
RHAN 1
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013.
2 
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Ebrill 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”) yw corff llywodraethu sefydliad Ewropeaidd neu gorff arall i sefydliad Ewropeaidd sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
 ystyr “Canolfan Bologna” (“Bologna Center”) yw'r ysgol i raddedigion mewn cysylltiadau rhyngwladol a sefydlwyd gan Brifysgol Johns Hopkins yn Bologna;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy'n gwneud cais am gymorth yn unol â rheoliad 5;
 ystyr “Coleg Ewrop” (“College of Europe”) yw athrofa brifysgol astudiaethau a hyfforddiant ôl-raddedig mewn materion Ewropeaidd yn Bruges yng Ngwlad Belg ac yn Natolin yng Ngwlad Pwyl;
 ystyr “cwrs cyfredol” (“current course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth ar ei gyfer;
 ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw:
(a) cwrs ôl-raddedig neu gwrs cyffelyb sy'n para am o leiaf ddwy flwyddyn academaidd;
(b) y cafodd y ceisydd ddyfarniad statudol ar ei gyfer am o leiaf ddwy flwyddyn academaidd (ac eithrio dyfarniad y bwriedir iddo gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol y bu'n ofynnol i'r ceisydd ei ysgwyddo mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs oherwydd anabledd sydd neu a oedd gan y ceisydd);
 mae i “cwrs dynodedig” (“designated course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
 ystyr “cymorth” (“support”) yw cymorth ariannol ar ffurf grant a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig y mae'r cais am gymorth yn ymwneud â hi;
 ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth ariannol cyffelyb arall mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;
 ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990, Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990, Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed o dan y Deddfau hynny neu'r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 a rheoliadau a wnaed o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1998;
 ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951 fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967;
 ystyr “grantiau at gostau byw a chostau eraill” (“grants for living and other costs”) yw'r grantiau a bennir ac a gyfrifir yn unol â rheoliadau 20 i 27;
 mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;
 mae i “myfyriwr yng Nghanolfan Bologna” (“Bologna Center student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(1);
 mae i “myfyriwr yng Ngholeg Ewrop” (“College of Europe student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(2);
 ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“P” yn y diffiniad hwn)—
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;
(b) y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(c) y mae cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros heb ddod i ben neu y mae wedi ei adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002) mewn cysylltiad â'i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan roddwyd caniatâd i P ddod i mewn neu aros;
 ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2011;
 ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012;
 ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol neu warcheidwad neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn neu sydd â gofal dros blentyn;
 ystyr “sefydliad Ewropeaidd” (“European institution”) yw naill ai Canolfan Bologna neu Goleg Ewrop;
 ystyr “Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o bryd i'w gilydd.
(2) Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a'r Rheoliadau hyn os yw—
(a) yn dechrau ar 1 Medi 2013 neu ar ôl hynny;
(b) yn gwrs ôl-raddedig llawnamser neu'n gwrs cyffelyb;
(c) yn para am un flwyddyn academaidd; a
(d) yn cael ei ddarparu gan sefydliad Ewropeaidd.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae Rheoliadau 2011 wedi eu dirymu.
(2) Mae Rheoliadau 2011 yn parhau i fod yn gymwys i'r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar 1 Medi 2011 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Medi 2013.
RHAN 2
5 

(1) Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am gymorth ar gyfer un flwyddyn academaidd mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Rhaid i geisydd gyflwyno cais i Weinidogion Cymru i gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys ac am gymorth ar unrhyw ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin yn union cyn y dyddiad perthnasol (“y dyddiad cau i wneud cais”).
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol y dylai'r dyddiad cau i wneud cais gael ei lacio, pryd y bydd rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag unrhyw ddyddiad a bennir ganddynt mewn ysgrifen i'r ceisydd o dan sylw.
6 
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau na fydd nifer y dyfarniadau a roddir ar unrhyw un adeg mewn blwyddyn academaidd o dan y Rheoliadau hyn yn fwy na'r canlynol—
(a) un, yn achos Canolfan Bologna;
(b) un, yn achos Coleg Ewrop.
7 

