
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Ffioedd am Leiniau) (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2014 ac maent yn dod i rym ar 1 Hydref 2014.
2 
Rhaid i’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff 17(4) a (9) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 fod ar y ffurf a ragnodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014
YR ATODLEN
Rheoliad 2
