
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (Anghymhwyso o’r Bwrdd Taliadau) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.
(4) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Mesur wedi ei ddiwygio fel a ganlyn:
(a) yn is-baragraff (e) hepgorer “Tŷ’r Arglwyddi,”;
(b) hepgorer is-baragraff (m).
Theodore Huckle CF
Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru
11 Ebrill 2014