
RHAN 1
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Network Rail (Pont Briwet) (Caffael Tir) 2013 ac mae'n dod i rym ar 16 Ebrill 2013.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw strwythur neu adeiledd, neu unrhyw ran o adeilad, strwythur neu adeiledd;
 mae “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion trosglwyddiad electronig;
 ystyr “y cyfeirlyfr” (“the book of reference”) yw'r cyfeirlyfr a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel y cyfeirlyfr at ddibenion y Gorchymyn hwn;
 mae “cynnal a chadw” (“maintain”, “maintenance”) yn cynnwys archwilio, cynnal a chadw, trwsio, addasu, newid, symud, ailadeiladu ac amnewid;
 ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Digolledu Tir 1961;
 ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol 1965;
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;
 ystyr “gweithfeydd awdurdodedig” (“authorised works”) yw'r gweithfeydd a awdurdodir gan Ddeddf Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru (Cyffredinol) 1865 ar gyfer ailadeiladu rheilffordd a phont a'r ffyrdd tuag atynt ym Mhont Briwet;
 ystyr “Network Rail” (“Network Rail”) yw Network Rail Infrastructure Limited (Rhif Cwmni 02904587) sydd â'i swyddfa gofrestredig yn Kings Place, 90 York Way, Llundain N1 9AG;
 mae i “perchennog”, mewn perthynas â thir, yr un ystyr ag a roddir i “owner” yn Neddf Caffael Tir 1981;
 ystyr “plan y tir” (“land plan”) yw'r plan a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel plan y tir at ddibenion y Gorchymyn hwn;
 ystyr “tir y Gorchymyn” (“the Order land”) yw'r tir a ddangosir ag ymyl coch ac wedi ei liwio'n binc neu las ar blan y tir;
 ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yw'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd);
 “trosglwyddiad electronig” (“electronic transmission”) yw cyfathrebiad a drosglwyddir—
(a) drwy rwydwaith gyfathrebu electronig; neu
(b) drwy ddull arall ond tra bo ar ffurf electronig;
 ystyr “yr ymgymeriad” (“the undertaking”) yw ymgymeriad rheilffordd Network Rail fel y mae'n bodoli o bryd i'w gilydd.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir, arno neu odano, neu yn y gofod awyr sydd uwchben ei arwynebedd.
RHAN 2
3 

(1) Caiff Network Rail gaffael drwy orfodaeth gymaint o dir y Gorchymyn a ddangosir ar blan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr ag y bo ei angen ar gyfer y gweithfeydd awdurdodedig neu mewn cysylltiad â hwy, a chaiff ddefnyddio unrhyw dir y mae'n ei gaffael drwy hynny at y dibenion hynny neu ar gyfer unrhyw ddibenion ategol eraill i'r ymgymeriad.
(2) Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i erthygl 7 (hawliau newydd yn unig i'w caffael ar rai tiroedd penodol), paragraff (8) o erthygl 8 (defnyddio tir dros dro i adeiladu gweithfeydd) ac erthygl 21 (arbediad ar gyfer y Goron).
4 

(1) Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i'r graddau nad yw wedi ei haddasu gan ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn nac yn anghyson â hwy, yn gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn—
(a) fel y mae'n gymwys i brynu drwy orfodaeth y mae Deddf Caffael Tir 1981 yn gymwys iddo; a
(b) fel pe bai'r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.
(2) Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, fel y mae wedi ei chymhwyso gan baragraff (1), yn cael effaith fel pe bai adran 4 (sy'n darparu terfyn amser ar gyfer prynu tir drwy orfodaeth) a pharagraff 3(3) o Atodlen 3 (sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhoi bondiau) wedi eu hepgor.
5 

(1) Mae Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 yn gymwys fel pe bai'r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol.
(2) Mae Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, fel y mae wedi ei chymhwyso gan baragraff (1), yn cael effaith gyda'r addasiadau canlynol.
(3) Yn adran 3 (hysbysiadau rhagarweiniol), yn lle is-adran (1) rhodder—“
(1) Before making a declaration under section 4 in respect to any land which is subject to a compulsory purchase order the acquiring authority must include the particulars specified in subsection (3) in a notice which is—
(a) given to every person with a relevant interest in the land with respect to which the declaration is to be made (other than a mortgagee who is not in possession); and
(b) published in a local newspaper circulating in the area in which the land is situated.”.
(4) Yn yr adran honno, yn is-adran (2), yn lle “(1)(b)” rhodder “(1)” ac ar ôl “given” mewnosoder “and published”.
(5) Yn yr adran honno, yn lle is-adrannau (5) a (6) rhodder—“
(5) For the purposes of this section, a person has a relevant interest in land if—
(a) that person is for the time being entitled to dispose of the fee simple of the land, whether in possession or in reversion; or
(b) that person holds, or is entitled to the rents and profits of, the land under a lease or agreement, the unexpired term of which exceeds one month.”.
(6) Yn adran 5 (y dyddiad cynharaf ar gyfer gweithredu datganiad)—
(a) yn is-adran (1), ar ôl “publication” mewnosoder “in a local newspaper circulating in the area in which the land is situated”; a
(b) hepgorer is-adran (2).
(7) Yn adran 7 (hysbysiad deongliadol i drafod telerau) yn isadran (1)(a), hepgorer y geiriau “(as modified by section 4 of the Acquisition of Land Act 1981)”.
(8) Mae cyfeiriadau at Ddeddf 1965 i'w dehongli fel cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i cymhwysir i gaffael tir o dan erthygl 3 (y pŵer i gaffael tir).
6 

