
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014 a daw i rym ar 4 Medi 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “cydardal” (“collective area”) yw holl ardal ddaearyddol yr awdurdodau trafnidiaeth lleol sy’n ymuno â’i gilydd i lunio cynllun trafnidiaeth lleol;
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 2000.
3 

(1) Mae’r ffordd y caiff adran 108 o Ddeddf 2000 ei chymhwyso o ran paratoi cynlluniau trafnidiaeth lleol gan awdurdodau trafnidiaeth lleol wedi ei addasu yn unol â pharagraff (2).
(2) Caiff awdurdod trafnidiaeth lleol—
(a) paratoi cynllun trafnidiaeth lleol ar gyfer rhan o’i ardal yn unig;
(b) ar y cyd ag un neu ragor o awdurdodau trafnidiaeth lleol, baratoi cynllun trafnidiaeth lleol o ran ardal sy’n cynnwys eu cydardal i gyd neu unrhyw ran neu rannau ohoni.
4 
Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006 drwy hyn wedi ei ddirymu.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
7 Awst 2014