
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2014.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio) a wneir ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cais gan ddeiliad aelwyd” (“householderapplication”) yw cais am newid caniatâd cynllunio sy’n ymwneud â datblygu tŷ annedd presennol, neu â datblygiad yng nghwrtil tŷ annedd o’r fath at unrhyw ddiben sy’n atodol i fwynhau’r tŷ annedd ond nid yw’n cynnwys cais am newid defnydd na chais am newid nifer yr anheddau mewn adeilad;
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 ystyr “Gorchymyn 1995” (“the 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995;
 ystyr “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yw adeilad neu ran o adeilad a ddefnyddir fel un annedd breifat ac nid at unrhyw ddiben arall.
3 

(1) Pan wneir cais o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio) rhaid talu’r ffi a ganlyn i’r awdurdod cynllunio lleol—
(a) os cais gan ddeiliad aelwyd yw’r cais, £25;
(b) mewn unrhyw achos arall, £83.
(2) O ran yr awdurdod cynllunio lleol sy’n derbyn y ffi yn unol â’r rheoliad hwn—
(a) pan nad ef yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu ar y cais; a
(b) pan fydd yn anfon y cais ymlaen at yr awdurdod hwnnw,
rhaid iddo drosglwyddo’r ffi i’r awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.
(3) Rhaid i unrhyw ffi a delir yn unol â’r rheoliad hwn gael ei had-dalu os gwrthodir y cais am nad yw’n ddilys.
4 

(1) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fo’r awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud â’r canlynol yn unig—
(a) cyflawni gweithrediadau i addasu neu ymestyn tŷ annedd presennol; neu
(b) cyflawni gweithrediadau (heblaw codi tŷ annedd) yng nghwrtil tŷ annedd presennol,
yn y naill achos neu’r llall er mwyn darparu mynedfa i’r tŷ annedd neu yn y tŷ annedd i berson anabl sy’n preswylio yn y tŷ annedd hwnnw, neu sy’n bwriadu dechrau preswylio ynddo, neu er mwyn darparu cyfleusterau a fwriadwyd i sicrhau gwell diogelwch, iechyd neu gyfforddusrwydd i’r person hwnnw.
(2) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fo’r awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud yn unig â chyflawni gweithrediadau er mwyn darparu mynedfa i bersonau anabl i adeilad neu fangre y derbynnir y cyhoedd iddynt (am dâl neu fel arall) neu mewn adeilad neu fangre o’r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “person anabl” yw—
(a) person sydd o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau o bersonau y mae adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yn gymwys iddynt; neu
(b) plentyn sy’n anabl at ddibenion Rhan III o Ddeddf Plant 1989.
5 

(1) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fo’r awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni—
(a) bod y cais yn ymwneud â datblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1995 yn unig; a
(b) nad yw’r caniatâd a roddwyd gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys o ran y datblygiad hwnnw oherwydd y canlynol (ac oherwydd y canlynol yn unig)—
(i) cyfarwyddyd a wnaed o dan erthygl 4 o’r Gorchymyn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y cais; neu
(ii) gofynion amod a osodwyd ar ganiatâd a roddwyd neu y bernir ei fod wedi ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 heblaw drwy’r Gorchymyn hwnnw.
(2) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at gais sy’n ymwneud â datblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1995 i’w ddehongli fel pe bai’n cynnwys cais am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio i barhau â defnydd tir, neu i gadw adeiladau neu waith, heb gydymffurfio ag amod y rhoddwyd caniatâd cynllunio blaenorol odano, pan fo’r amod o dan sylw yn gwahardd cyflawni unrhyw ddatblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau hynny neu’n cyfyngu ar gyflawni datblygiad o’r fath.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014