(1) Caiff Network Rail gaffael drwy orfodaeth y cyfryw hawddfreintiau neu hawliau eraill dros unrhyw dir yr awdurdodwyd ef i'w caffael o dan erthygl 3 (y pŵer i gaffael tir) ag y bo eu hangen at unrhyw ddiben y caniateir caffael y tir hwnnw o dan y ddarpariaeth honno, drwy eu creu yn ogystal â thrwy gaffael hawddfreintiau neu hawliau eraill sydd eisoes yn bodoli.
(2) Yn ddarostyngedig i adran 8 o Ddeddf 1965 (fel y'i hamnewidir gan baragraff 5 o Atodlen 1 (addasu deddfiadau digolledu a phrynu gorfodol ar gyfer creu hawliau newydd)), pan fo Network Rail yn caffael hawl dros dir o dan baragraff (1), nid yw'n ofynnol iddo gaffael rhagor o fuddiant yn y tir hwnnw.
(3) Mae Atodlen 1 yn cael effaith at ddibenion addasu'r deddfiadau sy'n ymwneud â digolledu a darpariaethau Deddf 1965, o ran eu cymhwyso mewn perthynas â chaffael drwy orfodaeth hawl dros dir o dan yr erthygl hon drwy greu hawl newydd.
7 
Yn achos tir a bennir yn Atodlen 2 (tir na chaniateir ond caffael hawliau newydd ar ei gyfer), mae pwerau Network Rail i gaffael drwy orfodaeth o dan erthygl 3(1) (y pŵer i gaffael tir) yn gyfyngedig i gaffael y cyfryw hawddfreintiau a hawliau newydd eraill yn y tir yn unol ag erthygl 6(1) (y pŵer i gaffael hawliau newydd) ag y gallai fod ei angen at ddibenion adeiladu, cynnal a chadw, amddiffyn, adnewyddu a defnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig.
8 

(1) Caiff Network Rail, mewn cysylltiad â chyflawni'r gweithfeydd awdurdodedig, fynd i'r canlynol a chymryd meddiant dros dro—
(a) o'r tir a bennir yng ngholofn (2) o Atodlen 3 (tir y caniateir cymryd meddiant dros dro ohono) at y diben a bennir mewn perthynas â'r tir yng ngholofn (3) o'r Atodlen honno sy'n ymwneud â'r gweithfeydd awdurdodedig; a
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (11), o unrhyw un o diroedd eraill y Gorchymyn na chyflwynwyd ar ei gyfer hysbysiad mynediad o dan adran 11 o Ddeddf 1965 neu na wnaed unrhyw ddatganiad o dan adran 4 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981.
(2) Rhaid i Network Rail gyflwyno hysbysiad o'i fwriad i gael mynediad i'r tir i berchenogion a meddianwyr y tir, a hynny heb fod yn llai na 14 o ddiwrnodau cyn iddo fynd ar y tir a chymryd meddiant dros dro ohono o dan yr erthygl hon.
(3) Ni chaiff Network Rail, heb gytundeb perchenogion y tir, barhau i feddu ar unrhyw dir o dan yr erthygl hon ar ôl diwedd cyfnod o un flwyddyn sy'n cychwyn o'r dyddiad y cwblhawyd y gweithfeydd awdurdodedig.
(4) Cyn rhoi'r gorau i feddu ar dir a feddwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i Network Rail symud pob gwaith dros dro oddi yno ac adfer y tir i safon y mae perchenogion y tir yn rhesymol fodlon â hi; ond nid yw'n ofynnol i Network Rail ailosod adeilad a symudwyd mewn cysylltiad â chyflawni'r gweithfeydd awdurdodedig.
(5) Rhaid i Network Rail ddigolledu perchenogion a meddianwyr y tir a feddiannwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd drwy arfer y pwerau a roddir mewn perthynas â'r tir gan yr erthygl hon.
(6) Mae unrhyw anghydfod o ran hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (5), neu o ran swm y digollediad, i'w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
(7) Heb ragfarnu erthygl 19 (dim adennill ddwywaith), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw rwymedigaeth i ddigolledu o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall sy'n ymwneud â cholled neu ddifrod a achosir gan gyflawni unrhyw weithfeydd, ac eithrio colled neu ddifrod y mae digollediad yn daladwy ar eu cyfer o dan baragraff (5).
(8) Nid yw'r pwerau caffael tir drwy orfodaeth a roddir gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â'r tir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) heblaw fod yn rhaid peidio ag eithrio Network Rail rhag caffael hawliau newydd dros unrhyw dir a bennir yn Atodlen 2 (tir na chaniateir ond caffael hawliau newydd ar ei gyfer).
(9) Pan fo Network Rail yn cymryd meddiant o dir o dan yr erthygl hon, nid yw'n ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant yn y tir.
(10) Mae adran 13 o Ddeddf 1965 yn gymwys i'r defnydd dros dro o dir yn unol â'r erthygl hon i'r un graddau ag y mae'n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 4(1) (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965).
(11) Nid yw paragraff (1)(b) yn awdurdodi Network Rail i gymryd meddiant dros dro—
(a) o unrhyw dŷ neu ardd sy'n eiddo i dŷ; neu
(b) o unrhyw adeilad (ac eithrio tŷ) os yw wedi ei feddiannu ar y pryd.
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff Network Rail fynd i unrhyw dir y Gorchymyn a chymryd meddiant dros dro ohono os yw meddiant o'r fath yn rhesymol ofynnol at ddibenion cynnal a chadw'r gweithfeydd awdurdodedig neu unrhyw weithfeydd ategol sy'n gysylltiedig â hwy, a hynny ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cynnal a chadw sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r gweithfeydd awdurdodedig.
(2) Nid yw paragraff (1) yn awdurdodi Network Rail i gymryd meddiant dros dro—
(a) o unrhyw dŷ neu ardd sy'n eiddo i dŷ; neu
(b) o unrhyw adeilad (ac eithrio tŷ) os yw wedi ei feddiannu ar y pryd.
(3) Rhaid i Network Rail gyflwyno hysbysiad i berchenogion a meddianwyr y tir o'i fwriad i gael mynediad i'r tir, a hynny heb fod yn llai na 28 o ddiwrnodau cyn iddo fynd ar y tir a chymryd meddiant dros dro ohono o dan yr erthygl hon.
(4) Ni chaiff Network Rail ond parhau â meddiant o'r tir o dan yr erthygl hon cyhyd ag y bo hynny'n rhesymol angenrheidiol er mwyn cyflawni'r gwaith cynnal a chadw gweithfeydd y cymerwyd meddiant o'r tir ar ei gyfer.
(5) Cyn rhoi'r gorau i feddu ar dir a feddwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i Network Rail symud yr holl weithfeydd dros dro oddi yno ac adfer y tir i safon y mae perchenogion y tir yn rhesymol fodlon â hi.
(6) Rhaid i Network Rail ddigolledu perchenogion a meddianwyr y tir a feddwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd drwy arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â'r tir.
(7) Mae unrhyw anghydfod o ran hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (6), neu o ran swm y digollediad, i'w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
(8) Heb ragfarnu erthygl 19 (dim adennill ddwywaith), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw rwymedigaeth i ddigolledu o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall sy'n ymwneud â cholled neu ddifrod a achosir gan gyflawni unrhyw waith, ac eithrio colled neu ddifrod y mae digollediad yn daladwy ar eu cyfer o dan baragraff (6).
(9) Pan fo Network Rail yn cymryd meddiant o dir o dan yr erthygl hon, nid yw'n ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.
(10) Mae adran 13 o Ddeddf 1965 yn gymwys i'r defnydd dros dro o dir yn unol â'r erthygl hon i'r un graddau ag y mae'n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 4(1) (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965).
(11) Yn yr erthygl hon ystyr “y cyfnod cynnal a chadw” (“the maintenance period”) mewn perthynas â gwaith awdurdodedig yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n cychwyn ar y dyddiad pryd yr agorwyd y gwaith i'w ddefnyddio.
10 

