
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2013. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 10 Mai 2013.
2 
Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 3(2)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (e), hepgorer “ac”;
(b) ar ôl is-baragraff (f), mewnosoder—“ac
(ff) Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd,”; ac
(c) yn lle “y Cyfarwyddebau hynny”, rhodder “yr offerynnau hynny”.
4 
Ar ôl rheoliad 21, mewnosoder—“
21A 
Caiff Gweinidogion Cymru esemptio drwy drwydded unrhyw berson neu ddosbarth ar berson rhag cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn at ddibenion arbrawf dros dro a drefnir o dan—
(a) Erthygl 19 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys;
(b) Erthygl 13a o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd;
(c) Erthygl 13a o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant;
(ch) Erthygl 16 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr; neu
(d) Erthygl 33 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau.”
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
14 Ebrill 2013