
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2013.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2013.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o Reoliadau 1992, ar ôl y diffiniad o “the Act” mewnosoder—“
 “armed forces independence payment” means an armed forces independence payment under the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2011;”
3 
Yn Atodlen 3 i Reoliadau 1992 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion)—
(a) ar ôl paragraff 4 mewnosoder—“
4A 
Any armed forces independence payment.”;
(b) ym mharagraff 11, ar ôl “Income Support Regulations” (specified provisions)” mewnosoder—“
 save for paragraph 16(cc)”;
(c) ar ôl paragraff 11 mewnosoder—“
11A 
Any guaranteed income payment referred to in article 15(1)(c) of the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2011.
11B 
Subject to paragraph 31, £10 of any survivor’s guaranteed income payment referred to in article 29(1)(a) of the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2011 and, if the amount of that payment has been abated to less than £10 by a pension falling within article 39(1)(a) of that Order, so much of that pension as would not, in aggregate with the amount of any survivor’s guaranteed income payment disregarded, exceed £10.”; ac
(d) ym mharagraff 31, yn lle “paragraph 11”, rhodder “paragraphs 11 and 11B”.
4 
Yn rheoliad 14 o Reoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011 (proses yr asesiad modd)—
(a) ar ddiwedd paragraff (4)(c), hepgorer “a”;
(b) ar ddiwedd paragraff (4)(ch) yn lle'r atalnod llawn rhodder “;”; ac
(c) ar ôl paragraff (4)(ch) mewnosoder—“
(d) diystyru yn llawn unrhyw daliad incwm gwarantedig y cyfeirir ato yn erthygl 15(1)(c) o Orchymyn y Lluoedd Arfog (Cynllun Iawndal) 2011; a
(dd) diystyru yn llawn unrhyw daliad annibyniaeth y lluoedd arfog a wneir o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011.”.
5 
Yn rheoliad 16 o Reoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011(proses yr asesiad modd)—
(a) ar ddiwedd paragraff (4)(c), hepgorer “a”;
(b) ar ddiwedd paragraff (4)(ch) yn lle'r atalnod llawn rhodder “;”; ac
(c) ar ôl paragraff (4)(ch) mewnosoder—“
(d) diystyru yn llawn unrhyw daliad incwm gwarantedig y cyfeirir ato yn erthygl 15(1)(c) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011; a
(dd) diystyru yn llawn unrhyw daliad annibyniaeth y lluoedd arfog a wneir o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
15 Mawrth 2013