(1) Wrth asesu'r digollediad sy'n daladwy i unrhyw berson wrth gaffael unrhyw dir oddi arno o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i'r tribiwnlys beidio ag ystyried—
(a) unrhyw fuddiant mewn tir; neu
(b) unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir oherwydd unrhyw adeilad a godwyd, unrhyw weithfeydd a gyflawnwyd neu unrhyw welliant neu addasiad a wnaed ar dir perthnasol,
os yw'r tribiwnlys wedi ei fodloni nad oedd creu'r buddiant, codi'r adeilad, cyflawni'r gweithfeydd na gwneud unrhyw welliant neu addasiad yn rhesymol angenrheidiol, ac y gwnaethpwyd hynny gyda'r bwriad o gael digollediad neu gynyddu'r digollediad.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw'r tir a gaffaelwyd oddi wrth y person o dan sylw neu unrhyw dir arall y mae'r person hwnnw yn gysylltiedig ag ef, neu yr oedd y person hwnnw'n gysylltiedig ag ef ar adeg codi'r adeilad, cyflawni'r gwaith neu wneud y gwelliant neu'r addasiad, boed hynny'n gysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol.
11 

(1) Wrth asesu'r digollediad sy'n daladwy i unrhyw berson mewn perthynas â chaffael unrhyw dir (gan gynnwys yr isbridd neu'r gofod awyr) oddi wrth y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i'r tribiwnlys wrth-gyfrif, yn erbyn gwerth y tir a gaffaelwyd felly, unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sydd ym mherchenogaeth y person hwnnw yn yr un modd a ddaw yn eiddo i'r person hwnnw o ganlyniad i adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig.
(2) Wrth asesu'r digollediad sy'n daladwy i unrhyw berson mewn perthynas â chaffael oddi wrth y person hwnnw unrhyw hawliau newydd dros dir (gan gynnwys yr isbridd neu'r gofod awyr) o dan erthygl 6 (y pŵer i gaffael hawliau newydd), rhaid i'r tribiwnlys wrth-gyfrif yn erbyn gwerth yr hawliau a gaffaelwyd felly—
(a) unrhyw gynnydd yng ngwerth y tir y caffaelwyd yr hawliau newydd drosto; a
(b) unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sydd ym mherchenogaeth y person hwnnw yn yr un modd,
a ddaw yn eiddo i'r person hwnnw o ganlyniad i adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2), mae Deddf 1961 yn cael effaith fel pe bai'r Gorchymyn hwn yn ddeddfiad lleol at ddibenion y Ddeddf honno.
12 

