
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 19 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “dogfen 2013” (“the 2013 document”) yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o’r enw “Cynnwys hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru ar ddeall data ysgolion”.
2 

(1) Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“the school performance data training”) yn lle “mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru ar ddeall data ysgolion””, rhodder “mis Awst 2014 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru ar ddeall data ysgolion””.
(3) Yn rheoliad 5 yn lle paragraff (1) rhodder—“
5. 

(1) Pan fo llywodraethwr wedi ei benodi neu ei ethol i gorff llywodraethu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid i’r llywodraethwr hwnnw, cyn pen blwyddyn ar ôl cael ei benodi neu ei ethol (p’un bynnag yw’r diweddaraf) (“cyfnod yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion”), gwblhau—
(a) Rhan 1 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion os yw’n llywodraethwr ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir; neu
(b) Rhan 2 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion os yw’n llywodraethwr ysgol arbennig gymunedol.
(1A) Pan fo llywodraethwr ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir sydd wedi cwblhau Rhan 1 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion yn unol â’r Rheoliadau yn dod yn llywodraethwr ysgol arbennig gymunedol, nid yw’n ofynnol i’r llywodraethwr hwnnw gwblhau Rhan 2 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion.
(1B) Pan fo llywodraethwr ysgol arbennig gymunedol sydd wedi cwblhau Rhan 2 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion yn unol â’r Rheoliadau yn dod yn llywodraethwr ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir, nid yw’n ofynnol i’r llywodraethwr hwnnw gwblhau Rhan 1 o’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion.”
3 
Nid oes unrhyw beth yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i lywodraethwr a gwblhaodd, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion fel a nodir yn nogfen 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Awst 2014