(1) Caniateir i gymorth gael ei ddyfarnu i fyfyriwr cymwys am un flwyddyn academaidd mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 8, mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu, wrth asesu cais y person am gymorth, fod y person yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 1 a naill ai—
(a) bod awdurdod academaidd Coleg Ewrop yn hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen fod gan y person obaith rhesymol o gael cynnig lle ar y cwrs hwnnw gan Goleg Ewrop; neu
(b) bod awdurdod academaidd Canolfan Bologna yn enwebu'r person hwnnw i gael cymorth mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru.
(3) Nid yw person (“S”) yn fyfyriwr cymwys—
(a) os yw S, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymhwysol;
(b) os yw S wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c) os yw S wedi cyrraedd 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb yngln â benthyciad a wnaed gydag S pan oedd S o dan 18 oed; neu
(d) os yw S, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ymddygiad S nad yw S yn addas i gael cymorth.
(4) Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau penodol achos S, ei bod yn briodol dyfarnu cymorth i S mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol er gwaethaf y ffaith bod S wedi bod yn bresennol ar gwrs cymhwysol.
(5) At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(6) Mewn achos pan fo'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, mae paragraff (3)(c) yn gymwys dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—
(a) cyn 25 Medi 1991;
(b) gyda chydsyniad curadur S neu ar adeg pan nad oedd gan S guradur.
8 

(1) Daw statws person fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig (“cymhwystra'r myfyriwr”) i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y cafodd y cymorth ei ddyfarnu ar ei chyfer neu yn gynt yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Daw cymhwystra'r myfyriwr i ben pan fydd y myfyriwr—
(a) yn tynnu'n ôl o'r cwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 9(1); neu
(b) yn rhoi'r gorau i'r cwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(3) Daw cymhwystra myfyriwr i ben ar y diwrnod cyn y dyddiad perthnasol—
(a) os penderfynodd Gweinidogion Cymru fod person (“T” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu'n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llys-blentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr un sefydliad Ewropeaidd y mae statws T fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b) os yw statws ffoadur T neu briod, partner sifil, rhiant neu lys-riant T, yn ôl y digwydd, i ddod i ben cyn y dyddiad perthnasol ac nad oes rhagor o ganiatâd i aros wedi ei roi, ar y diwrnod cyn y dyddiad perthnasol ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(4) Daw cymhwystra myfyriwr i ben ar y diwrnod cyn y dyddiad perthnasol—
(a) os penderfynodd Gweinidogion Cymru fod person (“U” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr un sefydliad Ewropeaidd y mae statws U fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b) os yw'r cyfnod pan ganiateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i ddod i ben cyn y dyddiad perthnasol ac, ar y diwrnod cyn y dyddiad perthnasol, nad oes rhagor o ganiatâd i aros wedi ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(5) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cymhwystra'r myfyriwr os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos nad yw'r myfyriwr yn addas i gael cymorth.
(6) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw ystyr berthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o'r canlynol—
(a) terfynu cymhwystra'r myfyriwr;
(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw fath neu swm penodol o gymorth;
(c) trin unrhyw gymorth sydd eisoes wedi ei dalu i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 33.
9 

(1) Pan fydd myfyriwr cymwys yn trosglwyddo yn ystod y flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs arall hwnnw—
(a) os cânt gais gan y myfyriwr i wneud hynny;
(b) os ydynt wedi eu bodloni bod y myfyriwr wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac
(c) os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi ei derfynu fel arall.
(2) Mae gan fyfyriwr y mae ei statws fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo o dan baragraff (1) hawl i gael gweddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
(3) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (2) pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo o gwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall, nid yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn trosglwyddo ac nid oes gan y myfyriwr hawl i gael gweddill unrhyw gymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
RHAN 3
10 
Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu bod eu hangen er mwyn penderfynu—
(a) a yw ceisydd yn fyfyriwr cymwys;
(b) a oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth;
(c) swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl;
(d) a yw cymhwystra myfyriwr wedi terfynu;
(e) swm cyfraniad myfyriwr yng Ngholeg Ewrop at ddibenion Rhan 5;
(f) ai myfyriwr cymwys sydd fwyaf addas i gael cymorth os yw Gweinidogion Cymru yn cael mwy nag un cais am gymorth mewn cysylltiad â'r un flwyddyn academaidd a'r un sefydliad Ewropeaidd.
11 

(1) Rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys y rhoddir cymorth iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a dogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Pan fo'n gymwys rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys y rhoddir cymorth iddo roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi'r manylion i Weinidogion Cymru os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—
(a) bod y person yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;
(b) bod y person yn trosglwyddo i gwrs arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd;
(c) bod y person yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(d) bod y person yn absennol o'r cwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(e) bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(f) bod cyfeiriad gartref y person neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor yn newid.
12 