(1) Yr erthygl hon sy'n gymwys yn hytrach nag adran 8(1) o Ddeddf 1965 (fel y'i cymhwysir gan erthygl 4 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965)) yn unrhyw achos—
(a) pan gyflwynir hysbysiad i drafod telerau i berson (“y perchennog”) o dan Ddeddf 1965 (fel y'i cymhwysir gan erthygl 4) mewn perthynas â thir sydd wedi ei ffurfio gan ddim ond rhan o dŷ, adeilad neu ffatri neu o dir sydd wedi ei ffurfio gan dŷ â pharc neu ardd (“y tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau”) a
(b) pan gyflwynir copi o'r erthygl hon i'r perchennog gyda'r hysbysiad i drafod telerau.
(2) Mewn achos o'r fath, caiff y perchennog, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy'n cychwyn ar y diwrnod pryd y cyflwynir yr hysbysiad, gyflwyno gwrth-hysbysiad i Network Rail yn gwrthwynebu gwerthu'r tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau sy'n datgan bod y perchennog yn fodlon ac yn gallu gwerthu'r cyfan (“y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad”).
(3) Os na chyflwynir gwrth-hysbysiad o'r fath o fewn y cyfnod hwnnw, mae'n ofynnol i'r perchennog werthu'r tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau.
(4) Os cyflwynir gwrth-hysbysiad o'r fath o fewn y cyfnod hwnnw, bydd y mater p'un ai yw'n ofynnol i'r perchennog werthu dim ond y tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau yn cael ei atgyfeirio i'r tribiwnlys, oni bai fod Network Rail yn cytuno i gymryd y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad.
(5) Os bydd y tribiwnlys, ar adeg atgyfeiriad o'r fath, yn penderfynu y gellir cymryd y tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau—
(a) heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad; neu
(b) yn achos rhan o dir sy'n ffurfio tŷ â pharc neu ardd, heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad a heb effeithio'n ddifrifol ar amwynder a chyfleustra'r tŷ,
mae'n ofynnol i'r perchennog werthu'r tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau.
(6) Os bydd y tribiwnlys, ar adeg atgyfeiriad o'r fath, yn penderfynu mai rhan yn unig y gellir ei chymryd o'r tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau—
(a) heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad; neu
(b) yn achos rhan o dir sydd wedi ei ffurfio gan dŷ â pharc neu ardd, heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad a heb effeithio'n ddifrifol ar amwynder a chyfleustra'r tŷ,
bernir bod yr hysbysiad i drafod telerau yn hysbysiad i drafod telerau ar gyfer y rhan honno.
(7) Os bydd y tribiwnlys, ar adeg atgyfeiriad o'r fath, yn penderfynu—
(a) na ellir cymryd y tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad; ond
(b) bod y niwed sylweddol wedi ei gyfyngu i ran o'r tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad,
bernir bod yr hysbysiad i drafod telerau yn hysbysiad i drafod telerau ar gyfer y tir y mae'r niwed sylweddol wedi ei gyfyngu iddo, yn ogystal â'r tir sydd eisoes yn destun yr hysbysiad, boed y tir ychwanegol yn dir y mae Network Rail wedi ei awdurdodi i'w gaffael drwy orfodaeth o dan y Gorchymyn hwn neu beidio.
(8) Os bydd Network Rail yn cytuno i gymryd y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad neu os bydd y tribiwnlys yn penderfynu—
(a) na ellir cymryd dim o'r tir sy'n destun yr hysbysiad i drafod telerau heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad neu, yn ôl y digwydd, heb niwed sylweddol i weddill y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad a heb effeithio'n ddifrifol ar amwynder a chyfleustra'r tŷ; a
(b) nad yw'r niwed sylweddol wedi ei gyfyngu i ran o'r tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad,
bernir bod yr hysbysiad i drafod telerau yn hysbysiad i drafod telerau ar gyfer y tir sy'n destun y gwrth-hysbysiad, boed y cyfan o'r tir hwnnw yn dir y mae Network Rail wedi ei awdurdodi i'w gaffael drwy orfodaeth o dan y Gorchymyn hwn neu beidio.
(9) Mewn unrhyw achos pan fernir, yn rhinwedd penderfyniad gan y tribiwnlys o dan yr erthygl hon, fod hysbysiad i drafod telerau yn hysbysiad i drafod telerau am lai o dir neu ragor o dir nag a bennir yn yr hysbysiad, caiff Network Rail dynnu'n ôl yr hysbysiad i drafod telerau o fewn y cyfnod o 6 wythnos gan gychwyn ar y diwrnod pryd y gwneir y penderfyniad; ac os yw'n gwneud hynny rhaid iddo ddigolledu'r perchennog am unrhyw golled neu draul a wnaed i'r perchennog drwy roi'r hysbysiad a'i dynnu'n ôl, a'r tribiwnlys sydd i benderfynu ar hynny yn achos anghydfod.
(10) Pan fo'n ofynnol i'r perchennog, o dan yr erthygl hon, werthu dim ond rhan o dŷ, adeilad neu ffatri neu ran o dir sydd wedi ei ffurfio gan dŷ â pharc neu ardd, rhaid i Network Rail ddigolledu'r perchennog am unrhyw golled a ddioddefodd y perchennog oherwydd hollti'r rhan honno yn ogystal â gwerth y buddiant a gaffaelwyd.
13 

