
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mai 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn rheoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000, ym mharagraff (3), is-baragraff (a), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
3 
Mae Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn:
(a) yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff 1 cyn y diffiniad o “awdurdod bwyd” mewnosoder—“
 ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;”; a
(b) yn rheoliad 3 (cyfyngiad ar werthu), paragraff 2, is-baragraff (a), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
4 
Yn rheoliad 3 (awdurdodau cymwys) o Reoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007, yn is-baragraff (a), yn lle “yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “yw Gweinidogion Cymru”.
5 
Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn:
(a) yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o “yr Asiantaeth”; a
(b) yn rheoliad 13 (hysbysiad o fformiwla fabanod) yn lle “i’r Asiantaeth drwy anfon ati” rhodder “i Weinidogion Cymru drwy anfon atynt”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2014