
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2013.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 8 Ebrill 2013.
(3) Mae erthygl 2(c) yn dod i rym ar 29 Ebrill 2013.
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae paragraff (2) o erthygl 3 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (k) yn lle “.” rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder—“
(l) the standard or enhanced rate of the daily living component of personal independence payment under section 78(3) of the Welfare Reform Act 2012;”;
(c) ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—“
(m) universal credit under Part 1 of the Welfare Reform Act 2012 the calculation of which includes an amount under regulation 27(1) of the Universal Credit Regulations 2013 in respect of the fact that the person in question has limited capability for work or limited capability for work and work-related activity or would include such an amount but for regulation 27(4) or 29(4) of those Regulations.”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
18 Mawrth 2013