(1) Mae pob hawl comin dros y tir a ddangosir â rhifau 9 a 10 ar blan y tir wedi eu diddymu, ac mae pob hawl mynediad i'r cyhoedd dros y tir hwnnw'n dod i ben ar y dyddiad pryd y mae Network Rail yn ei gaffael.
(2) Mae pob hawl comin a phob hawl mynediad i'r cyhoedd dros dir comin y mae Network Rail yn cymryd meddiant dros dro ohono o dan y Gorchymyn hwn wedi eu hatal ac nid oes modd eu gorfodi cyhyd ag y bo Network Rail yn parhau â meddiant cyfreithlon o'r tir.
(3) Mae gan unrhyw berson sy'n dioddef colled oherwydd diddymu neu atal dros dro unrhyw hawl comin o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad sydd i'w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
14 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl preifat dros y tir a ddangosir â'r rhifau 1, 1a, 1b, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 a 12 ar blan y tir wedi eu diddymu—
(a) o'r dyddiad pryd y caffaelwyd y tir gan Network Rail, boed hynny drwy orfodaeth neu drwy gytundeb; neu
(b) ar y dyddiad mynediad ar y tir gan Network Rail o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965,
p'un bynnag sydd gynharaf.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl preifat dros y tir y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu a restrir yn Atodlen 2 (tir na chaniateir ond caffael hawliau newydd ar ei gyfer) wedi eu diddymu i'r graddau y byddai eu parhad yn anghyson ag arfer hawliau a awdurdodir i'w caffael o dan y Gorchymyn hwn—
(a) o'r dyddiad pryd y mae Network Rail yn eu caffael, boed hynny drwy orfodaeth neu drwy gytundeb; neu
(b) ar y dyddiad mynediad ar y tir gan Network Rail o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965 yn unol â'r hawl,
p'un bynnag sydd gynharaf.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros unrhyw dir y Gorchymyn sy'n eiddo i Network Rail (ac eithrio'r tir a bennir yn Atodlen 2 neu Atodlen 3 (tir y caniateir cymryd meddiant dros dro ohono)) ac sy'n ofynnol at ddibenion y Gorchymyn hwn yn cael eu diddymu ar adeg perchnogi'r tir at unrhyw un o'r dibenion hynny gan Network Rail.
(4) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros dir y mae Network Rail yn cymryd meddiant dros dro ohono o dan y Gorchymyn hwn wedi eu hatal ac nid oes modd eu gorfodi cyhyd ag y bo Network Rail yn parhau â meddiant cyfreithlon o'r tir.
(5) Mae gan unrhyw berson sy'n dioddef colled oherwydd diddymu neu atal unrhyw hawl breifat o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad sydd i'w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
(6) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hawl tramwy y mae adran 271 neu 272 o Ddeddf 1990 (diddymu hawliau ymgymerwyr statudol, etc.) yn gymwys iddynt.
(7) Mae paragraffau (1), (2), (3) a (4) yn cael effaith, yn ddarostyngedig i—
(a) unrhyw hysbysiad a roddir gan Network Rail cyn cwblhau'r broses o gaffael y tir, cyn i Network Rail ei berchnogi, cyn i Network Rail fynd arno neu cyn i Network Rail gymryd meddiant dros dro ohono nad oes un neu ragor o'r paragraffau hynny neu nad yw'r holl baragraffau hynny yn gymwys i unrhyw hawl tramwy a bennir yn yr hysbysiad; a
(b) unrhyw gytundeb sy'n cyfeirio at yr erthygl hon (boed wedi ei wneud cyn neu ar ôl unrhyw un o'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (a) a chyn neu ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym) rhwng Network Rail a'r person y mae'r hawl tramwy dan sylw wedi ei freinio ynddo neu'n perthyn iddo.
(8) Os mynegir bod unrhyw gytundeb o'r fath fel a grybwyllir ym mharagraff (7)(b) yn cael effaith hefyd er budd y rhai y mae eu teitl yn deillio o'r person neu o dan y person hwnnw y mae'r hawl tramwy dan sylw wedi ei breinio ynddo neu y mae'n berchennog arni, mae'n effeithiol mewn perthynas â'r personau y mae'r cyfryw deitl ganddynt, boed y deilliodd y teitl cyn neu ar ôl gwneud y cytundeb.
(9) Nid yw cyfeiriad yn yr erthygl hon at hawliau preifat dros dir yn cynnwys hawliau comin, ond mae'n cynnwys cyfeiriad at unrhyw ymddiriedolaethau neu nodweddion y mae'r tir yn ddarostyngedig iddynt.
15 

(1) Ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy'n cychwyn ar y diwrnod pryd y daw'r Gorchymyn hwn i rym—
(a) nid oes unrhyw hysbysiad i drafod telerau i'w gyflwyno o dan Ran 1 o Ddeddf 1965 fel y'i cymhwysir i gaffael tir gan erthygl 4 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965); a
(b) nid oes unrhyw ddatganiad i'w weithredu o dan adran 4 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 fel y'i cymhwysir gan erthygl 5 (cymhwyso Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981).
(2) Mae'r pwerau a roddir gan erthygl 8 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd) yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ond nid oes dim yn y paragraff hwn yn rhwystro Network Rail rhag parhau â meddiant o'r tir ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, os aethpwyd i'r tir hwnnw a chymryd meddiant ohono cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
RHAN 3
16 
Mae darpariaethau Atodlen 4 (y darpariaethau o ran ymgymerwyr statudol, etc.) yn cael effaith.
17 
Rhaid i Network Rail, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y Gorchymyn hwn, gyflwyno copïau o'r cyfeirlyfr a phlan y tir i Weinidogion Cymru i ardystio eu bod yn gopïau gwir, yn ôl eu trefn, o'r cyfeirlyfr a phlan y tir y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; ac mae dogfen a ardystiwyd felly yn dderbyniol mewn unrhyw achos llys fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae'n gopi ohoni.
18 