(1) Rhaid i'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei rhoi yn unol â'r Rheoliadau hyn gael ei rhoi i Weinidogion Cymru yn y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, bydd llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru yn bodloni'r gofyniad hwn.
(3) Llofnod electronig (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig sydd—
(a) wedi ei ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi ei gysylltu'n rhesymegol â hwy; a
(b) yn honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i gadarnhau bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau.
13 
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu ceisydd—
(a) a fernir bod y ceisydd hwnnw yn fyfyriwr cymwys;
(b) ynglŷn â swm y cymorth sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd o dan sylw, os oes cymorth yn daladwy o gwbl;
(c) a yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod cymhwystra myfyriwr wedi terfynu;
(d) ynglŷn â swm unrhyw gyfraniad gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop a gyfrifwyd o dan Atodlen 2.
RHAN 4
PENNOD 1
14 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu cymorth i un myfyriwr cymwys ar unrhyw un adeg sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghanolfan Bologna (“myfyriwr yng Nghanolfan Bologna”).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu cymorth i un myfyriwr cymwys ar unrhyw un adeg mewn blwyddyn academaidd sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Ngholeg Ewrop (“myfyriwr yng Ngholeg Ewrop”).
(3) Os bydd mwy nag un myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth ar gyfer yr un flwyddyn academaidd a'r un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru (os ydynt wedi penderfynu dyfarnu cymorth) ddyfarnu'r cymorth hwnnw i p'run bynnag o'r myfyrwyr cymwys y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu sydd fwyaf addas i gael cymorth.
15 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu dyfarnu cymorth o dan reoliad 14(1), rhaid iddynt ddyfarnu grant at ffioedd yn unol â Phennod 2.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu dyfarnu cymorth o dan reoliad 14(2), yn ddarostyngedig i reoliad 30 rhaid iddynt ddyfarnu—
(a) grant at ffioedd yn unol â Phennod 3; a
(b) grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 4.
16 

(1) Nid oes gan fyfyriwr cymwys mewn sefydliad Ewropeaidd hawl i gael unrhyw gymorth ar gyfer blwyddyn o ailadrodd astudiaethau.
(2) ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” (“year of repeat study”) yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi ymgymryd â hi o'r blaen ond y mae'r sefydliad Ewropeaidd yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd â hi eto.
PENNOD 2
17 

(1) Mae gan fyfyriwr yng Nghanolfan Bologna hawl i gael grant at ffioedd ar gyfer un flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).
(2) Swm y grant at ffioedd sy'n daladwy i fyfyriwr yng Nghanolfan Bologna ar gyfer un flwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs dynodedig yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall mewn cysylltiad ag ef, yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Uchafswm y grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn yw 34,000 ewro.
PENNOD 3
18 

(1) Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at ffioedd ar gyfer un flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).
(2) Swm y grant at ffioedd sy'n daladwy i fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop ar gyfer un flwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs dynodedig yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall mewn cysylltiad ag ef, yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Uchafswm y grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn yw 15,000 ewro.
PENNOD 4
19 

(1) Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop y dyfernir cymorth iddo (“myfyriwr” yn y Bennod hon) hawl i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y Bennod hon os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.
(2) Caniateir i'r swm sy'n daladwy ar gyfer unrhyw rai o'r grantiau at gostau byw a chostau eraill ac eithrio'r lwfans myfyrwyr anabl a'r grant ar gyfer dibynyddion y darperir ar eu cyfer yn rheoliadau 24 i 27, gael ei ostwng yn unol â Rhan 5.
20 
Mae gan fyfyriwr hawl i gael grant at gostau byw sy'n swm sydd yn hafal i swm (A + B)
 lle—
 mae A yn £2,542; ac
 mae B yn £50 am bob wythnos y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yng Ngholeg Ewrop uwchlaw 30 wythnos a 3 diwrnod, gan gynnwys wythnos pan fo'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yng Ngholeg Ewrop am lai na 5 diwrnod.
21 
Mae gan fyfyriwr hawl i gael uchafswm grant at fwrdd a llety o hyd at 7,000 ewro.
22 

