
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014 a daw darpariaethau’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y ddogfen” (“the document”) yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2008 o’r enw “Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru”.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008 wedi ei ddirymu.
3 

(1) Y cyfnod sylfaen mewn perthynas â disgybl yw’r cyfnod sy’n dechrau gyda’r amser perthnasol (fel y’i diffinnir ym mharagraff (2)) ac sy’n dod i ben ar yr un amser â’r flwyddyn ysgol y bydd mwyafrif y disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd saith oed ynddi.
(2) Ym mharagraff (1) ystyr “yr amser perthnasol” (“the relevant time”) yw—
(a) yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir cyn iddo gyrraedd tair oed, ei drydydd pen-blwydd;
(b) yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir ar ôl iddo gyrraedd tair oed, yr amser pan ddarperir addysg o’r fath iddo gyntaf; ac
(c) yn achos plentyn na ddarperir iddo unrhyw addysg feithrin a ariennir, yr amser pan fydd yn cael gyntaf addysg gynradd ac eithrio addysg feithrin.
4 

(1) Mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â meysydd dysgu, deilliannau dymunol a rhaglenni addysgol a nodir yn y ddogfen yn cael effaith at y diben o bennu’r meysydd dysgu, y deilliannau dymunol a’r rhaglenni addysgol ar gyfer y cyfnod sylfaen.
(2) Nid yw’r deilliannau dymunol a’r rhaglenni addysgol sy’n ymwneud â’r maes dysgu a elwir Datblygu’r Gymraeg a nodir yn y ddogfen yn gymwys i ddisgybl yn y cyfnod sylfaen os caiff y disgybl hwnnw ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2014