
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cymru) (Rhif 6) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
1 Awst 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddiddymiad adran 7B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (gweithdrefn gwyno) fel y darparwyd ar ei gyfer gan y cofnod yn Rhan 2 o Atodlen 14 i’r Ddeddf ac adran 196 o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diddymiad hwnnw.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
7 Gorffennaf 2014