(1) Mae gan fyfyriwr hawl i gael grant i deithio adref sy'n swm sydd yn hafal i (A - B)
 lle—
 A yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i Goleg Ewrop; a
 B yw £105.
(2) Mae gan fyfyriwr hawl i gael grant at deithio colegol am unrhyw swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio i Goleg Ewrop o gyfeiriad y myfyriwr yn ystod y tymor.
(3) Yn ddarostyngedig i gytundeb ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru cyn i gostau gael eu hysgwyddo, mae gan fyfyriwr hawl i gael grant i deithio ar gyfer ymchwil am unrhyw swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi ei hysgwyddo er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan Goleg Ewrop yn ystod y flwyddyn academaidd y dyfernir cymorth ar ei chyfer.
23 

(1) Mae gan fyfyriwr hawl i gael lwfans myfyrwyr anabl i gynorthwyo gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn cysylltiad â'r myfyriwr yn ymgymryd â chwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd gan y myfyriwr.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y lwfans myfyriwr anabl yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr i gynorthwyo gydag un neu ragor o'r mathau o wariant cymwys a ddisgrifir ym mharagraff (4).
(3) Rhaid i swm lwfans myfyriwr anabl beidio â bod yn fwy na £10,590 ar gyfer y flwyddyn academaidd.
(4) Dyma'r mathau o wariant cymwys—
(a) gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b) gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;
(c) unrhyw wariant ychwanegol a ysgwyddir—
(i) yn y wlad y lleolir Coleg Ewrop ynddi er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn teithio i Goleg Ewrop er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol.
24 

(1) Mae'r grant i ddibynyddion yn cynnwys yr elfennau a ganlyn—
(a) grant dibynyddion mewn oed; a
(b) lwfans dysgu rhieni.
(2) Nodir amodau hawlio pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 25 i 27.
25 

(1) Mae gan fyfyriwr hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn cysylltiad â dibynnydd i fyfyriwr sydd naill ai—
(a) yn bartner i'r myfyriwr; neu
(b) yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr os nad yw incwm trethadwy'r myfyriwr yn fwy na £3,923.
(3) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 27, a'r swm sylfaenol yw—
(a) £2,732; neu
(b) os yw'r person y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad ag ef yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,732 sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
26 

(1) Mae gan fyfyriwr hawl mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu ragor o blant dibynnol.
(2) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy ar gyfer blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 27, a'r swm sylfaenol yw £1,557.
27 

(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau a ganlyn, y swm sy'n daladwy ar gyfer elfen benodol o'r grant i ddibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael o dan reoliadau 25 a 26 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A minws B) fel a ganlyn ac yn y drefn a ganlyn er mwyn gostwng swm sylfaenol—
(a) y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 25; a
(b) y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 26.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant i ddibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A minws B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni y mae gan y myfyriwr hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy ar gyfer pob elfen yw dim.
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o hanner—
(a) os yw partner y myfyriwr—
(i) yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii) yn dal dyfarniad statudol; a
(b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i'w gael neu'r taliad y mae gan y person hawlogaeth i'w gael o dan y dyfarniad statudol.
(5) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
 A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
 B yw—
(a) £1,159 os nad oes gan y myfyriwr blant dibynnol;
(b) £3,473 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
(c) £4,632 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
(d)  £4,632 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
(e) £5,797 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
28 

