
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Darfodol) (Cymru) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2014 i rym o ran Cymru ar 13 Mai 2014—
(a) adran 98 (ymddygiad sy’n peri niwsans i landlord etc.);
(b) adran 100(1) (cyfyngiadau pan fo achos newydd ynghylch meddiant ar ei hanner etc.);
(c) adran 181(1) (diwygiadau), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir ym mharagraff (d) isod;
(d) yn Atodlen 11 (diwygiadau mân a chanlyniadol)—
(i) paragraff 12;
(ii) paragraff 20.
3 

(1) Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiadau darfodol i Ddeddf Tai 1985 a 1988 fel y maent yn gymwys yng Nghymru, i fod yn effeithiol o 13 Mai 2014 ymlaen.
(2) Hyd nes i adrannau 94 i 97 o Ddeddf 2014 (seiliau absoliwt dros feddiant) ddod i rym yng Nghymru, mae Deddf Tai 1985 i’w darllen—
(a) yn adran 138 (dyletswydd landlord i drawsgludo rhydd-ddaliad neu i roi prydles)—
(i) yn is-adran (2A)(a) fel pe bai’r geiriau “or section 84A possession order” wedi eu hepgor;
(ii) yn is-adran (2B)(a) fel pe bai’r geiriau “or an operative section 84A possession order” wedi eu hepgor; a
(iii) yn is-adran (2C) fel pe bai’r diffiniadau o “operative section 84A possession order” a “section 84A possession order” wedi eu hepgor;
(b) yn Atodlen 1 (tenantiaethau nad ydynt yn denantiaethau diogel), ym mharagraff 4ZA(12) (tenantiaethau ymyriad teuluol) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “relevant possession order”—“
 “relevant possession order” means a possession order under section 84 that is made on ground 2, 2ZA or 2A of Part 1 of Schedule 2;”.
(3) Hyd nes i adrannau 94 i 97 o Ddeddf 2014 (seiliau absoliwt dros feddiant) ddod i rym yng Nghymru, yn Atodlen 1 i Ddeddf Tai Act 1988 (tenantiaethau na allant fod yn denantiaethau sicr), mae paragraff 12ZA(3)(a)(i) (tenantiaethau ymyriad teuluol) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “ground 7A of Part 1 of Schedule 2 or” wedi eu hepgor.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
13 Mai 2014