(1) Caniateir cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall sy'n ofynnol neu a awdurdodwyd i'w gyflwyno neu i'w chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn—
(a) drwy'r post; neu
(b) drwy drosglwyddiad electronig, gyda chydsyniad y derbynnydd, ac yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8).
(2) Os corff corfforaethol yw'r person y cyflwynir hysbysiad neu ddogfen arall iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn, bydd yr hysbysiad neu'r ddogfen wedi ei gyflwyno neu ei chyflwyno'n briodol os cyflwynir yr hysbysiad neu'r ddogfen i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.
(3) At ddibenion adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 (cyfeiriadau at gyflwyno drwy'r post) fel y'i cymhwysir at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen i'r person hwnnw o dan baragraff (1), os yw'r person hwnnw wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, yw'r cyfeiriad hwnnw, ac fel arall—
(a) swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol; a
(b) cyfeiriad hysbys olaf y person hwnnw ar adeg y cyflwyno, yn unrhyw achos arall.
(4) At ddibenion y Gorchymyn hwn, pan fo'n ofynnol cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall, neu yr awdurdodwyd gwneud hynny, i berson sydd ag unrhyw fuddiant yn y tir, neu sy'n feddiannydd y tir, ac ni ellir dod o hyd i'w enw na'i gyfeiriad ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy—
(a) ei gyfeirio at y person hwnnw gan ddefnyddio ei enw, neu gan ei ddisgrifio fel “perchennog” neu, yn ôl y digwydd, “meddiannydd” y tir (gan ddisgrifio'r tir); a
(b) naill ai ei adael yn nwylo'r person sydd, neu yr ymddengys ei fod, yn preswylio neu wedi ei gyflogi ar y tir, neu osod yr hysbysiad yn weladwy ar ryw adeilad neu wrthrych ar y tir neu'n agos ato.
(5) Pan gyflwynir neu yr anfonir, drwy drosglwyddiad electronig, hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol ei gyflwyno neu ei chyflwyno, neu ei anfon neu ei hanfon at ddibenion y Gorchymyn hwn, bernir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo derbynnydd yr hysbysiad neu'r ddogfen arall sydd i'w drosglwyddo neu i'w throsglwyddo wedi cydsynio, naill ai yn ysgrifenedig neu drwy drosglwyddiad electronig, i ddefnyddio'r trosglwyddiad electronig.
(6) Pan fo'r derbynnydd sy'n cael hysbysiad neu ddogfen arall a gyflwynir neu a anfonir drwy drosglwyddiad electronig yn hysbysu'r anfonwr o fewn 7 niwrnod ar ôl ei gael neu ei chael, fod arno angen copi papur o'r cyfan neu unrhyw ran o'r hysbysiad hwnnw neu'r ddogfen arall honno, rhaid i'r anfonwr ddarparu copi o'r fath cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(7) Yn unol â pharagraff (8), caiff person ddirymu unrhyw gydsyniad a roddir gan y person hwnnw i ddefnyddio trosglwyddiad electronig.
(8) Pan na fo person yn fodlon mwyach i dderbyn y defnydd o drosglwyddiad electronig at unrhyw un neu ragor o ddibenion y Gorchymyn hwn—
(a) rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad yn ysgrifenedig neu drwy drosglwyddiad electronig sy'n dirymu unrhyw gydsyniad a roddwyd gan y person hwnnw at y diben hwnnw; a
(b) mae dirymiad o'r fath yn derfynol, ac mae'n cymryd effaith ar y dyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond rhaid i'r dyddiad hwnnw beidio â bod yn llai na 7 niwrnod ar ôl y dyddiad pryd y rhoddwyd yr hysbysiad.
(9) Nid yw'r erthygl hon yn gwahardd defnyddio unrhyw ddull arall o gyflwyno na ddarparwyd ar ei gyfer yn ddatganedig ynddi.
19 
Nid yw digollediad yn daladwy o dan y Gorchymyn hwn ac o dan unrhyw ddeddfiad, unrhyw gontract neu unrhyw reol gyfreithiol arall mewn perthynas â'r un mater.
20 
Nid yw'r Gorchymyn hwn yn awdurdodi caffael, diddymu nac amharu ar unrhyw hawliau sydd gan SP Manweb plc, mewn perthynas â'i gebl trydan uwchben presennol, yn y tir a ddangosir â'r marciau 1a ac 1c ar blan y tir.
21 
Nid yw'r Gorchymyn hwn yn awdurdodi caffael drwy orfodaeth fuddiant mewn tir sy'n perthyn i'r Goron neu Ddugaeth, nac, ac eithrio â chydsyniad yr awdurdod priodol, unrhyw fuddiant arall mewn tir y mae buddiant gan y Goron neu Ddugaeth ynddo.
Carl Sargeant
Minister fôr Housing and Regeneration, un o Weinidogion Cymru.
26 Mawrth 2013
ATODLEN 1
Erthygl 6
1 
Mae'r deddfiadau sydd mewn grym am y tro o ran digolledu am brynu tir drwy orfodaeth yn gymwys, gyda'r addasiadau angenrheidiol o ran digolledu yn achos caffael hawl drwy orfodaeth o dan y Gorchymyn hwn drwy greu hawl newydd, fel y maent yn gymwys o ran digolledu am brynu drwy orfodaeth dir a buddiannau mewn tir.
2 

(1) Heb gyfyngu ar gwmpas paragraff 1, mae Deddf Digolledu Tir 1973 yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r addasiadau a geir yn is-baragraffau (2) a (3).
(2) Yn adran 44(1) (digolledu am effaith niweidiol), fel y mae'n gymwys i ddigolledu am effaith niweidiol o dan adran 7 o Ddeddf 1965 fel y'i hamnewidiwyd gan baragraff 4—
(a) yn lle'r geiriau “land is acquired or taken” rhodder y geiriau “a right over land is purchased”; a
(b) yn lle'r geiriau “acquired or taken from him” rhodder y geiriau “over which the right is exercisable”.
(3) Yn adran 58(1) (penderfynu ar niwed sylweddol pan fo rhan o dŷ etc. wedi ei fwriadu ar gyfer ei gaffael drwy orfodaeth), fel y mae'n gymwys i benderfyniadau o dan adran 8 o Ddeddf 1965 fel y'i hamnewidiwyd gan baragraff 5—
(a) yn lle'r gair “part” ym mharagraffau (a) a (b), rhodder y geiriau “a right over land consisting”;
(b) yn lle'r gair “severance” rhodder y geiriau “right over the whole of the house, building or manufactory or of the house and the park or garden”;
(c) yn lle'r geiriau “part proposed” rhodder y geiriau “right proposed”; a
(d) yn lle'r geiriau “part is” rhodder y geiriau “right is”.
3 