(1) At ddibenion rheoliadau 25 i 27—
(a) ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw oedolyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr, ac eithrio plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;
(b) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto ac sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;
(c) ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(d) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(e) ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;
(f) ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol;
(g) mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2) y caniateir ei ostwng yn unol â pharagraff (3);
(h) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i) a (j), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—
(i) priod;
(ii) partner sifil;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw yn briod i'r myfyriwr os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw yn bartner sifil i'r myfyriwr os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(i) at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(j) at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn preswylio fel arfer gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(k) mae i “blwyddyn ariannol flaenorol” (“prior financial year”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm trethadwy y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn ariannol flaenorol wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn cysylltiad â hi ond gan anwybyddu—
(a) unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b) budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(c) unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
(d) unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(e) yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989;
(f) unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989;
(g) unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac
(h) unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002.
(3) Os yw partner myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn y dyddiad perthnasol, incwm net partner y myfyriwr yw'r incwm trethadwy wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi ei ostwng yn ôl—
(a) swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os yw'r rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi ei hysgwyddo'n rhesymol; neu
(b) unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi ei hysgwyddo'n rhesymol, ym marn Gweinidogion Cymru.
(4) At ddibenion paragraff (2), mae taliadau i gael eu trin fel incwm i'r plentyn—
(a) os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol; a
(b) os yw'r taliadau yn cael eu gwneud i'r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn.
RHAN 5
29 
Cyfraniad myfyriwr yng Ngholeg Ewrop ar gyfer blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 2, os oes unrhyw swm o gwbl.
30 
Rhaid i gyfraniad y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop gael ei gymhwyso er mwyn gostwng neu ddileu symiau'r grantiau at gostau byw a chostau eraill y byddai gan y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawlogaeth i'w cael fel arall yn y drefn a ganlyn—
(a) grant y myfyriwr at gostau byw a gyfrifir o dan reoliad 20;
(b) swm y grant dibynyddion mewn oed, os oes un, a gyfrifir yn unol â rheoliad 25;
(c) swm y lwfans dysgu rhieni, os oes un, a gyfrifir yn unol â rheoliad 26;
(d) swm y grant at fwrdd a llety, os oes un, yn unol â rheoliad 21;
(e) swm y grant at deithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(1);
(f) swm y grant at deithio colegol yn unol â rheoliad 22(2);
(g) swm y grant at deithio ar gyfer ymchwil a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(3).
RHAN 6
31 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant at ffioedd a ddyfarnwyd i geisydd nes eu bod wedi cael cais dilys am y taliad oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau'r grant at ffioedd i'r awdurdod academaidd mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau o gwbl) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol.
32 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill i fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau o gwbl) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, dalu'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 21 (grant at fwrdd a llety) i'r awdurdod academaidd perthnasol er mwyn i'r awdurdod academaidd dalu'r grant perthnasol ar eu rhan.
(3) Os na all asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill sy'n daladwy i fyfyriwr gael ei wneud ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan geisydd, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o'r grantiau hynny hyd nes y ceir yr asesiad terfynol.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, wneud taliad o lwfans myfyrwyr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw yn ddyledus mewn cysylltiad â hi.
(5) Pan fo'r amgylchiadau yn rheoliad 11(2)(a) neu reoliad 11(2)(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud taliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs oni bai eu bod yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs—
(a) am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch; neu
(b) am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall,
oni bai eu bod yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.
33 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y cymorth y mae gan y person hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.
RHAN 7
34 

(1) Mae Atodlen 5 i Reoliadau 2012 wedi ei diwygio yn unol â'r paragraffau a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 9(1)(a) yn lle “£39,793” rhodder “£39,778”.
(3) Ym mharagraff 9(1)(a) yn lle “£9.27” rhodder “£8.97”.
(4) Ym mharagraff 9(1)(b) yn lle £39,793” rhodder “£39,778”.
(5) Ym mharagraff 9(2)(a) yn lle “£50,778” rhodder “£50,753”.
(6) Ym mharagraff 9(2)(b) yn lle “£50,778” rhodder “£50,753”.
(7) Ym mharagraff 9(3)(a) yn lle “£50,503” rhodder “£50,488”.
(8) Ym mharagraff 9(3)(b) yn lle “£50,503” rhodder “£50,488”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Mawrth 2013
ATODLEN 1
Rheoliad 7
RHAN 1
1 

