3(2)—
(a) yn lle paragraff (c) o’r diffiniad o “rhostir” (“moorland”) rhodder—“
(c) y mae 50% neu fwy ohono’n llystyfiant ucheldirol lled-naturiol, neu’n gerrig brig a llystyfiant ucheldirol lled-naturiol a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pori garw.”
(b) dilëer paragraff (d) o’r diffiniad o “rhostir” (“moorland”);
(c) dilëer paragraff (e) o’r diffiniad o “rhostir” (“moorland”);
(d) yn y diffiniad o “yr ardal dan anfantais ddifrifol” (“the severely disadvantaged area”), ar ôl “tir” rhodder “nad yw’n rhostir ac”.
(4) Yn lle’r Atodlen (Rhywogaethau Amaethyddol Wedi eu Gwella) rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd, o dan awdurdod y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
5 Medi 2014
YR ATODLEN
Rheoliad 2(1)

Maeswellt (Agrostis spp.)
Peisgwellt (Festuca spp.)
Brigwellt main (Deschampsia flexuosa)
Llwydwellt y calch (Sesleria albicans)
Glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea)
Cawn du (Nardus stricta)
Rhedyn ungoes (Pteridium aquilinum)
Grug (Calluna vulgaris; Erica spp.)
Llus (Vaccinium myrtillus)
Creiglus (Empetrum nigrum)
Eithin (Ulex spp.)
Plu’r gweunydd (Eriophorum spp.)
Clwbfrwyn y mawn (Trichophorum cespitosum)
Brwyn troellgorun (Juncus squarrosus)
Migwyn (Sphagnum spp.)