
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Hydref 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a roddir ar neu ar ôl 1 Hydref 2014 mewn perthynas â chytundeb—
(a) ynglŷn â gosod cartref symudol ar safle gwarchodedig yng Nghymru, a
(b) y bydd Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gymwys iddo.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw’r datganiad ysgrifenedig y mae’n ofynnol o dan adran 49(1) o Ddeddf 2013 i berchennog safle gwarchodedig ei roi i’r darpar feddiannydd; ac
 ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
3 
Y gofynion y mae’n rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gydymffurfio â hwy at ddibenion adran 49(1) o Ddeddf 2013 (yn ychwanegol at ofynion adran 49(1)(a) i (d) o Ddeddf 2013) yw-
(a) bod yn rhaid iddo gynnwys—
(i) y nodyn sy’n rhagflaenu Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, a
(ii) yr wybodaeth a grybwyllir yn Rhannau 1 i 3 o’r Atodlen honno (i’r graddau nad yw eisoes yn ofynnol o dan adran 49(1)(a) i (d) o Ddeddf 2013), a
(b) bod yn rhaid iddo fod yn y ffurf a nodir yn yr Atodlen honno neu mewn ffurf sylweddol debyg ei heffaith.
4 
Mae Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2012 wedi eu dirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014
ATODLEN
Rheoliad 3
