
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) a Chymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2013.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2013.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 1
2 
Y swm y mae awdurdod lleol i ragdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £24.50 yr wythnos.
3 
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2012 wedi ei ddirymu.
RHAN 2
4 

(1) Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 wedi eu diwygio yn unol â'r paragraffau a ganlyn o'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 6 (perthnasau atebol), yn lle “10” rhodder “15”.
(3) Ar ôl rheoliad 9 (cyfrifo incwm) mewnosoder—“
9A 

(1) Earnings derived from employment as an employed earner or a self-employed earner are to be disregarded in the calculation of a resident’s income.
(2) For the purposes of this Regulation—
(a) “earnings” in relation to an employed earner has the same meaning—
(i) as in regulation 35 of the Housing Benefit Regulations 2006 or,
(ii) where the earner has attained the qualifying age for state pension credit, as in regulation 35 of the Housing Benefit (Persons who have attained the qualifying age for state pension credit) Regulations 2006 (earnings of employed earners); and
(b) “earnings” in relation to a self employed earner has the same meaning as in regulation 37 of the Income Support Regulations.”.
(4) Mae rheoliadau 10 (enillion enillwyr hunangyflogedig), 11 (cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig), 12 (swm wythnosol elw net enillwyr hunangyflogedig), 13 (enillion enillwyr cyflogedig) a 14 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig) wedi eu hepgor.
(5) Ym mharagraff (1) o reoliad 15 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion) yn lle “to be taken into account” rhodder “as defined in regulation 9A(2)”.
(6) Yn rheoliad 18 (cyfrifo incwm sy'n deillio o gyflogaeth enillwyr cyflogedig ac incwm ac eithrio enillion)—
(a) ym mharagraff (1) hepgorer “net earnings derived from employment as an employed earner and”; a
(b) ym mharagraff (2), yn lle “earnings as an employed earner or income other than earnings are” rhodder “income other than earnings is”.
(7) Ym mharagraff (2) o reoliad 20A (Terfyn Cyfalaf — Cymru), yn lle'r ffigur “£23,250” rhodder y ffigur “£23,750.”.
(8) Mae Atodlen 2 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo enillion) wedi ei hepgor.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
15 Mawrth 2013