(1) At ddibenion yr Atodlen hon—
 ystyr “aelod o deulu” (“family member”) oni nodir fel arall yw—
(a) o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE—
(i) priod y person hwnnw neu ei bartner sifil;
(ii) disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd—
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;
(b) o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—
(i) priod y person neu ei bartner sifil; neu
(ii) plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;
(c) o ran gwladolyn o'r UE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—
(i) priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
(ii) disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion y gwladolyn neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;
(d) o ran gwladolyn o'r UE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—
(i) priod neu bartner sifil y gwladolyn;
(ii) disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion y gwladolyn neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;
(e) o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—
(i) priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
(ii) disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion y gwladolyn neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;
 ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan yr Undeb Ewropeaidd, Gweriniaeth Iwerddon, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;
 ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o'r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
 ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
 ystyr “gweithiwr” yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
 ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—
(a) sy'n weithiwr yng Nghymru; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd a oedd ar y dyddiad perthnasol—
(a) yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a
(b) mewn cyflogaeth gyfreithlon, neu wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;
 ystyr “gwladolyn o'r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;
 ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
 ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
 ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
 ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
(a) yn berson cyflogedig yng Nghymru; a
(b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—
(a) o ran gwladolyn o'r AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu
(b) o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
 ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
(a) yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
(b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sydd—
(a) yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
(b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
 mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o'r ardaloedd hynny er mwyn ymgymryd—
(a) â'r cwrs cyfredol, y cwrs dysgu o bell cyfredol, y cwrs rhan-amser cyfredol neu'r cwrs ôl-raddedig cyfredol; neu
(b) gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn union cyn ymgymryd â'r cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a),
i'w ystyried yn berson sy'n preswylio fel arfer yn y lle y symudodd y person ohono.
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P” yn yr is-baragraff hwn) i gael ei drin fel person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
(a) P;
(b) priod neu bartner sifil P;
(c) rhiant P; neu
(d) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i'r ardal o dan sylw.
(4) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—
(a) yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd; a
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd; ac
(c) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o'r cyfryw luoedd.
(5) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—
(a) nad oedd gynt yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
(b) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Cynllun hwn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall, neu o'r ddwy, o'r ardaloedd hyn,
i'w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
RHAN 2
2 

(1) Person—
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac eithrio yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a
(d) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel person sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(3).
3 
Person—
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a
(d) mewn achos lle'r oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
4 

(1) Person sydd—
(a) yn ffoadur;
(b) yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael ei gydnabod yn ffoadur; ac
(c) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.
(2) Person—
(a) sy'n briod neu'n bartner sifil i ffoadur;
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur gais am loches;
(c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.
(3) Person—
(a) sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;
(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur gais am loches, yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;
(d) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
(e) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.
5 

(1) Person—
(a) sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.
(2) Person—
(a) sy'n briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i)  ei gais am loches; neu
(ii) ei gais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches;
(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.
(3) Person—
(a) sy'n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) ei gais am loches; neu
(ii) ei gais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;
(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) ei gais am loches;
(ii) ei gais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches;
(d) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac
(e) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.
6 

(1) Person sydd—
(a) ar y dyddiad perthnasol—
(i) yn weithiwr mudol o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig o'r AEE;
(ii) yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;
(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);
(iv) yn weithiwr ffin yr AEE neu'n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;
(v) yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu
(vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);
(b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
7 
Person sydd—
(a) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(b) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac
(c) â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud, fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.
8 

(1) Person—
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â'r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;
(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac
(e) mewn achos lle'r oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio—
(a) os yw'r person hwnnw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd â hawl i breswylio'n barhaol sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig; neu
(b) yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'r person yn mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn iddi neu y mae'r person y mae'n aelod o'i deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.
9 

(1) Person—
(a) sydd naill ai—
(i) yn wladolyn o'r UE ar y dyddiad perthnasol, ac eithrio person sy'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu
(ii) yn aelod o deulu person o'r fath;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a
(d) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu ei breswylio arferol yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel person sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(3).
(3) At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o'r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw'r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig.
10 

(1) Person—
(a) sydd ar y dyddiad perthnasol yn wladolyn o'r UE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a
(d) mewn achos lle'r oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r UE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.
11 
Person—
(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth ariannol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) mewn achos lle'r oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
12 
Person—
(a) a oedd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
ATODLEN 2
Rheoliad 29
RHAN 1
1 

