
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 2 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr un ystyr ag “appropriate diocesan authority” yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”) yw—
(a) yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, neu ysgol arfaethedig o’r fath, yr awdurdod esgobaethol priodol, a
(b) yn achos ysgolion eraill neu ysgolion arfaethedig eraill, y corff sy’n cynrychioli’r grefydd neu’r enwad crefyddol a nodir, neu y bwriedir iddo gael ei nodi, mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
3 

(1) Rhaid i gyfnod a dull ymgynghori Gweinidogion Cymru fod yn unol â’r tabl yn yr Atodlen.
(2) Yn achos amheuaeth o ran y dyddiad y cafodd Gweinidogion Cymru hysbysiad am y digwyddiad neu’r amgylchiadau a arweiniodd at y cyfarwyddyd tybir mai’r dyddiad yw’r dyddiad hwnnw y penderfynir yn rhesymol arno gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo rhes 5 o’r tabl yn yr Atodlen yn gymwys caiff Gweinidogion Cymru benderfynu na fydd ymgynghoriad o’r fath yn cael ei gynnal.
4 

(1) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y cyfarwyddyd mewn drafft â’r canlynol—
(a) pob awdurdod lleol yng Nghymru;
(b) cyrff llywodraethu pob ysgol wirfoddol a gynorthwyir a phob ysgol sefydledig yng Nghymru;
(c) cyrff llywodraethu 10% o bob ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir ac ysgol feithrin a gynhelir;
(d) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
(e) Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru;
(f) y corff crefyddol priodol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ag iddi gymeriad crefyddol;
(g) Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig;
(h) Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
(i) Comisiynydd Plant Cymru; a
(j) pob corff sy’n cynrychioli buddiannau aelodau o staff ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnal ymgynghoriad yn unol â rhes 5 o’r tabl yn yr Atodlen rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn eu hystyried yn briodol.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
4 Mehefin 2014
YR ATODLEN
Rheoliad 3


Y cyfnod hysbysu a gaiff Gweinidogion Cymru am y dyddiadau tymhorau yr effeithir arnynt gan y digwyddiadau neu’r amgylchiadau sy’n arwain at y cyfarwyddyd Y cyfnod ymgynghori ar y cyfarwyddyd Y dull ymgynghori ar y cyfarwyddyd
1 flwyddyn neu’n fwy O leiaf 12 wythnos Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a thrwy unrhyw ffyrdd eraill, os oes rhai, y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol
1 flwyddyn neu’n llai ond yn fwy na 6 mis O leiaf 6 wythnos Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru
6 mis neu’n llai ond yn fwy na 3 mis O leiaf 3 wythnos Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru
3 mis neu’n llai ond yn fwy na 4 wythnos O leiaf 1 wythnos Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru
4 wythnos neu’n llai Unrhyw gyfnod ymgynghori, os oes un, y mae Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn ei ystyried yn briodol Unrhyw ddull ymgynghori, os oes un, y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol