
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 3 yn lle “Yn ddarostyngedig i reoliad 4” rhodder “Yn ddarostyngedig i reoliadau 4-6”.
4 
Yn lle rheoliad 4 rhodder—“
4. 
At ddiben adran 28 o Ddeddf 2004 y swm sylfaenol yw £2,000 a’r swm uwch yw £4,500 mewn cysylltiad â:
(a) blwyddyn academaidd derfynol cwrs pan fo’n ofynnol i’r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b) cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos.”
5 
Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—“
5. 
At ddiben adran 28 o Ddeddf 2004 y swm sylfaenol yw £800 a’r swm uwch yw £1,800 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod—
(a) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
(b) mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
6. 
At ddiben adran 28 o Ddeddf 2004 y swm sylfaenol yw £600 a’r swm uwch yw £1,350 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor—
(a) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(b) mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2014