(1) Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;
 ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“prior financial year”) yw'r flwyddyn dreth yn union cyn y flwyddyn dreth a ddaeth i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;
 ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifir incwm person mewn cysylltiad â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy'n gymwys iddi;
 ystyr “blwyddyn dreth berthnasol” (“relevant tax year”) yw blwyddyn dreth y mae incwm person i'w asesu mewn cysylltiad â hi at ddibenion y Rheoliadau hyn;
 mae i “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 1;
 mae i “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2(2);
 ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw:
(a) mewn cysylltiad â phersonau ac eithrio myfyrwyr cymwys annibynnol, incwm trethadwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol flaenorol;
(b) mewn cysylltiad â myfyrwyr cymwys annibynnol, incwm trethadwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y dyfernir cymorth ar ei chyfer,ar ôl cymhwyso paragraff 3 yn achos myfyriwr, paragraff 4 yn achos rhiant i fyfyriwr a pharagraff 5 yn achos partner i fyfyriwr, ac yn ddarostyngedig i'r paragraffau hynny;
 ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”) yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion—
(a) y Deddfau Treth Incwm;
(b) deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir sy'n gymwys i incwm y person;
(c) os yw deddfwriaeth mwy nag un Wladwriaeth AEE neu ddeddfwriaeth Gwladwriaeth AEE a'r Swistir yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu y talodd y person neu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4);
 ystyr “myfyriwr” (“student”) yw myfyriwr yng Ngholeg Ewrop y dyfernir cymorth iddo;
 mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (2);
 ystyr “partner” (“partner”) yw:
(a) mewn perthynas â myfyriwr, unrhyw un o'r canlynol—
(i) priod y myfyriwr;
(ii) partner sifil y myfyriwr;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda'r myfyriwr fel pe bai'n briod i'r myfyriwr os yw'r myfyriwr yn 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda'r myfyriwr fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr os yw'r myfyriwr yn 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(b) mewn perthynas â rhiant myfyriwr, unrhyw un o'r canlynol ac eithrio rhiant arall i'r myfyriwr—
(i) priod rhiant y myfyriwr;
(ii) partner sifil rhiant y myfyriwr;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y myfyriwr fel pe bai'n briod i'r rhiant;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y myfyriwr fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant.
(2) Mae “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yn fyfyriwr—
(a) sy'n 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(b) a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn y dyddiad perthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;
(c) nad oes ganddo riant yn fyw;
(d) y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt mewn perthynas ag ef;
(e) nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn y dyddiad perthnasol neu lle y gall y myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;
(f) sydd wedi derbyn gofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989, drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis sy'n diweddu ar neu ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn 16 oed a chyn y dyddiad perthnasol (“y cyfnod perthnasol”) (ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi bod o dan awdurdod neu reolaeth ei rieni mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol);
(g) y mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni naill ai—
(i) y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu
(ii) na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 7;
(h) (pan fo paragraff 4(9) yn gymwys) y mae ei riant, y barnodd Gweinidogion Cymru mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw, wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);
(i) sy'n aelod o urdd grefyddol ac sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;
(j) y mae ar y dyddiad perthnasol yn gofalu am berson o dan 18 oed; neu
(k) (“S” yn y paragraff hwn) sydd wedi cynnal S o enillion S am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn y dyddiad perthnasol a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, a bod S at ddibenion y paragraff hwn i gael ei drin fel pe bai'n cynnal S o enillion S yn ystod unrhyw gyfnod—
(i) pan oedd S yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);
(ii) pan oedd S yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;
(iii) pan oedd S ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn budd-daliadau;
(iv) pan oedd gan S ddyfarniad statudol neu ddyfarniad tebyg arall; neu
(v) pan oedd S yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.
(3) Mae unrhyw fyfyriwr sydd â hawl fel myfyriwr cymwys annibynnol o dan is-baragraff (2)(j) mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw drwy gydol cyfnod cymhwystra'r myfyriwr.
RHAN 2
2 

(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
(2) Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—
(a) yn achos myfyriwr nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr wedi ei agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr (yn ddarostyngedig i baragraff 4(9)) ac incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9));
(b) yn achos myfyriwr cymwys annibynnol sydd â phartner, incwm gweddilliol y myfyriwr wedi ei agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw; neu
(c) yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.
(3) Wrth ganfod incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu—
(a) am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu ar bartner y myfyriwr; neu
(b) am bob plentyn ac eithrio'r myfyriwr sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr neu ar bartner rhiant y myfyriwr y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.
3 

(1) Er mwyn canfod incwm gweddilliol myfyriwr, didynnir o incwm trethadwy'r myfyriwr (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth ganfod yr incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r paragraffau canlynol—
(a) unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr, ac eithrio unrhyw symiau a dalwyd mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi ei ryddhau o ddyletswyddau arferol y myfyriwr er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;
(b) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.
(2) Os yw'r myfyriwr yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddiben y paragraff hwn yw—
(a) os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn; neu
(b) fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.
4 

