
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Awst 2014 ond mae’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 yn cael effaith o 1 Ebrill 2014 ymlaen.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
2 
Yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a) yn lle “£57.72”, rhodder “£58.29”; a
(b) yn lle “£20.90”, rhodder “£21.10”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Gorffennaf 2014