(1) Mae Deddf 1965 yn cael effaith gyda'r addasiadau sy'n angenrheidiol er mwyn ei gwneud yn gymwys i gaffael hawl drwy orfodaeth o dan y Gorchymyn hwn drwy greu hawl newydd fel y mae'n gymwys i gaffael tir drwy orfodaeth o dan y Gorchymyn hwn, fel bod cyfeiriadau yn y Ddeddf honno at dir, mewn cyd-destunau priodol, i'w darllen (yn unol â gofynion y cyd-destun penodol) fel pe baent yn cyfeirio at, neu'n cynnwys cyfeiriadau at—
(a) yr hawl a gaffaelwyd neu sydd i'w chaffael; neu
(b) y tir y mae'r hawl, neu y bydd yr hawl, yn arferadwy drosto.
(2) Heb gyfyngu ar gwmpas is-baragraff (1), mae Rhan 1 o Ddeddf 1965 yn gymwys mewn perthynas â chaffael hawl drwy orfodaeth o dan y Gorchymyn hwn drwy greu hawl newydd gyda'r addasiadau a bennir yn y darpariaethau a ganlyn o'r Atodlen hon.
4 
Yn lle adran 7 o Ddeddf 1965 (mesur y digollediad), rhodder yr adran a ganlyn—“
7 
In assessing the compensation to be paid by the acquiring authority under this Act regard must be had not only to the extent (if any) to which the value of the land over which the right is to be acquired is depreciated by the acquisition of the right but also to the damage (if any) to be sustained by the owner of the land by reason of its severance from other land of the owner, or injuriously affecting that other land by the exercise of the powers conferred by this or the exercise of the powers conferred by this or the special Act.”.
5 
Yn lle adran 8 o Ddeddf 1965 (darpariaethau eraill ynghylch tir a rennir), rhodder y canlynol—“
8 

(1) Where in consequence of the service on a person under section 5 of this Act of a notice to treat in respect of a right over land consisting of a house, building or manufactory or of a park or garden belonging to a house (“the relevant land”)—
(a) a question of disputed compensation in respect of the purchase of the right would apart from this section fall to be determined by the Upper Tribunal (“the tribunal”); and
(b) before the tribunal has determined that question the tribunal is satisfied that the person has an interest in the whole of the relevant land and is able and willing to sell that interest, and—
(i) where that land consists of a house, building or manufactory, that the right cannot be purchased without material detriment to that land; or
(ii) where that land consists of such a park or garden, that the right cannot be purchased without seriously affecting the amenity or convenience of the house to which that land belongs,
the Network Rail (Pont Briwet) (Land Acquisition) Order 2013 (“the Order”), in relation to that person, ceases to authorise the purchase of the right and be deemed to authorise the purchase of that person’s interest in the whole of the relevant land including, where the land consists of such a park or garden, the house to which it belongs, and the notice is deemed to have been served in respect of that interest on such date as the tribunal directs.
(2) Any question as to the extent of the land in which the Order is deemed to authorise the purchase of an interest by virtue of subsection (1) of this section is to be determined by the tribunal.
(3) Where in consequence of a determination of the tribunal that it is satisfied as mentioned in subsection (1) of this section the Order is deemed by virtue of that subsection to authorise the purchase of an interest in land, the acquiring authority may, at any time within the period of 6 weeks beginning with the date of the determination, withdraw the notice to treat in consequence of which the determination was made; but nothing in this subsection prejudices any other power of the authority to withdraw the notice.”.
6 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 1965 (sy'n datgan effaith gweithred unran a gwblhawyd mewn amgylchiadau amrywiol pan nad oes trawsgludiad gan bersonau sydd â buddiannau yn y tir), sef—
(a) adran 9(4) (perchenogion yn methu â thrawsgludo);
(b) paragraff 10(3) o Atodlen 1 (perchenogion ag analluogrwydd);
(c) paragraff 2(3) o Atodlen 2 (perchenogion absennol a pherchenogion na ellir eu holrhain); a
(d) paragraffau 2(3) a 7(2) o Atodlen 4 (tir comin),wedi eu haddasu er mwyn sicrhau bod yr hawl sydd i'w chaffael drwy orfodaeth wedi ei breinio yn llwyr yn yr awdurdod caffael, a hynny yn erbyn personau sydd â buddiannau yn y tir y mae'r weithred yn datgan ei bod yn drech na'r buddiannau.
7 
Mae adran 11 o Ddeddf 1965 (pwerau mynediad) wedi ei haddasu er mwyn sicrhau bod awdurdod caffael, o'r dyddiad pryd y cyflwynodd hysbysiad i drafod telerau mewn perthynas ag unrhyw hawl, yn meddu ar bŵer, sy'n arferadwy o dan amgylchiadau cyfatebol ac yn ddarostyngedig i amodau cyfatebol, i fynd ar dir at ddibenion arfer yr hawl honno (ac, at y diben hwn, bernir i'r hawl gael ei chreu ar ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad); ac mae adrannau 12 (cosb am fynediad heb awdurdod) a 13 (mynediad â gwarant os digwydd rhwystr) o Ddeddf 1965 wedi eu haddasu yn unol â hynny.
8 
Mae adran 20 o Ddeddf 1965 (diogelu buddiannau tenantiaid wrth ewyllys, etc.) yn gymwys gyda'r addasiadau sydd eu hangen i sicrhau bod personau sydd â'r buddiannau hynny mewn tir a grybwyllir yn yr adran honno yn cael eu digolledu mewn modd sy'n cyfateb i'r digollediad a fyddai'n daladwy iddynt o ganlyniad i gaffael y tir hwnnw drwy orfodaeth o dan y Gorchymyn hwn, ond gan ystyried dim ond i ba raddau y bu'r ymyrraeth honno (os bu un o gwbl) â'r buddiant hwnnw a achosir mewn gwirionedd, neu sy'n debygol o gael ei hachosi, drwy arfer yr hawl o dan sylw.
9 
Mae adran 22 o Ddeddf 1965 (diogelu meddiant yr awdurdod caffael pan na chafwyd, drwy amryfusedd, ystad, hawl na buddiant) wedi ei haddasu er mwyn galluogi'r awdurdod caffael, o dan amgylchiadau sy'n cyfateb i'r rheini y cyfeirir atynt yn yr adran honno, i barhau i gael yr hawlogaeth i arfer yr hawl a gaffaelwyd, yn ddarostyngedig i gydymffurfio â'r adran honno o ran digolledu.
ATODLEN 2
Erthygl 7