(1) Er mwyn canfod incwm trethadwy rhiant myfyriwr, rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniadau y disgwylid eu gwneud nac unrhyw esemptiadau a ganiateid—
(a) ar ffurf y rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;
(b) yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly oddi tano neu oddi tani; neu
(c) o dan is-baragraff (2).
(2) Er mwyn canfod incwm gweddilliol rhiant myfyriwr, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw rai o'r paragraffau a ganlyn—
(a) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddiben deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;
(b) mewn unrhyw achos pan fo incwm yn cael ei gyfrifo yn unol ag is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac
(c) yn achos rhiant myfyriwr y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,130.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn dreth a ddaeth i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol (“y flwyddyn dreth flaenorol”), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn dreth flaenorol.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn dreth, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn dreth gynt, caiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y person hwnnw am bob un o'r blynyddoedd treth y mae'r flwyddyn academaidd honno yn syrthio ynddynt fel ei incwm gweddilliol.
(5) Os yw rhiant y myfyriwr yn bodloni Gweinidogion Cymru bod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y paragraff hwn at flwyddyn dreth i'w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn cysylltiad ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.
(6) Os yw rhiant myfyriwr yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n rhan o incwm y rhiant hwnnw at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir dim ond am y rheswm—
(a) nad yw'r rhiant yn preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, os nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn y Wladwriaeth AEE honno neu'r Swistir;
(b) nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, nad yw'n codi yn y Wladwriaeth AEE honno neu'r Swistir; neu
(c) bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae incwm trethadwy'r rhiant at ddiben yr Atodlen hon i'w gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, yn ôl y digwydd.
(7) Os yw incwm rhiant y myfyriwr yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, mae i'w gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth AEE honno neu'r Swistir, ac incwm rhiant y myfyriwr at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei ganfod yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(8) Os yw un o rieni'r myfyriwr yn marw a bod incwm y rhiant hwnnw wedi ei gymryd i ystyriaeth er mwyn canfod incwm yr aelwyd neu y byddai wedi ei gymryd i ystyriaeth felly—
(a) os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn dreth berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w ganfod drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu
(b) os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn dreth berthnasol, cymerir mai cyfanswm y canlynol yw incwm yr aelwyd—
(i) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn dreth berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a
(ii) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn dreth berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.
(9) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn dreth berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae Gweinidogion Cymru yn credu yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.
(10) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—
(a) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn dreth berthnasol pan oedd y rhieni wedi gwahanu; a
(b) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir fel arall mewn cysylltiad â gweddill y flwyddyn dreth berthnasol.
5 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 4, mae incwm partner myfyriwr yn cael ei ganfod yn unol â pharagraff 4, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn dreth berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth ganfod incwm yr aelwyd.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei ganfod drwy gyfeirio at incwm y partner o dan is-baragraff (1) wedi ei rannu â hanner cant a dau ac wedi ei luosi â nifer yr wythnosau cyflawn yn y flwyddyn dreth berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oedd y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu.
(4) Os oes gan fyfyriwr fwy nag un partner yn y flwyddyn dreth berthnasol, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.
6 

(1) O ran myfyriwr nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol neu sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol â phartner, y cyfraniad yw—
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £23,680 neu fwy, £45 gan ychwanegu £1 am bob £8.78 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £23,680, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4); a
(b) os yw incwm yr aelwyd yn llai na £23,680, dim.
(2) O ran myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, y cyfraniad yw—
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £11,025 neu fwy, £45 gan ychwanegu £1 am bob £8.61 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £11,025, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4); a
(b) os yw incwm yr aelwyd yn llai na £11,025, dim.
(3) Rhaid i swm y cyfraniad a gyfrifir o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy na £7,992.
(4) Os ffurfir incwm yr aelwyd o incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a phartner y myfyriwr hwnnw a bod gan y ddau ddyfarniad statudol, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau a gyfrifir o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy nag—
(i) £7,992; neu
(ii) y cyfraniad a fyddai'n daladwy pe bai dyfarniad gan un o'r myfyrwyr yn unig.
7 

(1) Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 6 a bod un neu fwy o'r amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, swm y cyfraniad sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r myfyriwr yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn gyfiawn ar ôl cymryd amgylchiadau penodol y myfyriwr i ystyriaeth.
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—
(a) bod gan fwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr ddyfarniad statudol;
(b) bod gan riant y myfyriwr ddyfarniad statudol;
(c) bod gan bartner rhiant y myfyriwr ddyfarniad statudol;
(d) bod gan bartner y myfyriwr ddyfarniad statudol.