
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2014.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin” (“Commons Registration Authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
 ystyr “cytundeb hollti dros dro” (“temporary severance agreement”) yw unrhyw les neu drwydded hawl comin yr ymrwymir iddi yn unol ag erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn;
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;
 ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007.
3 

(1) Caniateir i hawl comin i bori anifeiliaid y mae adran 9(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gymwys iddi gael ei hollti dros dro oddi wrth y tir y mae’r hawl honno’n gysylltiedig ag ef drwy lesio neu drwyddedu—
(a) hawl comin ar ei phen ei hun, ar yr amod na fydd cyfnod y les neu’r drwydded yn hwy na phum mlynedd; neu
(b) y tir, neu ran o’r tir, y mae’r hawl comin yn gysylltiedig ag ef, heb yr hawl comin.
(2) Pan fo hawl comin wedi’i hollti dros dro oddi wrth unrhyw dir yn unol â pharagraff (1)(b), ni fydd unrhyw effaith i unrhyw warediad o’r hawl comin a gedwir adeg rhoi’r les neu’r drwydded ar y tir neu ar ôl ei rhoi a chyn i’r hawl honno gael ei therfynu oni fydd yn cael ei gwaredu—
(a) i grantî’r les neu’r drwydded ar y tir; a
(b) am gyfnod sy’n dod i ben ddim mwy na phum mlynedd ar ôl i’r les neu’r drwydded honno ddod i ben.
(3) Ar ôl i gyfnod unrhyw les neu drwydded ddod i ben, caiff y partïon ei hadnewyddu am gyfnodau pellach o hyd at bum mlynedd.
(4) Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawl comin, mewn perthynas â hawl comin i bori mwy nag un anifail, yn cynnwys hawl i bori cyfran o nifer yr anifeiliaid y caniateir eu pori yn rhinwedd yr hawl comin honno.
4 

(1) Rhaid i bob cytundeb hollti dros dro gynnwys darpariaeth yn pennu bod yn rhaid i’r tirfeddiannwr y mae’r hawl comin i bori anifeiliaid yn gysylltiedig ag ef, o fewn 28 o ddiwrnodau i wneud cytundeb hollti dros dro, ddarparu—
(a) enwau a chyfeiriadau’r partïon;
(b) y dyddiad yr ymrwymwyd i’r cytundeb;
(c) cyfnod para’r cytundeb;
(d) y tir y mae’r cytundeb yn gysylltiedig ag ef; ac
(e) natur/hyd a lled yr hawliau pori;i’r personau a restrir ym mharagraff (2).
(2) Dyma’r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a) yr Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal;
(b) tirfeddiannwr y comin y mae’r hawliau yn arferadwy arno, i’r graddau y gellir adnabod y person hwnnw drwy ymholiadau rhesymol;
(c) unrhyw gymdeithas cominwyr neu gymdeithas porwyr berthnasol neu sefydliad tebyg perthnasol; a
(d) Corff Adnoddau Naturiol Cymru, os yw’r tir comin y mae’r hawliau’n gymwys iddo yn cynnwys safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI) o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
(3) Yn ogystal â’r gofynion hysbysu a gaiff eu cynnwys ym mharagraff 4(1), rhaid i bob cytundeb hollti dros dro gynnwys dapariaeth yn pennu bod yn rhaid i’r tirfeddiannwr y mae’r hawl comin i bori anifeiliaid yn gysylltiedig ag ef, ddarparu unrhyw wybodaeth arall y gofynnir yn rhesymol amdani ar gyfer yr Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal, i’r personau a restrir ym mharagraff 4(2) o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl cael y cais hwnnw.
5 
Mae Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007 wedi’i ddirymu.
6 
Nid yw erthygl 5 (Dirymu) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw lesoedd neu drwyddedau yr ymrwymir iddynt yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn 2007, nad ydynt, ar yr adeg pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym, wedi dod i ben.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
4 Chwefror 2014