(1) (2)
Ardal Rhif y tir a ddangosir ar blan y tir
Yn ardal Cyngor Gwynedd 1c, 2a, 3a, 5a, 6a, 7a, 7b, 8a, 8b, a 10a
ATODLEN 3
Erthygl 8


(1) (2) (3)
Ardal Rhif y tir a ddangosir ar blan y tir Y diben y caniateir cymryd meddiant dros dro ar gyfer y gweithfeydd awdurdodedig
Yn ardal Cyngor Gwynedd 1c, 2a, 3a, 5a, 6a, 7a, 7b, 8a, 8b, 9a, 9b, 10a ac 11 Safle gwaith a mynedfa
ATODLEN 4
Erthygl 16
1 
Mae adrannau 271 i 274 o Ddeddf 1990 (y pŵer i ddiddymu hawliau ymgymerwyr statudol, etc. a phŵer ymgymerwyr statudol, etc. i symud neu adleoli cyfarpar) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir a gaffaelwyd neu a berchnogwyd gan Network Rail o dan y Gorchymyn hwn, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon: ac mae holl gyfryw ddarpariaethau eraill y Ddeddf honno sy'n gymwys at ddibenion y darpariaethau hynny (gan gynnwys adrannau 275 i 278, sy'n cynnwys darpariaethau canlyniadol i ddiddymu unrhyw hawliau o dan adrannau 271 a 272, ac adrannau 279(2) i (4), 280 a 282, sy'n darparu ar gyfer digolledu) yn cael effaith yn unol â hynny.
2 
Yn narpariaethau Deddf 1990, fel y'i cymhwysir gan baragraff 1, mae cyfeiriadau at y Gweinidog priodol yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.
3 
Pan symudir unrhyw gyfarpar ymgymerwyr cyfleustodau cyhoeddus neu ddarparwr cyfathrebu cyhoeddus yn unol â hysbysiad neu orchymyn a roddwyd neu a wnaed o dan adran 271, 272 neu 273 o Ddeddf 1990, fel y'u cymhwyswyd gan baragraff 1, bydd gan unrhyw berson sy'n berchennog neu'n feddiannydd mangre a oedd yn cael cyflenwad o'r cyfarpar hwnnw yr hawl i gael ei ddigolledu gan Network Rail mewn perthynas â gwariant a wnaed yn rhesymol gan y person hwnnw, oherwydd y symud, at ddibenion creu cysylltiad rhwng y fangre ac unrhyw gyfarpar arall sy'n rhoi cyflenwad.
4 
Nid yw paragraff 3 yn gymwys yn achos symud carthffos gyhoeddus, ond pan symudir carthffos o'r fath yn unol â hysbysiad neu orchymyn o'r fath fel a grybwyllir yn y paragraff hwnnw, bydd unrhyw berson—
(a) sy'n berchennog neu'n feddiannydd mangre sydd â'i draeniau'n gysylltiedig â'r garthffos honno; neu
(b) sy'n berchennog carthffos breifat sy'n gysylltiedig â'r garthffos honno,
â'r hawl i gael ei ddigolledu gan Network Rail mewn perthynas â gwariant a wnaed yn rhesymol gan y person hwnnw, oherwydd y symud, at ddiben cysylltu draen neu garthffos sy'n eiddo i'r person hwnnw ag unrhyw garthffos gyhoeddus arall neu â gweithfeydd preifat i waredu carthion.
5 
Nid yw darpariaethau Deddf 1990 a grybwyllir ym mharagraff 1, fel y cânt eu cymhwyso gan y paragraff hwnnw, yn cael effaith mewn perthynas â'r cyfarpar y mae Rhan 3 o Ddeddf 1991 yn gymwys mewn perthynas ag ef.
6 
Nid oes dim yn yr Atodlen hon yn effeithio ar ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad neu gytundeb i reoleiddio'r berthynas rhwng Network Rail ac ymgymerwr o ran unrhyw gyfarpar a osodir neu a godir ar dir sy'n eiddo i Network Rail ar y dyddiad pryd y gwneir y Gorchymyn hwn.
7 
Yn yr Atodlen hon—
 mae i “darparwr cyfathrebu cyhoeddus” yr un ystyr ag sydd i “public communications provider” yn adran 151(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003; ac
 mae i “ymgymerwyr cyfleustodau cyhoeddus” yr un ystyr ag sydd i “public utility undertakers” yn Neddf Priffyrdd 1980.